Skip to main content

Cynnydd pwysig o ran gwaith draenio ar safle Tirlithriad Tylorstown

Tylorstown grid

Mae'r Cyngor wedi darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gwaith parhaus ar safle Tirlithriad Tylorstown, sy'n parhau i ganolbwyntio ar y gwaith estynedig yn rhan o Gam Pedwar y Cynllun Adfer. Mae'r gwaith yma bron wedi'i gwblhau. Mae gwaith diweddar y contractwr wedi canolbwyntio'n bennaf ar waith draenio pwysig.

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno ym mis Chwefror 2020 yn dilyn glaw digynsail yn ystod Storm Dennis.  Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, gorchuddiodd bibell ddŵr gyda sawl metr o falurion, a gorchuddiodd lwybr troed a rennir.  Mae Cynllun Adfer â phedwar cam wedi cael ei roi ar waith, gyda'r prosiect yn cynrychioli un o gynlluniau adfer tomen lo blaenllaw Cymru.

Mae'r tri cham cyntaf wedi'u cwblhau'n flaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith clirio brys yn ystod yr wythnosau ar ôl y tirlithriad (Cam Un), atgyweirio'r argloddiau (Cam Dau), symud deunydd o'r cwm i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau (Cam Tri), a gwaith ychwanegol i sefydlogi'r llethr (estyniad i Gam Tri).

Mae Cam Pedwar yn cynnwys adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn. Mae'r rhaglen ddraenio wreiddiol a chwmpas cyffredinol y cam yma o waith wedi'u hymestyn yn sylweddol, ac mae'r contractwr, Prichard's, wrthi'n cwblhau'r gwaith.

Y diweddaraf am gynnydd - Gwaith draenio a gweithgareddau eraill Cam Pedwar

Mae gwaith yn mynd rhagddo tuag at gwblhau Cam Pedwar, ar ôl i gynnydd pwysig gael ei wneud yn ystod 2026/27, yn enwedig gyda gwaith draenio.

Mae'r prif ddraeniau sy'n casglu dŵr o'r domen sydd wedi'i hailbroffilio wedi'u cwblhau, tra bod gwaith pwysig i arafu llif y dŵr yn mynd rhagddo ar y safle. Mae'r safle derbyn y tu ôl i'r domen (ger Old Smokey), y safle a dderbyniodd swm mawr o wastraff y domen uchaf, wedi'i adfywio'n llwyddiannus. Mae ecolegwyr wedi arolygu'r ardal yma, ac mae carfan y prosiect yn aros am wybodaeth o ran sut mae llystyfiant wedi aildyfu.

Mae'r contractwr wedi dod â pheiriannau arbenigol i'r safle gwaith i atgyweirio a chynnal a chadw gollyngfa'r sianel sydd wedi'i lleoli islaw cwymp dŵr newydd. Bydd hyn yn diogelu llif y dŵr ffo heibio ymyl ddeheuol y domen isaf, ar gyfer y dyfodol. Mae parhau â gwaith hoelio pridd (yn y llun) yn cynrychioli'r gwaith mawr olaf ym mhen isaf y safle, cyn i'r contractwr ddechrau symud i fyny'r bryn, tuag at sefydlu llwybr cynnal a chadw ac ailagor yr hawl tramwy cyhoeddus.

Mae swyddogion wedi ymweld yn ddiweddar er mwyn adolygu'r llwybrau troed trwy'r safle, gan gynnwys yr hawl tramwy cyhoeddus barhaol yr oedd rhaid ei chau dros dro yn ystod y gwaith adfer. Mae'r broses adolygu'n mynd rhagddi. Mae gwaith presennol yn mynd rhagddo hefyd i fonitro trefniadau rheoli hirdymor ochr y bryn – proses a fydd yn parhau ar ôl i'r contractwr gwblhau'r gwaith.

Yn y cyfamser, mae problem yn bodoli o hyd lle mae pobl yn cael mynediad yn anghyfreithlon i'r safle mewn cerbydau oddi ar y ffordd. Mae gan y tomenni rwydwaith o sianeli draenio sy'n cael eu difrodi bob tro mae cerbyd oddi ar y ffordd yn gyrru drostyn nhw – sy'n achosi problemau mawr wrth reoli llif dŵr ar y safle. Mae'r contractwr yn rhoi gwybod am bob digwyddiad i Heddlu De Cymru.

Bydd dyddiad cwblhau holl waith Cam Pedwar yn dibynnu ar y tywydd dros yr wythnosau a misoedd nesaf. Mae'r llwybr mynediad i ben isaf y safle yn hir ac yn serth, felly mae'n bosibl y bydd cynnydd y contractwr yn cael ei oedi os bydd llawer o law neu eira dros y cyfnod nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Mae Cynllun Adfer Tirlithriad Tylorstown yn cynrychioli ymgyrch enfawr i unioni'r tirlithriad a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis, ac wedyn i wneud y domen fawr sy'n weddill ar ochr y bryn yn ddiogel. Mae deall symudiad y dŵr ar y safle wedi bod yn hanfodol, yn ogystal â sicrhau bod y llifoedd yn cael eu sianelu trwy'r safle ac oddi wrtho mewn ffordd ddiogel.  Mae gwaith draenio Cam Pedwar wedi'i ymestyn yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae bellach wedi cyrraedd ei gamau olaf.

“Mae arolygu, cynnal a chadw ac atgyweirio hen safleoedd tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Rydyn ni wedi sicrhau £13.7 miliwn trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru eleni, ac mae gwaith adfer Tirlithriad Tylorstown yn parhau i gael ei ariannu o ganlyniad i'r grant yma. Mae ein Carfan Diogelwch Tomenni Glo bwrpasol yn gweinyddu rhaglen o waith drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio'r cyllid yma. Dydy hyn ddim yn cynnwys yr ymrwymiad ariannu gwerth £4.8 miliwn trwy'r Cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Amlflwyddyn. Mae gwaith sefydlogi sylweddol yn Nhomen Graigddu, Dinas, yn cael ei gynnal o ganlyniad i'r cynllun grant yma, ar ôl iddo ddechrau ar y safle yn yr haf eleni.

“Yn Tylorstown, ochr yn ochr â gwaith draenio ar ochr y bryn, mae gwaith allweddol a thrafodaeth wedi digwydd mewn perthynas â'r safleoedd derbyn, yr hawl tramwy cyhoeddus sydd ar gau dros dro, a gwaith cynnal a chadw a monitro'r ardal yn y dyfodol. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r Heddlu mewn perthynas â cherbydau oddi ar y ffordd sy'n parhau i gael mynediad i'r safle ac sy'n achosi difrod i'r seilwaith draenio. Wrth i Gam Pedwar ddod i ben, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion am waith olaf y contractwr, a gweithgarwch y Cyngor ar ôl hyn.”

Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad mawr y Cyngor mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar ein tudalennau gwe pwrpasol #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 29/09/2026