Skip to main content

Caniatâd cynllunio ar gyfer ysgol newydd Glyn-coch a chanolfan gymunedol

Glyn-coch school - updated - Copy

Mae'r Cyngor, ynghyd â'i bartner Llywodraeth Cymru, wedi cyflawni carreg filltir fawr tuag at ddarparu ysgol gynradd a chanolfan gymunedol newydd ar gyfer Glyn-coch - gyda chaniatâd cynllunio bellach wedi'i sicrhau ar gyfer y datblygiad.

Mae darparu ysgol newydd i'r gymuned yn nod hirsefydlog i'r Cyngor, ac mae'r prosiect wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf. Datblygodd y Cabinet y cynigion yn 2022 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ac ym mis Mawrth 2023 cyhoeddwyd y prosiect fel un o dri chynnig llwyddiannus yn unig yng Nghymru i dderbyn cyllid grant o 100% (hyd at £15 miliwn) gan Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Roedd yr Her Ysgolion Cynaliadwy yn gofyn am geisiadau gan bob Awdurdod Lleol ledled Cymru, ar gyfer cynigion a oedd yn dangos dyluniad arloesol a chydweithredol, datblygiad a darpariaeth ysgolion gwirioneddol gynaliadwy. Ysgol gynradd newydd Glyn-coch fydd y cyntaf o'r prosiectau i ddechrau cael eu hadeiladu.

Bydd yr ysgol yn croesawu disgyblion o Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, ac yn cyfuno dalgylchoedd y ddwy. Bydd yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg a'r tir gyferbyn. Bydd yr ysgol cyfrwng Saesneg yn cynnwys meithrinfa a Dosbarthiadau Cynnal Dysgu, gyda chyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg hefyd yn yr adeilad.

Ddydd Iau, 30 Ionawr, bu'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn trafod cais y Cyngor, yn rhoi caniatâd llawn i ddymchwel yr adeilad presennol, ac adeiladu ysgol gynradd ddeulawr yn ei le gyda chyfleusterau cymunedol, maes parcio, dwy Ardal Gemau Aml-defnydd, cae chwaraeon glaswellt, a meysydd chwarae. Mae gwaith tirlunio a draenio cysylltiedig hefyd wedi'u cynnwys yn y caniatâd, ynghyd â mynediad gwell oddi ar Lôn y Cefn.

Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ar y rhan o'r safle lle roedd Uned Tŷ Gwyn sydd bellach wedi'i dymchwel. Bydd cerbydau'n cael mynediad i'r safle oddi ar y fynedfa bresennol a oedd yn gwasanaethu'r uned yn flaenorol, gyda mynediad i gerddwyr oddi ar Lôn y Cefn a mynedfa eilaidd i gerddwyr yn cael ei chreu i'r gorllewin o'r safle. Bydd y maes parcio aelodau o staff/ymwelwyr yn cynnwys 43 o leoedd a phum man gwefru cerbydau trydan.

Argymhellodd swyddogion y cais i'w gymeradwyo mewn adroddiad i gyfarfod cynllunio ddydd Iau. Nodwyd bod y safle wedi ei hen sefydlu ar gyfer defnydd addysg gynradd, tra bydd y datblygiad newydd yn dod â chyfleusterau o'r radd flaenaf i ardal Glyn-coch ynghyd â defnydd i'r gymuned. Nodwyd hefyd y byddai'r ysgol newydd yn gwella gwedd y safle presennol ac na fyddai'n amharu ar y gymuned nac yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ffyrdd. Bydd gwaith Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned yn cael ei gynllunio i wella llwybrau cerdded diogel i’r ysgol a bydd teithio llesol yn cael ei hyrwyddo'n gryf.

Bydd y datblygiad yn cyflawni achrediad carbon ‘Sero Net’, yn ogystal â rhagori ar dargedau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gostyngiadau mewn carbon ymgorfforedig o fewn y gwaith adeiladu ei hun, sydd oll yn cyfrannu at nodau ac ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Yn rhan o gais llwyddiannus y prosiect i’r Her Ysgolion Cynaliadwy, nodwyd y bydd y cynigion dylunio yn cynnwys technolegau gwyrdd megis gerddi glaw a datrysiadau sy'n seiliedig ar natur i reoli dŵr wyneb. Mae'r prosiect hefyd yn targedu Safon Passivhaus, achrediad Building With Nature, a'r Safon Adeiladu WELL – sy'n canolbwyntio ar greu amgylcheddau iach i ddefnyddwyr adeiladau i gefnogi lles.

