Skip to main content

Tirlithriad Tylorstown - Y Broses Adfer

Mae'r dudalen we yma'n cynnwys gwybodaeth am y broses adfer barhaus a sylweddol yn dilyn tirlithriad Tylorstown.

Mae'r dudalen hefyd yn rhannu manylion am y bwriad ar gyfer dyfodol y safle, sef i'w datblygu'n rhan o Lwybr Teithio Llesol ehangach i'r gymuned - gan ddarparu llwybr pwrpasol i gerddwyr a beiciwyr rhwng y Maerdy a Pont-y-gwaith.

NEWYDDION: Adroddiad cynnydd pellach ar weithgarwch ar safle Tirlithriad Tylorstown (Tachwedd 2023)
Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf ar waith Cam Pedwar i adfer safle Tirlithriad Tylorstown. Mae'r rhan fwyaf o wastraff y pwll glo wedi'i symud i'r safle derbyn, ac mae cynnydd da wedi'i wneud i ddatblygu seilwaith draenio. Darllenwch yma
Tylorstown-phase-four-update

Ar 16 Chwefror, 2020, bu tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn Nhylorstown, pan gafodd Rhondda Cynon Taf ei daro gan dair storm o fewn cyfnod byr. Achoswyd y tirlithriad gan Storm Dennis - storm na welwyd ei thebyg ers 200 mlynedd. Cofnodwyd bod y nifer fwyaf o law wedi syrthio yn y Maerdy, sydd ben uchaf Cwm Rhondda Fach, i gymharu â'r un man arall yng Nghymru. Mae'r safle yn domen Categori D ac roedd yn cael ei archwilio bob tri mis yn erbyn meini prawf monitro cyn y storm. Rydyn ni'n archwilio'r domen yn fwy aml ers hynny.

tylorstown FEB 2020

Sut olwg oedd ar y tirlithriad ar ôl iddo ddigwydd ym mis Chwefror 2020 (uchod) ac ardal y tirlithriad yn dilyn Cam Tri yn ystod yr hydref, 2021 (isod)

Tylorstown landslip area following Phase Three

Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, cuddiodd bibell ddŵr strategol gyda sawl metr o rwbel a llwybr troed a llwybr beicio. Cafodd yr ardal ei chau i’r cyhoedd ar unwaith er mwyn sicrhau eu diogelwch.

Mae'r Cyngor yn dilyn cynllun adfer pedwar cam, fel sydd wedi'i amlinellu isod:

  • Cam Un - Draenio ar frys a chlirio llystyfiant (wedi'i gwblhau yn yr wythnosau yn dilyn y tirlithriad).
  • Cam Dau- Atgyweirio erydiad glan yr afon (dechreuodd y gwaith ar ddiwedd mis Mehefin 2020, cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Mehefin 2021).
  • Cam Tri- Symud deunydd i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau cerdded dros dro (dechreuodd y gwaith ar ddiwedd mis Mehefin 2020, cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Mehefin 2021). Cafodd cam ychwanegol o waith ei gwblhau i sefydlogi'r llethr ger yr unig lwybr troed oedd ar gau yn yr hydref, 2021.
  • Cam Pedwar - Gwaith adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Hydref 2022 a dechreuodd gwaith ar y safle ym mis Ebrill 2023. Byddai modd cyflawni gwelliannau i'r llwybr i'r gymuned yn y dyfodol. Gwaith hollbwysig i'w gwblhau erbyn gaeaf 2023.
  • Llwybrau beicio a safleoedd derbyn - Gwaith gwella mewn perthynas â sawl strwythur ar hyd y Llwybr i'r Gymuned arfaethedig.  Bydd arwyneb newydd ar y llwybr a bydd y gwaith i'r safleoedd derbyn wedi'i gwblhau.

Cam Dau a Cham Thri

Ar 10 Mehefin 2020, fe wnaeth y Cyngor gyhoeddiad yn amlinellu ei fwriad i gychwyn ail a thrydydd cam y gwaith - gan ddechrau erbyn diwedd mis Mehefin a dod i ben yn ddiweddarach eleni, yn unol â chyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gweithio yn yr afon o ddiwedd Hydref ymlaen.  Cadarnhaodd y cyhoeddiad bod y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ynghylch yr opsiynau cyllido i dalu costau Camau Dau a Thri, sef oddeutu £2.5 miliwn, yn ôl yr amcangyfrifon. Dyma Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan, yn siarad cyn dechrau Cam Dau a Cham Tri ym mis Mehefin 2020:

Fe wnaeth y Cyngor benderfyniad Dirprwyedig Brys ar 11 Mehefin 2020, i symud ymlaen â'r gwaith ac i benodi contractwr. O fewn y penderfyniad, cafodd ei nodi bod y gwaith yma'n cael ei gychwyn 'ar gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol' yn absenoldeb cadarnhad am gyllid, ond mae disgwyliad cadarn y bydd cymorth gan y llywodraeth yn cael ei ddarparu i'r Cyngor i gyflawni'r cynllun hanfodol yma. 

