Mae modd cofrestru ar gyfer achlysur Rasys Rhithwir Nos Galan o ddydd Iau, 1 Hydref. Mae rhaid i’r achlysur sy'n digwydd bob Nos Galan symud ar-lein yn sgil pandemig y Coronafeirws.
Yn gynharach y mis yma, fe wnaeth y Pwyllgor Nos Galan gyhoeddi y byddai achlysur 2020 yn un rhithwir, yng ngoleuni pandemig parhaus y Coronafeirws, oherwydd bod rhaid sicrhau bod y miloedd o gystadleuwyr a chefnogwyr yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Yn sgil hyn, dyw hi ddim yn bosibl cynnal yr achlysur mewn modd corfforol eleni.
Bydd nifer fechan o leoedd ar gael i'w cadw o 9am ddydd Iau, 1 Hydref. Dylai cystadleuwyr gadw eu lle cyn gynted ag y bo modd er mwyn peidio â chael eu siomi. Y gost ar gyfer cystadlu i bobl a phlant o bob oedran fydd £7.50, yn sgil cynnal yr achlysur yn y modd yma eleni. Cofrestrwch ar gyfer eich tocynnau yma.
Bydd Rasys Rhithwir Nos Galan 2020 yn cael eu cynnal o 1 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr ac mae modd i gystadleuwyr gwblhau eu ras unrhyw adeg rhwng y dyddiau hynny. Mae modd i gystadleuwyr redeg, cerdded, sgipio neu gropian pellter o 5 cilomedr ar unrhyw adeg – mae modd iddyn nhw gwblhau’r pellter mewn un sesiwn, neu dros nifer o ddyddiau gwahanol – mae modd gwneud hyn yn yr awyr agored (yn unigol neu mewn grwpiau sy'n cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol) neu dan do ar felin draed. Rhaid uwchlwytho tystiolaeth i www.nosgalan.co.uk.
Rhaid i gystadleuwyr olrhain eu pellter drwy ap olrhain neu oriawr/ffôn clyfar. Unwaith bydd y cystadleuwyr wedi cwblhau'r pellter gofynnol, rhaid uwchlwytho tystiolaeth ar ffurf llun neu giplun ar y wefan. Os yw cystadleuwyr yn defnyddio melin draed, rhaid tynnu llun o'r pellter sy wedi'i redeg ar y peiriant.
Bydd cystadleuwyr yn parhau i dderbyn medal a chrys-t ar ôl iddyn nhw gwblhau pellter o 5 cilomedr ac unwaith i'r dystiolaeth gael ei hadolygu gan y garfan Nos Galan.
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth a Chadeirydd Pwyllgor Nos Galan: “Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith dirdynnol ar bob un o'n bywydau ac yn ddiweddar mae'r pethau arferol yn ein bywydau wedi dod i ben neu wedi newid yn llwyr.
“Rydyn ni'n gwybod bod Rasys Nos Galan yn uchafbwynt y flwyddyn i lawer, o bobl leol i rai ar draws y wlad, ac roedd y Pwyllgor yn benderfynol o sicrhau y byddai achlysur 2020 yn mynd yn ei flaen, mewn un ffordd neu'r llall.
“Mae cyfyngiadau ar waith ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd a rhaid i bobl barhau i gadw pellter cymdeithasol yn y dyfodol agos, felly does dim modd cynnal yr achlysur yn ei fformat arferol eleni. Er hyn, rwy'n hynod falch, yn y sefyllfa sydd ohoni, bod modd i bobl gymryd rhan a chystadlu yn yr achlysur fydd yn para am fis cyfan, a bydd y rhai sy'n cwblhau pellter o 5km yn cael medal a chrys-t am eu hymdrechion.”
Dilynwch Rasys Nos Galan ar Twitter a Facebook, neu ewch i www.nosgalan.co.uk, am ragor o wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am achlysur 2020.
Wedi ei bostio ar 24/09/2020