Mae disgyblion, staff ysgol a grwpiau cymunedol wedi chwarae rhan fawr yn y broses ddylunio, a bydd eu mewnbwn yn parhau i gael ei geisio – i sicrhau bod yr ysgol yn diwallu anghenion pawb. Mae Fforwm Rhanddeiliaid Cymunedol hefyd wedi'i sefydlu i lunio'r cyfleusterau cymunedol pwrpasol y mae'r safle'n eu cynnig, sy'n cynnwys cynrychiolwyr lleol a meysydd gwasanaeth y Cyngor.

Meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Mae caniatâd cynllunio yn gam pwysig ymlaen yn natblygiad adeilad ysgol newydd sydd ar y gweill yma yng Nglyn-coch. Rwy’n falch iawn o weld gwaith ar yr ysgol gynradd newydd arloesol yma yn mynd rhagddo, diolch i gyllid gwerth dros £15 miliwn gan ein Her Ysgolion Cynaliadwy.

“Pa ffordd well o ymgorffori ein hymrwymiadau tuag at leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, nag i blant, aelodau o staff a chymunedau helpu gyda dylunio, adeiladu a rheoli’r amgylchedd dysgu di-garbon newydd yma.”

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:  “Rwy’n falch iawn bod yr ysgol a’r ganolfan gymunedol newydd ar gyfer Glyn-coch wedi derbyn caniatâd cynllunio, gan alluogi ein buddsoddiad mawr gyda Llywodraeth Cymru i fynd rhagddo. Yn ein cais llwyddiannus i’r Her Ysgolion Cynaliadwy, fe ddangoson ni egwyddorion gwyrdd arloesol y prosiect, ei ddefnydd ar gyfer y gymuned, a rhinweddau amgylcheddol, y mae pob un ohonyn nhw'n ystyriaethau yng nghynllun y prosiect.

“Mae gwir angen y prosiect yng Nglyn-coch, i ddisodli dau adeilad ysgol sydd ag ôl-groniad mawr o waith cynnal a chadw, gyda chyfleuster o’r radd flaenaf sy’n addas i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ychydig bellter oddi wrth ei gilydd ac mae gyda nhw gysylltiad agos, ar ôl ffurfio ffederasiwn fwy na degawd yn ôl ac maen nhw wedi gweithredu o dan un pennaeth gweithredol ers hynny. Roedd cefnogaeth gymunedol sylweddol hefyd i’r buddsoddiad yma a ddangoswyd yn ystod proses ymgynghori gyhoeddus yn 2022.

“Y buddsoddiad yma ar gyfer Glyn-coch fydd yr ysgol newydd ddiweddaraf i gael ei datblygu ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru – gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn symud i’w hadeilad newydd ym mis Ionawr 2025. Roedd hynny’n dilyn tair ysgol newydd ar gyfer y Ddraenen-wen, Cilfynydd a Rhydfelen ym mis Medi 2024, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £79.9 miliwn ledled ardal Pontypridd. Derbyniodd Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi hefyd adeiladau newydd yn 2024 – gyda phrosiect arall yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn symud ymlaen tuag at gael ei gyflawni yn fuan.

“Gyda chaniatâd cynllunio bellach wedi’i sicrhau, rwy’n edrych ymlaen at weld prosiect Glyn-coch yn cael ei ddatblygu ymhellach tuag at ei gyflawni – a bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion pan fydd manylion y cyfnod adeiladu wedi’u cwblhau. Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod trigolion, pobl ifainc ac aelodau o staff yn parhau i fod wrth wraidd y broses wrth siapio eu hysgol a'u canolfan gymunedol.”

Roedd y Cyngor hefyd yn falch o groesawu cydweithwyr o Gyngor Gwynedd a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar, y ddau Awdurdod Lleol arall a sicrhaodd arian gan Lywodraeth Cymru drwy'r Her Ysgolion Cynaliadwy, i weithdy yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r gweithgareddau yma’n parhau drwy gydol y broses o gyflawni’r prosiectau, a bydd cydweithio a rhannu syniadau o’r fath yn bwydo i mewn i astudiaeth achos i lywio’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ehangach, a chryfhau ymrwymiadau tuag at ddatgarboneiddio a diogelu’r amgylchedd yn benodol. 

Wedi ei bostio ar 06/02/2025