Skip to main content

Diweddariadau Cynnydd o ran y Prosiect

 

Mis Mawrth 2025 – Gwaith Paratoi

Gwaith paratoi cychwynnol wedi dechrau ar y safle ddiwedd mis Mawrth, gyda disgwyl i'r prif waith adeiladu ddechrau cyn hir wedi hynny.

 Mis Ionawr 2025 – Caniatâd Cynllunio

Ar 30 Ionawr 2025, cafodd  caniatâd cynllunio llawn ei roi i'r prosiect gan alluogi i gynnydd gweithredol gael ei wneud. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yn y gwanwyn.

 Mis Hydref 2024 – Cyflwyno Cynllun Llawn

Roedd y garreg filltir yma yn gam olaf yn y broses ddylunio cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Roedd yn benllanw dwy flynedd o waith caled gan aelodau carfan y prosiect. Roedden nhw wedi bod yn gweithio'n agos gyda staff a disgyblion ysgolion cynradd Cefn a Craig-Yr-Hesg a chymuned ehangach Glyn-coch.

 Haf 2024 – Proses YCC

Cafodd y broses Ymgynghori ar y Cais Cyn-Cynllunio (YCC) ei chynnal o 20 Mehefin hyd nes 18 Gorffennaf 2024. Roedd yn fodd o gynnig cyfle i drigolion fwrw golwg ar gynlluniau'r ysgol newydd mewn manylder a dweud eu dweud ynghylch y cynigion cyn i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno'n swyddogol.

Cafodd sesiynau galw draw a sesiynau ymgysylltu pwrpasol eu cynnal gyda'r disgyblion yn y ddwy ysgol er mwyn gofalu bod modd i'r plant a'r gymuned yn ehangach ddweud eu dweud wyneb yn wyneb.

Cafodd disgyblion y cyfle i ymgolli yn nyluniad yr adeilad newydd gan ddefnyddio pensetiau Realiti Rhithwir!

Cafodd  ‘hediad drwy'r dyluniad’ digidol, o'r ysgol newydd  ei rannu er mwyn i'r sawl oedd yn methu bod yn bresennol wyneb yn wyneb fwrw golwg arno.

 Mis Chwefror 2024 – Penodi Contractwr

Cafodd Willmott Dixon ei benodi i oruchwylio'r broses ddylunio hyd at y pwynt dechrau ar y gwaith adeiladu.

Haf 2023 – Rhoi Dechrau i'r Prosiect

Fe wnaeth swyddogion y Cyngor a phenseiri Stride Treglown gyfarfod â staff a disgyblion o ysgolion cynradd Cefn a Craig-Yr-Hesg i roi dechrau i'r broses ddylunio.

Children-in-Hall

 Cafodd Fforwm Rhanddeiliad o'r Gymuned ei sefydlu yn rhan o'r ymrwymiad o ran y prosiect i gael yr ysgolion a'r gymuned yn ehangach yn ymgysylltu'n llawn yn y broses ddylunio. Bwriwch olwg ar ein tudalen Gweithio gyda Chymunedau'r Ysgol i gael rhagor o wybodaeth.

 Mis Ebrill 2023 – Caniatâd i Fwrw Ymlaen

Cafodd Glyn-coch ei ddewis gan Lywodraeth Cymru yn un o blith tri phrosiect llwyddiannus gafodd eu cymeradwyo i symud ymlaen at gam nesaf yr Her, gan ein galluogi i ddechrau ar y broses ddylunio.

 Mis Medi 2022 – y Cais Ariannu

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wahodd pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno prosiect ar gyfer ysgol gynradd newydd, i'w ystyried o dan yr Her Ysgolion Cynaliadwy. Y nod o ran y fenter yma oedd gofalu bod cynaliadwyedd amgylcheddol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn digwydd ar bob cam o'r gwaith dylunio, adeiladu, a hefyd pan fydd yr ysgolion yn weithredol.

Fe wnaeth y Cyngor a'i benseiri, Stride Treglow, ymgysylltu â'r ysgolion presennol ac aelodau'r gymuned, o'r dechrau'n deg, at ddibenion datblygu gweledigaeth y prosiect sef:

'Creu canolfan ar gyfer addysg, y gymuned a llesiant, sy'n uno Glyn-coch, yn diwallu anghenion lleol ac yn gwireddu dyheadau dysgwyr a'r gymuned.'

 Mis Ionawr hyd at fis Mehefin 2022 – Ymgynghoriad Statudol Sefydliad yr Ysgol

Cafodd proses ymgynghori statudol ei gynnal ynghylch cynigion i gyfuno ysgolion cynradd Cefn a Chraig-Yr-Hesg ac agor ysgol Saesneg gynradd gymunedol, newydd sbon, erbyn mis Medi 2026. Y cynnig o ran yr ysgol oedd y byddai'n gwasanaethu dalgylchoedd yr ysgolion cyfredol, ar y cyd, ac yn cael ei lleoli ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig Yr Hesg a'r tir gerllaw. Canlyniad y broses ymgynghori oedd bod Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo'r cynigion ar 22 Mehefin 2022.