Mae'r Cyngor yn falch o rannu newyddion cyffrous am ei fuddsoddiad mewn cartref gofal dementia preswyl modern yng Nglynrhedynog, gyda'r gwaith adeiladu bellach wedi cychwyn ar y safle. Mae hyn yn dilyn swyddogion y Cyngor yn penodi Andrew Scott Ltd yn brif gontractwr adeiladu'r prosiect yn ddiweddar, ynghyd â chynnal gwaith clirio llystyfiant cychwynnol y mis diwethaf.
Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Awst 2026 ar gyfer y datblygiad modern, gyda'r Cyngor yn addo cyflawni'r prosiect yma erbyn 2028.
Wedi'i leoli ar hen safle ffatri Chubb, bydd y llety gofal dementia newydd yn disodli cartref gofal Ferndale House sydd yno ar hyn o bryd. Bydd gweithlu presennol y cartref yn symud i'r datblygiad newydd pan fydd wedi'i gwblhau, ynghyd â'r preswylwyr presennol, lle bo hynny'n briodol. Mae'r trefniant yma wedi'i gytuno ymlaen llaw ac yn addewid diamod i'r gymuned gan y Cyngor.
Dechreuodd y gwaith clirio llystyfiant cychwynnol ar y safle yn ystod mis Hydref 2026, gyda'r gwaith adfer tir yn dechrau mis Tachwedd 2026. Mae hyn yn nodi dechrau'r prif gyfnod adeiladu. Bydd y contractwr yn dechrau torri tir ar sylfeini'r adeilad newydd ym mis Ionawr, ac mae disgwyl cwblhau'r gwaith ddiwedd haf 2028.
Bydd y gwaith cychwynnol yn ystod yr wythnosau cyntaf yn cynnwys clirio tir a gwaith adfer, creu mynediad i'r safle, lle i gadw peiriannau ac offer, a gosod ffensys i greu ffin y safle. Mae swyddogion y Cyngor wedi rhoi gwybod i'r ysgol gyfagos am y trefniadau, a does dim disgwyl llawer o darfu o gwbl ar ddisgyblion na'r gymuned yn ystod y cyfnod adeiladu.
Bydd y llety yn cynnwys 32 o welyau gofal dementia, yn ogystal â swyddfeydd, lle i'r preswylwyr ymgynnull a bwyta, cegin a golchdy. Y tu allan bydd gwaith tirlunio'n cael ei gynnal, ynghyd â chreu maes parcio a system ddraenio gynaliadwy. Bydd y contractwr yn parhau i ddefnyddio'r A4233 trwy Ystad Ddiwydiannol Glynrhedynog i fynd i mewn i'r safle.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae’r diweddariad sylweddol yma'n pwysleisio unwaith yn rhagor bod darparu’r llety gofal dementia modern newydd yma yng Nglynrhedynog yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gerrig milltir diweddar ar gyfer y prosiect yma, o roi caniatâd cynllunio yn yr haf, penodi contractwr ym mis Hydref i gychwyn ar y gwaith adeiladu.
“Bydd aelodau o staff a'r preswylwyr yng nghartref gofal Ferndale House yn cael cynnig lle yn y llety gofal newydd unwaith y bydd yn agor ddiwedd 2028, sef rhan allweddol o gytundeb y Cabinet pan gafodd y cartref newydd ei gymeradwyo. Bydd swyddogion y Cyngor yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r gwaith ar y safle fynd rhagddo dros y 18 mis nesaf, ac wrth i'r cyfnod pontio agosáu.
"Y datblygiad yng Nglynrhedynog yw'r diweddaraf ymhlith sawl buddsoddiad i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i’r henoed ledled Rhondda Cynon Taf. Ers 2020, rydyn ni wedi agor tri llety gofal ychwanegol yn Aberaman, Porth a Phontypridd. Maen nhw'n ganolfannau poblogaidd yn eu cymunedau sy'n rhoi cefnogaeth ddydd a nos i breswylwyr i'w helpu i aros yn annibynnol cyhyd â phosibl. Yn ogystal â hyn, mae'r gwaith yn mynd rhagddo yn y Gelli ar gyfleuster gofal arbenigol newydd, ac yn Aberpennar ar lety gofal cymysg. Mae disgwyl i'r ddau agor yn 2027. Rydyn ni hefyd yn datblygu llety gofal arbenigol i'w agor ym Mhentre'r Eglwys rywbryd yn y dyfodol.
“Gyda'r gwaith yn mynd rhagddo nawr yng Nglynrhedynog, bydd y safle’n trawsnewid yn raddol o waith cychwynnol i baratoi'r tir cyn y Nadolig, i ddechrau adeiladu sylfeini’r adeilad yn y flwyddyn newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weld y safle'n newid dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, wrth i'r Cyngor fuddsoddi mewn llety gofal modern ar gyfer yr 21ain ganrif y mae'r gymuned yn gallu bod yn falch ohono.”
Dysgwch ragor ynglŷn â buddsoddiad parhaus y Cyngor mewn gofal preswyl a gofal ychwanegol ar ein tudalennau gwe #TrawsnewidRhCT pwrpasol.
Wedi ei bostio ar 13/11/2026