Ym mis Medi 2024 cafodd disgyblion 3–16 oed eu croesawu am y tro cyntaf i'r ysgol yma sy'n cael ei ffurfio o'r newydd ar gyfer cymuned y Ddraenen Wen. Roedd y datblygiad modern yma’n un o bedwar prif brosiect ysgolion a gafodd eu cyflawni ym mlwyddyn academaidd 2024/25, â buddsoddiad o £79.9 miliwn ar gyfer Addysg ledled ardal ehangach Pontypridd.
Cafodd y datblygiad ei adeiladu ar safle Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen gynt, a chafodd ei ddrysau eu hagor ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen fel ei gilydd – yn ogystal â ffrwd Cyfrwng Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn. Mae lle yn yr ysgol newydd yma ar gyfer 1,260 disgybl oedran 3–16 (gan gynnwys disgyblion y meithrin).
Tair ysgol newydd sbon yn barod i agor eu drysau ledled ardal ehangach Pontypridd (Medi 2024)
Yn sgil y datblygiad mae bloc ac ynddo 28 ystafell ddosbarth wedi'i greu ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2–4, sydd wedi'i gysylltu'n ddiogel â phrif adeilad yr ysgol gynradd gyfredol. Mae'r bloc newydd wedi'i ddylunio i sicrhau Carbon Sero Net ar yr adegau hynny pan fydd yn weithredol, ac mae'n cyd-fynd â'r cyfleusterau allanol gafodd eu creu yn ystod cyfnod cychwynnol y gwaith yn 2023. Yn rhan o'r cyfleusterau allanol yma fe gafodd maes parcio ei greu, felly hefyd safle parcio bysiau, ac ardal ar gyfer danfon disgyblion i'r ysgol.
Mae rhai o'r cyfleusterau oedd yno eisoes wedi'u hailwampio – gan gynnwys dwy ystafell wyddoniaeth yn yr ysgol iau, cafodd gwelliannau eu gwneud i ardaloedd tu allan a chafodd canopïau eu gosod ar gyfer yr ysgol gynradd at ddibenion dysgu yn yr awyr agored. Mae'r toiledau wedi'u hailwampio yn yr ysgol iau drwyddi draw ac mae'r goleuo a'r gwresogi wedi'u huwchraddio.
Rhan nesaf y gwaith yn ystod 2024/25
Bydd y gwaith o ddymchwel bloc yr ysgol uwchradd gynt yn dechrau nawr, er mwyn gwneud lle ar gyfer gwaith tirlunio sylweddol y datblygiad ehangach. Bydd hyn yn cael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2025. Bydd cyfleuster gofal plant newydd sy'n cynnig lleoedd Dechrau'n Deg a Chynnig Gofal Plant yn cael ei greu â chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Lleoliad gofal plant newydd yn ffynnu mewn ysgol fodern yn y Ddraenen-wen (Chwefror 2025)
Mae cyllid sylweddol o £1 miliwn wedi'i sicrhau hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyfrwng Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned, ar gyfer ailwampio canolfan ieuenctid ar y safle, a bydd yn cael ei chwblhau yn 2025.
Lluniau o Gam Un y gwaith ar ôl ei gwblhau – Medi 2024: