georhe north

Mae Nos Galan 2022 yn achlysur hyd yn oed yn fwy cyffrous nawr wrth i George North, arwr Rygbi Cymru, gyrraedd Aberpennar fel y rhedwr enwog dirgel.

Mae'r awyrgylch yn Aberpennar yn arbennig heno, a hynny gan fod yr achlysur unigryw yma'n cael ei gynnal yn fyw unwaith eto yn dilyn heriau rhithwir y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd pandemig COVID-19.

Felly, pa ffordd well o godi calonnau gwylwyr a rhedwyr na chael cwmni seren y Gweilch a thîm Cymru, sydd wedi sgorio rhagor o geisiadau dros y wlad nag unrhyw chwaraewr arall sy'n rhan o garfan Gymru ar hyn o bryd.

Yn ail i Shane Williams, George North yw'r chwaraewr sydd wedi sgorio'r mwyaf o bwyntiau erioed dros Gymru.

Mae George yn cymryd seibiant o chwarae rygbi ar hyn o bryd wrth iddo wella o anaf i'w wyneb a gafodd ef yng ngêm y Gweilch yn ddiweddar, ac felly mae wedi penderfynu ysbrydoli pobl sy'n cymryd rhan mewn pob math o chwaraeon. Bydd yn cefnogi'r rheiny sy'n cymryd rhan yn y rasys elît i ddynion a merched, y ras hwyl a'r rasys i blant, heno.

Cyrhaeddodd George ganol y dref gyda ffagl eiconig Nos Galan -sydd wedi'i chynnau am y tro cyntaf ers iddi gael ei chario gan Nigel Owens MBE yn ôl yn 2019 - ar ôl ymweld â bedd Guto Nyth Brân yn Eglwys Gwynno Sant yng Nghoedwig Llanwynno.

Guto Nyth Brân (Griffith Morgan) yw'r cawr sydd y tu ôl i Rasys Nos Galan. Ar un adeg, roedd pobl yn credu mai ef oedd y dyn cyflymaf yn y byd. Roedd yn adnabyddus am ei allu i redeg yn gynt nag ysgyfarnogod a'i allu i ddal adar â'i ddwylo ei hun.

Fe ysbrydolodd y diweddar Bernard Baldwin MBE i gynnal y cyntaf o fwy na 60 o Rasys Nos Galan ym 1958 ac, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae’r achlysur wedi denu enillwyr y Gemau Olympaidd a phencampwyr y byd i gymryd rhan yn y rasys.  Yn ei anterth, cafodd yr achlysur ei ddarlledu ar y BBC. 

Mae Rasys Nos Galan yn parhau i anrhydeddu Guto Nyth Brân a Bernard Baldwin, a George North yw'r diweddaraf yn y rhestr hirfaith o rai o sêr gorau'r byd chwaraeon yn y wlad i gario'r ffagl i Aberpennar, gan nodi dechrau Nos Galan. Mae rhedwyr dirgel blaenorol yn cynnwys Chris Coleman, Shane Williams, Colin Jackson, Sam Warburton, Nathan Cleverly a llawer yn rhagor. 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Ffordd Nos Galan: "Rydyn ni wrth ein boddau i gael George North yn cario ffagl Nos Galan i Aberpennar ar Nos Galan 2022, i lansio'r achlysur byw cyntaf ers 2019.

"Hir yw pob ymaros, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan ein rhedwyr a'n noddwyr wrth i ni weithio i gadw'r chwedl yn fyw mewn ffyrdd eraill pan nad oedd modd i ni gynnal yr achlysur yn fyw.

"Mae Nos Galan yn ôl ac yn dod ag un o sêr chwaraeon mwyaf llwyddiannus Cymru i strydoedd Aberpennar. Croeso, George!”

 

Wedi ei bostio ar 31/12/22