Skip to main content

Llwybr cerdded a beicio cyfan Cwm Rhondda Fach ar agor nawr

Rhondda Fach Active Travel phase five open - Copy

Mae rhan olaf Llwybr Teithio Llesol newydd Cwm Rhondda Fach wedi cael ei hagor rhwng Glynrhedynog a Tylorstown, sy'n golygu bod y prif lwybr cerdded a beicio sy'n ymestyn 10 cilomedr a chyrraedd cyn belled â’r Maerdy, wedi'i gwblhau. Mae peth gwaith yn mynd rhagddo o hyd er mwyn creu llwybrau cysylltu lleol oddi ar y prif lwybr, rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir allweddol o ran cyflawni'r buddsoddiad yma gwerth miliynau o bunnoedd ledled sawl cymuned.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu'r llwybr a rennir yma ers peth amser, ac mae cynnydd ardderchog wedi'i wneud ers dechrau'r gwaith ar y safle yn 2023. Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o weinyddu'r cynllun a chynghori yn ei gylch.

Mae'r prosiect wedi cael ei rannu yn bum prif gam at ddibenion dylunio ac adeiladu. Mae gwaith cam un, dau, pedwar a phump yn ymwneud â'r prif lwybr o'r Maerdy i Tylorstown; bydd gwaith cam tri yn creu llwybr cysylltu yn y Maerdy. Mae gwybodaeth o ran cynnydd ar gyfer pob un o'r pum cam wedi'i chynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.

Mae rhan cam pump y llwybr bellach wedi ei hagor i'r cyhoedd (29 Mai), wedi i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Mehefin 2025. Gan ddilyn llwybr yr hen reilffordd, mae'n ymestyn o Ganolfan Hamdden Rhondda Fach yng Nglynrhedynog i drosbont Stanleytown – gan gysylltu â llwybr cymunedol Ffordd Liniaru Porth.

Mae adeiladu tair pont droed newydd i gefnogi’r llwybr cyffredinol wedi bod yn elfen bwysig o waith cam pump. Mae Pont Pendyrus yn cymryd lle hen bont droed y ganolfan hamdden. Mae strwythurau Gogledd a De Tylorstown wedi cymryd lle hen bontydd rheilffordd doedd dim modd eu hatgyweirio. Mae'r pontydd newydd yn fwy llydan ac yn cydymffurfio â safonau teithio llesol modern.

Mae cam pump hefyd yn cynnwys creu cysylltiadau newydd â Chanolfan Hamdden Rhondda Fach a Meddygfa Tylorstown. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gwblhau’r gwaith yma – bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion pan fydd y rhannau yma wedi’u hagor.

Yn ogystal â hynny, mae rhan cam tri'r llwybr i'w hadeiladu o hyd. Bydd gwaith cam tri'n cynnwys creu llwybr newydd 1.5 cilomedr o hyd yn arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog yn y Maerdy. Mae'r cam yma wedi cael caniatâd cynllunio eisoes, yn 2024, ac mae'n ddyhead o hyd. Rydyn ni'n chwilio am gyllid ar gyfer ei gyflawni yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Seilwaith Cyfalaf: "Yn sgil y buddsoddiad sylweddol yma ar gyfer cymunedau Cwm Rhondda Fach mae llwybr cerdded a beicio 10 cilomedr o hyd, pwrpasol, wedi'i sefydlu o'r Maerdy i Tylorstown. Rydyn ni bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, sef cwblhau'r prif lwybr cyfan, wrth i'r rhan olaf o ardal Glynrhedynog i Tylorstown gael ei hagor yn y diwrnodau diwethaf. Mae gwaith cam pump hefyd wedi cynnwys gosod tair pont newydd sy'n cydymffurfio â safonau teithio llesol modern, a llwybr cysylltu newydd i Ganolfan Hamdden Rhondda Fach, bydd y cysylltiadau newydd â Chanolfan Hamdden Rhondda Fach a Meddygfa Tylorstown yn dilyn maes o law.

“Rydyn ni wedi croesawu cymorth pwysig gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru dros sawl blwyddyn at ddibenion dylunio'r cynllun a'i gyflawni; ac fe ddechreuodd y gwaith adeiladu yn 2023. Mae camau amrywiol y prosiect wedi cael buddsoddiad trwy'r Gronfa Teithio Llesol, gan alluogi'r cynnydd sydd wedi'i wneud eisoes. Rydyn ni wedi cael adborth gwych hyd yn hyn ynghylch y rhannau o'r llwybr sydd wedi'u cwblhau, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â rhan cam 5, sydd newydd ei hagor, er mwyn dathlu cwblhau’r carreg filltir heddiw.

“Mae teithio llesol yn faes blaenoriaeth o ran buddsoddi ar gyfer y Cyngor, a chyn hir, fe fyddwn ni'n diweddaru'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer Rhondda Cynon Taf – gan ofyn i drigolion am eu mewnbwn mewn ymgynghoriad sydd wedi dechrau yn ddiweddar, cyn defnyddio adborth y cyhoedd i wneud diwygiadau. Mae cymaint o fuddion i'w cael yn sgil annog pobl i gerdded a beicio bob dydd – gwella iechyd a lles, lleihau tagfeydd traffig, lleihau amseroedd teithio, a diogelu'r amgylchedd.

“Fis Mawrth 2026, fe sicrhaodd y Cyngor y cyllid teithio llesol diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, drwy Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ymhlith cynlluniau sydd wedi'u hariannu ar gyfer 2026/27 mae gwella mynediad i Orsaf Fysiau Pontypridd a chreu cysylltiadau gwell yng nghanol y dref, dylunio elfennau teithio llesol Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan, a chyflawni'r Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ym Mhenywaun.”

Dyma grynodeb o'r manylion am bedwar cam cyntaf y llwybr:

  • Cafodd Cam Un ei gwblhau ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ben mwyaf gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i'r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
  • Cafodd Cam Dau ei gwblhau yn 2024, gan ailafael yn y llwybr i'r de o gam un. Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5 cilomedr o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
  • Bydd Cam Tri yn gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy ac yn creu llwybr 1.5 cilomedr o hyd newydd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024 ac mae'n parhau i gael ei ddatblygu, gyda gwaith ceisio cyllid yn parhau ar gyfer ei gyflawni.
  • Cafodd Cam Pedwar ei gwblhau yn 2025, gan uwchraddio'r hen reilffordd ar draws Glynrhedynog – o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Roedd yn cynnwys cyswllt newydd â Stryd yr Afon (Glynrhedynog) ac adeiladu dwy bont droed newydd ym Mlaenllechau.
  • Mae gwaith Cam Pump yn mynd rhagddo o hyd, ac mae carreg filltir wedi ei chyrraedd fis Mai 2026 lle mae'r prif lwybr (Canolfan Hamdden Rhondda Fach i drosbont Stanleytown) wedi'i agor. Cafodd tair pont droed eu gosod, ac mae gwaith yn mynd rhagddo o hyd i gwblhau cysylltiadau newydd â Chanolfan Hamdden Rhondda Fach a Meddygfa Tylorstown.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 01/06/2026