Mae'r gwaith i gyflawni Cam Dau a Cham Tri yn dechrau ddydd Llun, 29 Mehefin 2020 - wedi i'r Cyngor benodi cwmni Walters yn gontractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun. Mae Walters, a fu'n gyfrifol am waith Cam Un hefyd, yn gontractwr lleol profiadol sydd wedi bod yn rhan o gynlluniau tomenni tebyg yn y gorffennol.

Cafodd Cam Dau a Cham Tri'r cynllun eu cwblhau ar 25 Mehefin, 2021.  Roedd hyn ar ôl cwblhau nifer o agweddau pwysig o'r gwaith ar y safle - megis symud y deunydd oedd wedi llithro o lawr y dyffryn, adfer cwrs dwr a lefel yr afon a gwaith draenio sylweddol.

O ganlyniad i gwblhau'r gwaith yma, mae modd i’r ddau lwybr cerdded a beicio ar ochr Canolfan Hamdden yr afon ailagor (fel y dangosir ar y ddelwedd uchod) – gan gysylltu â'r rhwydwaith lleol o lwybrau trwy'r ardal. Mae'r llwybr y tu ôl i'r ganolfan hamdden, sydd wedi bod yn rhan o safle'r contractwr, a'r llwybr ger yr afon a orchuddiwyd yn llwyr gan y tirlithriad, wedi cael eu hadfer ac mae modd iddyn nhw ailagor yn ddiogel erbyn hyn.

Reopening-of-two-routes-WELSH

Mae'r trydydd llwybr sy'n rhedeg trwy'r ardal, ar ochr arall yr afon, wedi'i atgyweirio ond bydd yn parhau i fod ar gau oherwydd bydd camau sydd i ddod o'r cynllun yn cynnwys gwaith i sefydlogi ochr y bryn cyfagos.

Er bod y rhan o'r llwybr yma sydd ar gau oddeutu 1.5 cilomedr, mae'r llwybr ehangach y mae'n rhan ohono ar agor ac mae modd ei ddilyn o Heol yr Orsaf yng Nglynrhedynog.  Pan fydd cerddwyr a beicwyr yn cyrraedd y pwynt i lawr yr afon lle mae'r llwybr yn cau, bydd modd iddyn nhw newid i un o'r llwybrau a ailagorwyd yn ddiweddar ar hyd pont droed bresennol. Mae rhaid i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau i groesi'r bont yma.  Mae'r Cyngor yn bwriadu ailagor pob llwybr yn y dyfodol.

Effaith ecolegol

O ran yr effaith ecolegol, cynhaliwyd nifer o arolygon gan ecolegwyr ymgynghorol ac ecolegydd y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (mewn perthynas â chlirio isdyfiant a choed o'r safleoedd derbyn - ynghyd â'r effaith ar fflora a ffawna).

Mae'r swyddogion yma'n parhau i weithio gyda'i gilydd i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd lle bynnag fo hynny'n bosibl. Mae'r safleoedd derbyn terfynol yn cael eu hystyried yn ofalus, gan ystyried sut y bydd hyn o fudd i ecoleg dyffryn yr afon.

Safleoedd derbyn

Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n berchen ar y ddau safle derbyn, ac maen nhw i'r gogledd o safle'r tirlithriad, ger yr hen reilffordd. Roedd Safle Derbyn B (sydd agosaf at y safle tirlithriad) yn rhan o hen gilffyrdd y rheilffordd, ac roedd Safle derbyn A yn rhan o hen bwll glo.

Cafodd cais cynllunio ar gyfer y derbynyddion (dros dro) i ddal gwastraff y tirlithriad ei gyflwyno ar ôl iddyn nhw gael eu gosod, a chafodd hyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ei gyfarfod ddydd Iau 21 Ionawr 2021. Mae modd gweld agenda’r cyfarfod yma.

Mae gosod deunydd y tomenni ar y safleoedd yma'n lleihau faint o ddeunydd fyddai angen ei symud ar hyd y briffordd gyhoeddus fel arall.  Mae'r safleoedd derbyn hefyd wedi sicrhau bod y gwaith ehangach yn hunangynhwysol - gan leihau ôl troed carbon y gwaith.  Er enghraifft, nifer fach o gerbydau o'r safle sydd wedi bod yn defnyddio'r briffordd gyhoeddus. Fel arfer, byddai nifer o gerbydau yn achosi sŵn, dirgryniadau, llygredd aer, llwch a difrod i'r ffordd gerbydau. Amcangyfrifwyd y byddai'r broses o symud 60,000 tunnell o ddeunydd wedi gofyn am 6,000 o deithiau gan lorïau. Mae defnyddio'r safleoedd derbyn wedi osgoi hyn.

