Mae Rasys adnabyddus Nos Galan yn dychwelyd i strydoedd Aberpennar yn 2022 am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Bydd lleoedd ar gyfer cymryd rhan yn cael eu rhyddhau yn wythnosol, gan ddechrau ar 3 Hydref, i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gadw lle ar yr achlysur sydd wedi ennill gwobrau.
Dyma gyhoeddiad y mae miloedd o redwyr a chefnogwyr yr achlysur wedi bod yn aros amdano, a hynny ar ôl i'r achlysur gael ei gynnal mewn modd rhithwir yn 2020 a 2021 oherwydd pandemig y Coronafeirws.
Diolch i gefnogaeth aruthrol y rheiny a ymunodd â'r her rithwir mewn nifer o ffyrdd gwahanol, mae dyfodol i'r ras arbennig! Bydd y rasys yn dychwelyd i strydoedd Aberpennar lle bydd rhedwyr, plant a chefnogwyr yn mwynhau awyrgylch arbennig Nos Galan.
Bydd lleoedd yn cael eu rhyddhau am y tro cyntaf am 10am ddydd Llun, 3 Hydref. Yna:
- 12pm ddydd Llun, 10 Hydref
- 5pm ddydd Llun, 17 Hydref
Bydd y lleoedd i gyd yn cael eu rhyddhau'n brydlon ar www.nosgalan.co.uk
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan: "Dyma gyhoeddiad y mae pawb wedi bod yn aros amdano ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael cynnal Rasys Nos Galan ar strydoedd Aberpennar.
"Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd ac mae dyfodol y rasys wedi'i sicrhau o ganlyniad i gefnogaeth aruthrol y rheiny a addasodd y ffordd yr aethon nhw ati i 'gadw'r chwedl yn fyw' yn ystod cyfnod anodd y Coronafeirws. Rhedon nhw ar strydoedd y fwrdeistref sirol, ac yn ein parciau a'n campfeydd lleol, i gwblhau eu heriau 5k.
"Erbyn hyn, rydyn ni wrthi'n paratoi trefniadau ar gyfer Rasys Nos Galan ac mae'r achlysur yn mynd i fod yn anhygoel. Mae bob amser awyrgylch gwych yn Aberpennar wrth i redwyr o bob cwr o'r DU fynd i'r strydoedd i gystadlu mewn ras hanesyddol sydd wedi ennill gwobrau.
"Mae'r achlysur am fod hyd yn oed yn well eleni wrth i ni ddathlu'r hanes a chadw chwedl Guto Nyth Brân yn fyw - fel rydyn ni wedi'i wneud ers dros 60 o flynyddoedd."
Mae Rasys Nos Galan yn dathlu Guto Nyth Brân. Fe oedd dyn cyflymaf y byd ar un adeg, gyda rhai yn honni y byddai'n trechu ysgyfarnog mewn ras. Mae'r achlysur bob amser yn dechrau gyda gwasanaeth yn Eglwys Sant Gwynno, Llanwynno, i osod torch wrth ei fedd cyn i'r brif ras ddechrau. Bydd ein rhedwr/wyr enwog dirgel yn rhedeg drwy'r dref gyda ffagl Nos Galan.
Dechreuodd Rasys Nos Galan yn 1958, ar ôl cael eu sefydlu gan y diweddar Bernard Baldwin MBE. Rhagor am y stori yma: https://cynonvalleymuseum.wales/2020/12/11/the-life-of-bernard-baldwin-founder-of-the-nos-galan-races-part-1/
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am Rasys Nos Galan, llwybr y ras a threfniadau'r noson ar www.nosgalan.co.uk cyn bo hir.
Wedi ei bostio ar 26/09/2022