Skip to main content

Canolfan Pennar

Mountain Ash Hub logo 1Nod Canolfan Pennar yw dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth o dan un to yng nghanol ardal De Cynon.
Communitioes at work
Untitled
Customer Contact Centre - Porth - January 2019-1 (00000002)

Cyfleusterau

Caffi

Mae 'Little Rose Café' yn gweini bwyd, diodydd a phrydau poeth ac oer ac mae ar agor rhwng 7am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda chynnig arbennig am brydau bwyd – pryd a phwdin am £4 rhwng 12pm a 2pm. Dilynwch ef ar Facebook

Llyfrgell                                                                        

Mae gwasanaeth Archebu a Chasglu'r Llyfrgelloedd ar gael yn y Ganolfan:

Diwrnod yr wythnos

Amser

Dydd Llun

9.00am–5.00pm

Dydd Mawrth

9.00am–6:30pm

Dydd Mercher

9:00 - 1:00pm AR GAU PM

Dydd Iau

AR GAU

Dydd Gwener

9.00am–6:00pm

Dydd Sadwrn

9.00am–1:00pm

Gwasanaeth IBobUn y Cyngor 

I wneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor, Budd-dal Tai, Bathodyn Glas neu Docyn Bws am Ddim, gwnewch apwyntiad gydag un o'n hymgynghorwyr yn www.rctcbc.gov.uk/iBobUn

Ystafelloedd i'r cyhoedd eu defnyddio ac Ystafelloedd Hyfforddi                   

 

Mae grwpiau cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sefydliadau di-elw yn cael defnyddio'r ystafelloedd cyfarfod a'r ystafelloedd hyfforddi am ddim.
Mae modd i sefydliadau masnachol logi'r ystafell am gyfradd resymol.
Am fanylion pellach neu i gadw ystafell, ffoniwch ni ar 01443 570016 neu e-bostio:Llyfrgell.Aberpennar@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cydlynydd Cymunedol

Vicky Hughes - Victoria.L.Hughes@rctcbc.gov.uk

Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd

Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell cewch chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Edrych ar fanylion pellach ar raglenni PC a sut i gadw lle.

Wi-fi am ddim

Bydd cyfrinair Wifi yn cael ei arddangos yn y ganolfan.

Toiledau

Mae gan y Ganolfan doiledau i ddynion a menywod, yn ogystal â chyfleuster newid babanod, gwely newid trydanol addasadwy a theclyn codi Oxford.

Gwasanaethau

Services

Addysg yn y gymuned,
diwylliant a'r celfyddydau

Bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â chynlluniau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan.

Cyngor a chymorth cyflogaeth                

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cefnogaeth i bawb yn Rhondda Cynon Taf sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli.

Man Talu Lleol

Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, cyfraddau busnes a mwy.

Canolfan Cymuned De Cynon  

Stryd Rhydychen,

Aberpennar

CF45 3HD 

Rhif Ffôn: 07747 485757

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y ganolfan, ewch i'w tudalen Facebook www.facebook.com/CanolfanPennar