
Lluniau trwy gartws Rachael Barron Photography, Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges.
Ar 2 Rhagfyr, mynychodd aelodau o garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant y Cyngor Fishmongers’ Hall yn Llundain i dderbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn ffurfiol. Daw'r wobr yn rhan o'r ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad y mae Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion Cyngor RhCT yn ei ddarparu. Mae'r gydnabyddiaeth yma'n anrhydeddu'r ymrwymiad i ddarparu hyfforddiant a datblygiad eithriadol, sy'n rhywbeth y mae'r Cyngor yn ymfalchïo ynddo.
Ers 2012, mae'r Cyngor wedi bod yn darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon uchel sydd ar gael i'r gymuned drwy'r Cynllun Prentisiaethau a’r Rhaglen i Raddedigion. Ers 2020, mae dros 194 o brentisiaid a 114 o Raddedigion wedi cael eu cyflogi ar draws y Cyngor, gyda llawer yn dewis aros a dilyn gyrfaoedd llwyddiannus.
Meddai Amber Timol, Swyddog Marchnata Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i wedi cwblhau’r Cynllun Prentisiaethau 2 flynedd yn ddiweddar ac rydw i bellach yn gweithio’n llawn amser o fewn y Cyngor. Rhoddodd y brentisiaeth gyfle i mi ddilyn llwybr gyrfa newydd, datblygu sgiliau newydd ac ennill cymhwyster gyda'r fantais o gael swydd amser llawn. Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i derbyn gan fy ngharfan a'r garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant wedi bod yn wych drwyddi draw ac rydw i wedi cael cymaint o gyfleoedd i roi fy ngwybodaeth newydd ar waith. Byddwn i’n annog unrhyw un i ystyried y Cynllun Prentisiaethau neu’r Rhaglen i Raddedigion gan eu bod nhw’n cynnig cymaint o ddatblygiad personol ac yn agor drysau newydd.”
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae hyn yn dyst i ymroddiad ein carfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant wrth greu cyfleoedd ystyrlon, meithrin talent, a chyflawni gwir effaith ar gyfer ein gweithlu drwy Gynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion y Cyngor!
“Ers 2020, mae 194 o brentisiaid wedi manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi a datblygu sy'n rhan annatod o'r cynllun, ac mae carfan 2023 o brentisiaid a graddedigion bellach yn dathlu diwedd eu cynlluniau ac yn edrych ymlaen at ddechrau eu gyrfaoedd llwyddiannus.
"Rydyn ni'n falch o nodi bod 100% o Brentisiaid y Cyngor wedi cyflawni eu fframwaith cymhwyster llawn rhwng 2012 a 2024, gyda 93% yn sicrhau cyflogaeth ar ôl i'w cynllun ddod i ben. Aeth mwy na 79% o'r rhain ymlaen i sicrhau swydd gyda'r Cyngor, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i gael swyddi allanol neu gyflawni dysgu pellach."
Mae'r Rhaglen i Raddedigion yn agor yn y gaeaf, ac mae'r Cynllun Prentisiaethau yn agor yn y gwanwyn, yn barod i garfan newydd o unigolion ddysgu sgiliau allweddol, datblygu'n broffesiynol a dod â syniadau ffres i feysydd gwasanaeth ar draws y Cyngor.
Cadwch lygad ar ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn y flwyddyn newydd am ein cyfleoedd nesaf i raddedigion.
Lluniau trwy gartws Rachael Barron Photography, Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges.
Wedi ei bostio ar 09/12/2025