Pan gafodd grŵp o ddisgyblion o Aberdâr gyfle i ennill cymhwyster achub bywyd swyddogol a fyddai'n ategu eu hastudiaethau ac yn rhoi hwb i'w gyrfaoedd – neidion nhw am y cynnig!
Cafodd yr hyfforddiant ei gynnig i ddisgyblion Ysgol Gymunedol Aberdâr a oedd yn astudio am gymhwyster Safon Uwch mewn Chwaraeon, gan Corey Matthews. Cwblhaodd Corey ei Gymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol (NPLQ) pan oedd yn ddisgybl yn yr ysgol a defnyddiodd y cymhwyster i gael swydd gyda Hamdden am Oes yng Nghanolfan Hamdden Sobell.
Mae Corey bellach yn goruchwylio'r hyfforddiant ac yn asesu'r achubwyr bywydau sy'n cadw nofwyr yn ddiogel, ac yn gweithio'n Uwch Hyfforddwr Hamdden a Ffitrwydd a rheolwr ar ddyletswydd.
Fel cyn-ddisgybl chwaraeon, roedd Corey yn awyddus i gefnogi partneriaeth a fyddai'n galluogi pobl ifainc eraill i fwynhau profiad ymarferol mewn maes o'u dewis ac ennill cymwysterau ar gyfer swydd – efallai'n achubwr bywydau, hyfforddwr ffitrwydd neu'n weithiwr ysgogi cyffredinol y mae Hamdden am Oes a'i gwsmeriaid yn dibynnu arnyn nhw!
Gweithiodd Corey a'r garfan yng Nghanolfan Hamdden Sobell gyda Matthew Trowbridge, Cyfarwyddwr Dysgu ar gyfer Chwaraeon a Lles yn Ysgol Gymunedol Aberdâr i greu'r bartneriaeth beilot.
Rhoddwyd prawf ar allu'r 17 o ddisgyblion yn rhan o'r hyfforddiant NPLQ swyddogol y mae pob achubwr bywydau Hamdden am Oes yn ei gwblhau. Mae'n sgìl trosglwyddadwy y mae modd ei ddefnyddio ledled y byd os yw'n cael ei gynnal.
Gadawodd y disgyblion yr ystafell ddosbarth i ddysgu mewn amgylchedd a daflodd oleuni ar y byd chwaraeon a hamdden maen nhw wedi dewis ei astudio.
Llwyddodd pob un i gwblhau’r cwrs a chynrychiolon nhw eu hunain a'r ysgol yn arbennig o dda, gan greu argraff dda ar eu tiwtoriaid a staff Hamdden am Oes.
Meddai Matthew Trowbridge: “O sgyrsiau cynnar am sut gallen ni weithio gyda'n gilydd i gynnal y cwrs, fe wnaeth y bartneriaeth argraff dda arnon ni ac rydyn ni'n edrych ymlaen at brosiectau gyda Hamdden am Oes a Chanolfan Hamdden Sobell yn y dyfodol.
“Rydyn ni mor falch o sut ymatebodd ein disgyblion gyda brwdfrydedd, ymroddiad ac ymrwymiad wrth iddyn nhw fwynhau cael blas ar ddatblygiad proffesiynol parhaus yn y byd go iawn a chwrs anodd.
“Roedd Corey yn arweinydd arbennig a lwyddodd i ymdopi â gofynion y cwrs a meithrin perthynas gyda'r disgyblion a'u cefnogi nhw fel unigolion.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at bartneriaethau'r dyfodol, gan roi blas i ddisgyblion ar eu gyrfaoedd y dyfodol a'r cyfleoedd ym maes hamdden sydd ar gael iddyn nhw.”
Meddai Corey Matthews: “Rydw i'n ddiolchgar am allu cynnig profiad a'r cymwysterau i'r disgyblion, a thaflu goleuni ar Hamdden am Oes a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
“Mae dechrau gyda 17 o bobl nad oedden nhw'n nofio a gorffen gyda phasio cwrs NPLQ yn gyflawniad gwych – dylai'r disgyblion fod yn falch iawn ohonyn nhw eu hunain. Dyma ddymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer eu hastudiaethau ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu o leiaf nifer ohonyn nhw i'w rolau newydd yn Hamdden am Oes pan ddaw'r amser.”
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae gwasanaeth Hamdden am Oes y Cyngor yn arbennig oherwydd ei fod yn canolbwyntio'n bennaf ar ein cymunedau.
“Mae Hamdden am Oes yn aros gyda phobl am genedlaethau. Aeth yr un trigolion hŷn sy'n mynychu dosbarthiadau llai heriol i gadw'n heini ac yn gymdeithasol ar hyn o bryd, i ddosbarthiadau dysgu nofio yn ein pyllau – ac mae eu plant a'u hwyrion yn mwynhau'r campfeydd, pyllau, chwaraeon a dosbarthiadau ffitrwydd yn ein 12 canolfan.
“Mae'r ymdeimlad hwnnw o gymuned glos i'w gael o ran ein staff hefyd, gyda nifer ohonyn nhw wedi'u magu yn y Fwrdeistref Sirol, gyda phartneriaethau megis un Corey i roi cymorth, profiad ac ysbrydoliaeth i bobl iau wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd ym maes hamdden.
“Dylai pob un o'r disgyblion a gwblhaodd y cwrs NPLQ fod yn falch iawn ohonyn nhw eu hunain am yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni a'u cynnydd. Dyma ddymuno'n dda iawn iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau â'u hastudiaethau ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld nhw'n gweithio mewn un o'n canolfannau ryw ddydd!
“Rydw i hefyd eisiau diolch i'r aelodau o staff yng Nghanolfan Hamdden Sobell am eu hymrwymiad i'r gymuned, ac yn enwedig i'r disgyblion sy'n bwriadu cerdded yn eu hôl troed rywbryd yn y dyfodol.”
Dewch o hyd i'ch canolfan Hamdden am Oes agosaf a bwrw golwg ar ei hamserlenni nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a champfa yma.
Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am aelodaeth yma.
Rydyn ni'n cynnig aelodaeth ratach i bobl sy'n iau nag 18 oed neu'n hŷn na 60 oed, pobl sy'n derbyn budd-daliadau cymwys a phobl sy'n gweithio i un o'n Partneriaid Corfforaethol neu'n aelod o un ohonyn nhw. Hefyd mae gyda ni gynllun peilot yr aelodaeth canol tref ar gyfer ardaloedd Llantrisant, Tonysguboriau, Pontypridd a Thonyrefail, ac rydyn ni'n falch o gefnogi ein gweithwyr Golau Glas ac aelodau'r Lluoedd Arfog gyda mynediad rhatach at gyfleusterau Hamdden am Oes.
Mae cyrsiau NPLQ ar gael mewn canolfannau Hamdden am Oes yn ystod y flwyddyn. Sicrhewch eich bod chi'n ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am y cyfleoedd diweddaraf.
NPLQ courses run at Leisure for Life centres throughout the year, make sure you follow us on socials for the latest opportunities.
Wedi ei bostio ar 28/04/2025