Skip to main content

Caniatâd cynllunio wedi'i gadarnhau ar gyfer cartref gofal dementia modern yng Nglynrhedynog

Ferndale dementia care new - Copy

Mae'r Cyngor yn falch bod caniatâd cynllunio wedi'i roi er mwyn darparu cartref gofal dementia modern, newydd gyda 32 o ystafelloedd gwely yng Nglynrhedynog. Dyma garreg filltir allweddol tuag at yr ymrwymiad sydd wedi'i wneud i ddarparu cartref gofal o'r radd flaenaf yn y gymuned – sydd nawr yn gallu dechrau mynd rhagddo.

Rhoddodd yr aelodau ganiatâd llawn ar gyfer y datblygiad cyffrous yma yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau, 13 Awst. Bydd y datblygiad newydd yn disodli'r cartref gofal presennol, Ferndale House, gyda'r gweithlu ymroddedig a sefydledig presennol yn symud i'r datblygiad newydd pan fydd wedi'i gwblhau, ochr yn ochr â'r preswylwyr presennol. Mae'r trefniant yma wedi'i gytuno o flaen llaw ac yn addewid diamod i'r gymuned gan y Cyngor.

Bydd y cyfleuster modern yn cael ei adeiladu ar hen safle Ffatri 'Chubb' yng Nglynrhedynog, ac roedd modd i'r gymuned ddysgu rhagor a dweud ei dweud am y cynlluniau cychwynnol mewn achlysur cyhoeddus ym mis Mawrth 2025 – ac yna’n rhan o ymarfer ymgysylltu ehangach hyd at fis Mehefin 2025. Cafodd adborth ei ystyried ac fe helpodd hyn i lywio'r cais terfynol. Wedyn, cafodd y cais yna'i ystyried gan y pwyllgor ddydd Iau.

Cafodd y penderfyniad ddydd Iau ei wneud yn unol ag argymhellion gan swyddog i gymeradwyo'r cais. Nododd adroddiad yn dilyn y cyfarfod y bydd y cynllun yn ymateb i anghenion lleol ac yn helpu i fynd i'r afael â'r angen am ddarparieth cartrefi gofal ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r cartref hefyd wedi'i glustnodi ar gyfer safle tir llwyd ac yn cael ei ystyried yn dderbyniol o ran pob un o'r ystyriaethau cynllunio.

Mae'r cydsyniad llawn yn rhoi caniatâd i'r cartref gofal a'r cyfleusterau cysylltiedig gael eu hadeiladu– megis swyddfeydd, mannau bwyta, cegin a golchdy, yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, meysydd parcio a system ddraenio gynaliadwy yn allanol. Bydd y safle'n parhau i ddefnyddio'r mynediad presennol o'r A4233 trwy Ystad Ddiwydiannol Glynrhedynog. Mae'r safle ei hun yn wag, gyda'r holl adeiladau blaenorol wedi cael eu tynnu i lawr.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn bod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi cefnogi cais y Cyngor i ddarparu cartref gofal modern i bobl gyda dementia, yng nghymuned Glynrhedynog. Gwnaeth y Cyngor ymrwymiad yn flaenorol y byddai datgomisiynu Cartref Gofal Ferndale House ond yn digwydd pan fydda'r cartref modern yma wedi'i adeiladu, gyda'r holl staff ymroddedig a'r preswylwyr y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw'n cael cynnig i drosglwyddo i'r cyfleuster newydd. Mae hynny'n dal yn hollol wir, ac mae rhoi caniatâd cynllunio ddydd Iau yn gam pwysig yn y broses yma.

"Y datblygiad yng Nglynrhedynog yw'r diweddaraf ymhlith sawl buddsoddiad i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i’r henoed. Ers 2020, rydyn ni wedi agor cartrefi gofal ychwanegol Maes-y-ffynon a Chwrt yr Orsaf yn Aberaman a’r Graig, tra bod trydydd cyfleuster gofal o'r radd flaenaf wedi cael ei adeiladu'n ddiweddar yn ardal Porth, ac wedi'i drosglwyddo i'r Cyngor. Rydyn ni'n gwneud cynnydd da wrth adeiladu cyfleuster gofal arbenigol yn ardal Gelli, a fydd yn cael ei gwblhau'n ddiweddarach eleni. Yn yr un modd, dechreuodd cyfnod adeiladu cartref gofal cymysg yn Aberpennar yn gynharach eleni, er mwyn ei agor yn 2027. Mae yna ymrwymiad ar gyfer y dyfodol hefyd i ddarparu llety gofal arbenigol ym Mhentre’r Eglwys.

"Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd rhan yng ngweithgarwch ymgysylltu'r haf diwethaf lle cafodd y cynlluniau cychwynnol ar gyfer datblygiad Glynrhedynog eu rhannu. Roedd yr adborth lleol yn amrhisiadwy o ran helpu swyddogion i gyflwyno'r cais cynllunio terfynol. Yn dilyn cymeradwyaeth ddydd Iau gan y Pwyllgor, mae modd i'r datblygiad symud ymlaen nawr tuag at y cyfnod adeiladu. Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r gymuned am y cynnydd wrth i ni symud ymlaen tuag at gyflawni'r prosiect gwych yma.”

Dysgwch ragor ynglŷn â buddsoddiad parhaus y Cyngor mewn gofal preswyl ac ychwanegol ar ein tudalennau gwe #TrawsnewidRhCT dynodedig.

Wedi ei bostio ar 21/08/2026