Skip to main content

Cartref gofal Ferndale

 
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu llety gofal modern o'r radd flaenaf yng Nglynrhedynog. Bydd y datblygiad, a fydd yn canolbwyntio ar ofal dementia, yn cael ei adeiladu ar hen safle Ffatri 'Chubb'.

Bydd y llety newydd yn disodli Cartref Gofal Preswyl presennol Tŷ Glynrhedynog. Yn rhan o gytundeb sydd eisoes wedi'i sefydlu, bydd gweithlu ymroddedig y cartref presennol yn trosglwyddo i'r datblygiad newydd pan fydd wedi'i gwblhau, ochr yn ochr â'r preswylwyr presennol. 

Ferndale-dementia-care-home

Cyrhaeddodd y prosiect garreg filltir bwysig ym mis Awst 2026 pan roddwyd caniatâd cynllunio llawn ar gyfer yr adeilad a'r cyfleusterau newydd.

Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys 32 o leoedd gofal dementia preswyl, gan ymateb i anghenion lleol.  Bydd yn cynnwys swyddfeydd, mannau bwyta, cegin a golchdy. Bydd gwaith tirlunio yn cael ei gynnal yn yr ardal allanol a bydd maes parcio'n cael ei ddarparu ar y safle. Yn ogystal â hyn bydd system draenio cynaliadwy yn cael ei gosod.

Caniatâd cynllunio wedi'i gadarnhau ar gyfer cartref gofal dementia modern yng Nglynrhedynog (Awst 2026)

Mae'r safle tir llwyd bellach wedi'i ddymchwel, a bydd y cartref newydd yn parhau i ddefnyddio'r ffordd fynediad bresennol o'r A4233, trwy fynd ar hyd Ystad Ddiwydiannol Glynrhedynog.