Skip to main content

DIRWY i Ddeliwr Metel Sgrap

Mae dyn o Gaerffili a gafodd ei ddal yn casglu metel sgrap yn anghyfreithlon yn ardal Beddau wedi cael dirwy gwerth dros £1,100 gan Lys Ynadon Merthyr Tudful.

Daliodd Swyddogion Trwyddedu ymroddedig Cyngor Rhondda Cynon Taf Mr Cole o Gaerffili, yn ystod gwaith arferol yn gwirio cerbydau hacni. Gwelwyd Mr Cole yn casglu metel sgrap mewn fan Ford wen yn Stryd y Fasnach, Beddau.

Cafodd Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 ei chyflwyno i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ddwyn metel ledled y DU. Nod y Ddeddf yw rheoleiddio'r diwydiant metel sgrap yn fwy effeithiol ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob casglwr metel sgrap gael trwydded gan awdurdod lleol.

Mae'r Ddeddf yn nodi bod rhaid cael trwydded casglwr os ydych chi'n casglu metel sgrap.  Mae angen i chi drefnu trwydded ar wahân ar gyfer ardal pob awdurdod lleol rydych chi'n casglu ynddi.

Pan aeth Swyddogion Trwyddedu'r Cyngor at Mr Cole, a oedd yn gyrru'r cerbyd, honnodd nad oedd y drwydded a'r bathodyn yn bresennol o ganlyniad i lanhau'r cerbyd yn ddiweddar. Cafodd ei atgoffa o'r gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod gyda fe'r drwydded ar bob adeg.

Pan ymchwiliodd y garfan i'r achos a gwirio'r cofnodion trwyddedu, daethpwyd i'r amlwg nad oedd gan Mr Cole drwydded wedi'i rhoi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Cafodd ffeil achos erlyn ei pharatoi gan swyddogion ar gyfer y llys, fel bod modd cymryd camau pellach.

Aeth Mr Cole ddim i'r gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful a chafodd ei ddyfarnu'n euog yn ei absenoldeb o ymgymryd â busnes deliwr metel sgrap heb y drwydded briodol.

Cafodd ddirwy o £660, gyda chostau ychwanegol gwerth £200 a gordal i ddioddefwyr gwerth £264, i'w talu o fewn 28 diwrnod.

Nod Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 yw rheoleiddio'r diwydiant metel sgrap yn fwy effeithiol trwy:

  • Ei gwneud hi'n ofynnol i bob deliwr metel sgrap drefnu trwydded gan awdurdodau lleol, gyda phwerau i wrthod neu dynnu trwydded yn ôl yn seiliedig ar addasrwydd.
  • Gwahardd taliadau arian parod am drafodiadau metel sgrap i wella dulliau olrhain a lleihau troseddau.
  • Mynnu bod gwiriadau hunaniaeth yn cael eu cynnal a bod cofnodion manwl yn cael eu cadw ar gyfer pob trafodiad.
  • Rhoi pwerau gorfodi i'r heddlu ac awdurdodau lleol gynnal arolygiadau a gwiriadau cydymffurfio.

Mae'r Ddeddf yn helpu i amddiffyn cymunedau, yn cefnogi busnesau dilys ac yn sicrhau bod metel sgrap yn cael ei waredu'n amgylcheddol gyfrifol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:

“Mae ein carfanau ymroddedig yn parhau i weithio'n galed i stopio 'masnachwyr twyllodrus' rhag gweithio yn yr ardal, o fetel sgrap a nwyddau ffug i fêps anghyfreithlon – byddwn ni'n cymryd y camau angenrheidiol pan fydd angen i ddwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif.

"Mae'r hyn maen nhw'n ei wneud yn anghyfreithlon. Gallai ein busnesau dilys golli allan o ganlyniad i hyn, a gallai trigolion fod mewn perygl o gael eu herlyn neu gael dirwyon.

"Fel mae'r achos yma'n ei ddangos, mae casgliadau gwastraff a metel sgrap heb drwydded yn bwysig i ni, a byddwn ni'n gweithio'n galed i erlyn troseddwyr."

Mae Swyddogion Trwyddedu yn annog unrhyw un sy'n casglu metel sgrap ar hyn o bryd, neu sy'n ystyried gwneud hynny, i gysylltu â'r Garfan Drwyddedu am gyngor o ran cael y drwydded briodol.

Mae'r Cyngor hefyd yn atgoffa trigolion i sicrhau bod gan yr unigolyn maen nhw'n ei dalu i gasglu eu heitemau neu gael gwared arnyn nhw, y trwyddedau cywir. Mae hyn yn berthnasol i fetel, rwbel a gwastraff y cartref. Mae dyletswydd gofal ar drigolion i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir.

Mae'r 'dyletswydd gofal' o ran tipio'n anghyfreithlon yn golygu bod gan ddeiliaid tai gyfrifoldeb i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon ac i sicrhau nad yw trydydd parti yn ei dipio'n anghyfreithlon. I gydymffurfio, rhaid i chi ddefnyddio cludwyr gwastraff awdurdodedig, gwirio eu rhif cofrestru a chadw cofnodion megis nodiadau trosglwyddo gwastraff neu dderbynebau. Os nad ydyn nhw'n gwneud hynny, gallen nhw gael eu herlyn neu wynebu dirwy os caiff y gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LicencesandPermits/Streettradinglicences/Scrapmetaldealerslicence.aspx neu e-bostiwch Garfan Drwyddedu RhCT Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 02/12/2025