Ymgynghoriad ar weledigaeth ar gyfer y dyfodol

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i'r gymuned leol am ddefnydd arfaethedig o'r cynllun, i'w gyflawni yn y dyfodol. Bydd hefyd gyfle sylweddol i breswylwyr ddweud eu dweud ynghylch y defnydd terfynol o'r safle trwy broses ymgynghori yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn ystyried trawsnewid y lleoliad yn llwybr cerdded ar lan yr afon, yn debyg i'r safleoedd presennol ym Mharc Gwledig Barry Sidings a Pharc Glan yr Afon Aberpennar.

Cam Pedwar

Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer yr ardal ehangach yn y dyfodol yn cynnwys buddsoddiad o fwy na £10 miliwn i adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn. Ar ôl cwblhau'r gwaith adfer, gall yr ymrwymiad i Lwybr Teithio Llesol i'r Gymuned ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng y Maerdy a Phont-y-gwaith gael ei gyflawni. Byddai'r llwybr yma'n 'pasio' trwy gynllun parc ar lan yr afon ym Mhendyrus. 

Cynhaliodd y Cyngor Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gyda'r gymuned ym mis Ionawr a mis Chwefror 2022, fel bod modd i drigolion ddweud eu dweud ar Gam Pedwar – gyda'r adborth a ddaeth i law yn helpu Swyddogion i gwblhau'r cais cynllunio. Cafodd arddangosfa gyhoeddus ei threfnu gan Swyddogion yng Nghanolfan Hamdden Rhondda Fach (19 Mai 2022) i drigolion fynychu a chael y newyddion diweddaraf ar y cynnydd hyd yna.

Cafodd caniatád cynllunio llawn ei roi ar gyfer Cam Pedwar gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ym mis Hydref 2022.

Mae'r caniatâd cynllunio a gafodd ei roi ar gyfer Cam 4 (cyf. 2022/0600/08) yn cynnwys symud deunydd pwll glo i safle cyfagos i'r domen, ac ailbroffilio/sefydlogi safle'r domen uchaf. Mae hefyd yn cynnwys gwaith draenio newydd, creu llwybrau mynediad, aildyfu llystyfiant a gwaith ategol. Mae rhagor o wybodaeth ar borth cynllunio'r Cyngor, yma. Mae modd gweld copïau caled o ddogfennau yn Llyfrgelloedd Porth, Glynrhedynog a Phontypridd.

Prichard's Contracting yw'r contractwr sydd wedi cael ei benodi, mae'r cwmni wedi'i leoli yn Llantrisant. Dechreuodd y cwmni'r prif waith ar gyfer Cam 4 ym mis Ebrill 2023. Rhannodd y Cyngor ddiweddariad am y gwaith ym mis Mehefin 2023, yn dilyn y cynnydd da sydd wedi'i wneud ar y safle.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno dau gais cynllunio pellach ym mis Rhagfyr 2022, sy'n ymwneud â gwaith arfaethedig mewn derbynleoedd o fewn Cam Dau/Tri o'r cynllun adfer. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun plannu coed arfaethedig ar gyfer Derbynle A2 (cyf. 22/1477/08) a seddi mainc arfaethedig, pontydd troed bach dros sianeli draenio sy'n cysylltu â'r rhwydwaith llwybrau lleol, paneli dehongli a 'nodwedd camu cerrig' ar gyfer Derbynle B (cyf. 22/1476/08). Mae'r dolenni sydd wedi'u cynnwys uchod yn rhoi rhagor o wybodaeth ar borth cynllunio'r Cyngor.

Llwybrau Beicio

Bydd y gwaith arfaethedig yma'n cyd-fynd â'r gwaith gorffenedig cyffredinol o ganlyniad i Gamau Dau, Tri a Phedwar ac yn cyflawni cynlluniau sylweddol i atgyweirio neu ddisodli (ac yn y pen draw diogelu'r safle ar gyfer y dyfodol) nifer o strwythurau pontydd ar hyd y Llwybr Teithio Llesol newydd i'r Gymuned.

Mae'r ddogfen isod yn amlygu'r cynlluniau cychwynnol ar gyfer y Llwybr i'r Gymuned. Mae'r Llwybr i'r Gymuned wedi'i amlygu mewn pinc, gyda chysylltiadau arfaethedig â'r llwybr mewn glas a'r strwythurau sy'n cael eu hystyried i'w gwella hefyd wedi'u labelu.

Cyflwyniad - Tirlithriad Tylorstown

Bydd y Cyngor yn rhannu rhagor o wybodaeth am y cynlluniau unigol i ddiogelu pontydd ar hyd y llwybr yma maes o law.

Gwaith ehangach Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â Thomenni Glo

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers y tirlithriad yn ardal Tylorstown. Mae'r gwaith yma wedi cynnwys gofyn i Gomisiwn y Gyfraith werthuso'r ddeddfwriaeth gyfredol o ran rheoli diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021. Manylion: 

Yn dilyn hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar wahân ynglŷn â'i Phapur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo o 12 Mai 2022. Manylion:

Wattstown
Wattstown 2
Wattstown 3

Offer monitro wedi'i osod ar y domen yn Wattstown