Skip to main content

Canolfan y Gymuned Llys Cadwyn

Nod Canolfan y Gymuned Llys Cadwyn yw dod ag ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth at ei gilydd i un lleoliad o ganol tref Pontypridd.

Llys Cadwyn - Building

Llys cadwyn Library

Library - Meeting Room

Cyfleusterau

Gwasanaeth IBobUn y Cyngor

Mae'r gwasanaeth IBobUN ar y llawr gwaelod.

I wneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor, Budd-dal Tai, Bathodyn Glas neu Docyn Bws am Ddim, gwnewch apwyntiad gydag un o'n hymgynghorwyr yn  www.rctcbc.gov.uk/ibobun

  

Y Gampfa

Mae'r llawr 1af yn gartref i stiwdio droelli (30 o feiciau) a stiwdio ar gyfer dosbarthiadau gyda chyfleusterau newid ynghyd ag ystafell newid gwbl hygyrch gyda theclyn codi symudol.

 

 Mae gan y gampfa ar yr 2il lawr amrywiaeth o beiriannau rhedeg, peiriannau trawsymarfer, beiciau ac amrywiaeth o beiriannau ymwrthedd, yn ogystal â pheiriannau cardio wedi'u haddasu. Mae offer pwysau rhydd a pheiriannau cebl ar gael hefyd. 

 

Mae modd cyrraedd y ddwy ardal ar lifft o'r llawr isaf a'r llawr gwaelod.   


Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am Gyfleusterau Hamdden Llys Cadwyn

ar Instagram a Facebook hefyd.

Llyfrgell

Oriau Agor

                                                                                                                

Diwrnod

Amseroedd

Dydd Llun 

 9:00am - 6:00pm

Dydd Mawrth   

 9:00am - 7:00pm

Dydd Mercher   

 9:00am - 6:00pm

Dydd Iau   

 9:00am - 6:00pm

Dydd Gwener   

 9:00am - 5:00pm

Dydd Sadwrn   

 9:00am - 1:00pm

Llawr gwaelod

Y Llyfrgell – yn darparu adrannau ar gyfer oedolion, oedolion ifainc a phlant;

  • 2 o ystafelloedd cyfarfod cymunedol gyda sgriniau      rhyngweithiol a chyfleusterau fideo-gynadledda.
  • 6 o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd

Llawr Cyntaf

  • Ystafell astudiaethau lleol yn cynnwys 3 darllenydd      microffilm ac ardal astudio
  • Stoc o lyfrau astudiaethau lleol
  • 2 o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd
  • Ystafell addysg gyda 10 cyfrifiadur
  • Ardal storio archif.                                                                                              

 

Cyfrifiaduron i'r
Cyhoedd

Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, mae modd i chi ddefnyddio cyfrifiaduron i'r cyhoedd am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.  Mae rhagor o fanylion am sut i ymaelodi â Llyfrgell RhCT yma.

Cydlynydd Cymunedol

Neal David - Neal.David@rctcbc.gov.uk

Toiledau

Llys Cadwyn - Accessible toilets 1Mae toiledau cyhoeddus i ddynion a menywod ar gael.

 

 

 

 

 

I unrhyw un sydd angen defnydd hygyrch o gyfleusterau toiled a mannau newid, mae'r adeilad bellach yn cynnwys cyfleuster ‘Changing Places’ a fydd yn galluogi pobl sydd angen offer a lle ychwanegol i ddefnyddio'r toiledau yn ddiogel ac yn gyfforddus.

 

 

 

Llys Cadwyn - Changing place imageGweler y wybodaeth am 'Changing Places', y mae un ohonyn nhw ar gael ar gyfer defnydd y cyhoedd ar lawr gwaelod y Ganolfan.  Gweler rhestr o'r cyfleusterau 'Changing Places' sydd ar gael ledled y DU.

Gwasanaethau

Cyngor a chymorth ar
gyflogaeth                               

Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth a hyfforddiant yn y gymuned heb ei achredu ac wedi'i achredu yn y ganolfan i holl drigolion RhCT sydd am gael gwaith, hyfforddiant neu wirfoddoli, ac maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol yn y Ganolfan sy'n cynnwys:-

 

Addysg yn y Gymuned

Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â phrosiectau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y Ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan. 

Man Talu Lleol

Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, trethi busnes a mwy.

Cyngor ar Bopeth

 

I gael cyngor neu ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, cysylltwch â:

  

  • Llinell Gyngor (llinell dir) - 03444 77 20 20
  • Llinell Weinyddu 01443 853221 

Canolfan y Gymuned Llys Cadwyn

1 Llys Cadwyn,
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Tel: 01443 562211