Nod Canolfan Cydnerthedd y Gymuned Plaza'r Porth yw dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth o dan un to yng nghanol ardal De Cwm Rhondda.
Cyfleusterau
|
Cydlynydd Cymuned Cyngor Rhondda Cynon Taf
|
Elizabeth Colley – Amanda.Thomas2@rctcbc.gov.uk
Ffôn Symudol 07385086783
|
|
Llyfrgell
|
|
Mae gwasanaeth Archebu a Chasglu'r Llyfrgelloedd ar gael yn y Ganolfan:
| Diwrnod | Amseroedd |
|
Dydd Llun
|
AR GAU
|
|
Dydd Mawrth
|
9.00am – 6.00pm
|
|
Dydd Mercher
|
9:00am - 6:00pm
|
|
Dydd Iau
|
9.00am – 1.00pm
|
|
Dydd Gwener
|
9.00am – 6.00pm
|
|
Dydd Sadwrn
|
9.00am – 1.00pm
|
|
|
Mae gwasanaeth y llyfrgelloedd hefyd yn cynnal dosbarthiadau a sesiynau gwybodaeth, gan gynnwys:-
Dydd Mawrth
Prynhawn: Grŵp Cymorth Nam Clyw Cwm Rhondda. 3ydd Dydd Mawrth y mis rhwng 1.30pm a 3.00pm. Hoffech chi ragor o wybodaeth? Croeso ichi ffonio Albert Knight ar 01443 566693.
Dydd Iau
Prynhawn: Urdd Pobl Hŷn Arosfa (bob yn ail wythnos). Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 685895.
|
|
|
Ystafell i'r Gymuned sydd ar gael i'w llogi
|
Mae gan y Ganolfan bedair ystafell i'r gymuned ac un ystafell gyfrifiaduron:
Mae modd i Grwpiau Cymunedol, Staff Cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydliadau nid er elw ddefnyddio'r ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd hyfforddi yma am ddim. Mae modd i sefydliadau masnachol logi'r ystafelloedd yma am brisiau rhesymol.
 
Am fanylion pellach neu i gadw ystafell, ffoniwch ni ar 01443 562227 neu e-bostiwch: Llyfrgell.YPorth@rctcbc.gov.uk
Mae amrywiaeth o grwpiau cymunedol lleol yn defnyddio'r ystafelloedd cymunedol yn y Ganolfan |
|
Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd
|
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, cewch chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Bwriwch olwg yma am ragor o wybodaeth am sut i ymaelodi â Llyfrgelloedd Rhondda |
|
Wifi am ddim
|
Wifi ar gael gyda chyfrif Cloud |
|
Gwasanaeth Cyngor IBobUn
|
Mae gwasanaethau IBobUn yn helpu unigolion i wneud cais neu gyflwyno tystiolaeth bellach ar gyfer rhai o wasanaethau'r Cyngor, a hynny ar sail apwyntiad. Mae modd trefnu apwyntiad yma
|
|
Gofal Plant
|
Mae Meithrinfa Oriau Dydd Sparkles (ar lawr gwaelod y Ganolfan) yn feithrinfa ddiwrnod llawn, sydd ar agor rhwng 7.30am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni'n darparu prydau bwyd, diodydd, byrbrydau, cewynnau a'r holl weithgareddau sydd eu hangen er mwyn meithrin plant rhwng 6 wythnos a 5 oed. Mae'r holl aelodau staff yn gymwysedig ac wedi cyflawni gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01443 497183 neu e-bostiwch sparklesdaynursery@outlook.com, neu dewch o hyd i ni ar gyfryngau cymdeithasol: - https://www.facebook.com/sparklesdaynurseryporth
|
|
Toiledau
|

Mae gan y Ganolfan doiledau i ddynion a menywod, yn ogystal â chyfleuster newid babanod, gwely newid trydanol addasadwy a theclyn codi Oxford.
Ar gyfer unrhyw un sydd angen defnydd hygyrch o gyfleusterau toiled a lleoedd newid, mae'r adeilad bellach yn cynnwys 'Changing Place', sy'n galluogi pobl sydd angen offer a lle ychwanegol i ddefnyddio toiledau gwneud hynny yn ddiogel ac yn gyffyrddus.
Gweler yr wybodaeth ar gyfleuster toiledau 'Changing Place'. Mae un ohonynt ar gael ar y llawr gwaelod at ddefnydd y cyhoedd yn y Ganolfan (dolen i'r llun). Mae rhestr o'r cyfleusterau yma ledled y DU ar gael yma.
|
Gwasanaethau
|
Cyngor a chymorth cyflogaeth
|
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth a hyfforddiant achredig ac heb ei achredu yn y gymuned i holl drigolion RhCT sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfloedd i wirfoddoli. Maen nhw'n cynnal sesiynau wythnosol yn y Ganolfan sy'n cynnwys:-
Tuesday PM – Work Club
Wednesday PM – Essential Skills
Friday AM – Digital Friday
Unrhyw ymholiadau? Croeso i chi ffonio 01443 57008.
|
|
Dysgu yn y Gymuned
|
Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â chynlluniau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y Ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan.
|
|
Man Talu Lleol
|
Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, cyfraddau busnes a rhagor.
|
|
Cyngor ar Bopeth
|
Mae ein prif swyddfeydd wedi’u lleoli ym Mhontypridd ac Aberpennar
Mae Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf yn darparu gwasanaethau allgymorth ledled Rhondda Cynon Taf, ac maen nhw ar gael yn y ganolfan fel a ganlyn:-
· Bore Mercher
· Prynhawn Mercher - apwyntiad yn unig
Am gyngor neu ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, cysylltwch â:
· Rhif Ffôn y Swyddfa Leol - 01443 409284
|
Heol Pontypridd
Y Porth
CF39 9PG
I gael rhagor o
wybodaeth am yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y Ganolfan, dilynwch ni ar y
cyfryngau cymdeithasol, ar Facebook, Twitter ac Eventbrite