Bydd y gwaith paratoi i osod ciosg bach, a fydd yn gwerthu bwyd a diod i’w gludo oddi yno, ar safle'r hen neuadd bingo ym Mhontypridd yn dechrau ar y safle'r wythnos nesaf (17 Mehefin) - cyn i'r ciosg gael ei gludo i'r safle wythnos yn ddiweddarach.
Cafodd caniatâd cynllunio i osod y ciosg newydd ei roi ym mis Medi 2024. Bydd y ciosg parhaol yn cael ei osod yn y man cyhoeddus sydd wedi'i ailddatblygu ger safle’r Arhosfan Bws newydd i’r de o'r Orsaf Drenau (gweler y llun).
Bydd y gwaith i baratoi'r ardal er mwyn gosod y ciosg bwyd a diod yn dechrau ddydd Mawrth, 17 Mehefin, ac mae disgwyl iddo bara oddeutu pythefnos.
O 17 Mehefin, bydd trigolion ac ymwelwyr yn sylwi bod rhan o'r ardal gyhoeddus wedi'i chau dros dro, a hynny er mwyn cysylltu'r ciosg â chyflenwad cyfleustodau. Mae'r ciosg ei hun wedi'i adeiladu oddi ar y safle, a bydd yn cael ei gludo i Bontypridd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 23 Mehefin.
Fydd dim angen cyflwyno mesurau rheoli traffig sylweddol, ond bydd ychydig o darfu pan fydd y cerbyd sy’n cludo’r ciosg wedi'i barcio ar y lôn ger y safle am gyfnod. Mae'r Cyngor wedi gofyn bod y gwaith yma’n cael ei wneud y tu allan i'r oriau teithio prysuraf.
Bydd craen yn cael ei ddefnyddio er mwyn gosod y ciosg yn ei leoliad parhaol - ar ran uchaf y safle. Bydd gan y strwythur do gwastad wedi’i wneud o bren, a bydd yn cynnwys man manwerthu/cegin, storfa, a thoiled ar gyfer staff. Bydd yn darparu gwybodaeth i ymwelwyr a bydd seddi symudol awyr agored ar ei gyfer.
Meddai'rCynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Bydd y ciosg bwyd a diod newydd ar hen safle'r neuadd bingo yn ychwanegiad gwych i Bontypridd, ac rwy'n falch bod y gwaith gosod am fynd rhagddo. Rydyn ni'n rhagweld y bydd y ciosg yn boblogaidd iawn, yn enwedig gyda’r cymudwyr sy'n defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gerllaw - gan gynnwys yr arosfannau bysiau gerllaw, neu'r orsaf drenau ychydig ymhellach.
"Ers i ganiatâd cynllunio gael ei gymeradwyo yn yr hydref, mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal gwaith tendro pwysig er mwyn dod o hyd i denant parhaol i redeg y ciosg. Mae'r broses yma bellach wedi cyrraedd y camau olaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gyhoeddi'r gweithredwr llwyddiannus yn fuan iawn.
“Mae’r buddsoddiad rydyn ni wedi’i wneud at ddibenion adfywio yn parhau i gael effaith gadarnhaol ym mhob rhan o’r dref - gydag YMa, Y Muni, Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf wedi'u darparu yn ddiweddar, a chyllid yn parhau i gael ei wario ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae cynnydd da wedi’i wneud mewn perthynas â chynllun cyffrous 'plasa glan yr afon'. Dechreuodd y gwaith yma ym mis Chwefror, gan ategu'r ardal gyhoeddus o safon ar hen safle'r neuadd bingo. Mae gosod ciosg bach sy’n gwerthu bwyd a diod wedi bod yn rhan o'r cynllun ers y dechrau, ac mae bellach yn nesáu at fod yn weithredol.
"O ddydd Llun, bydd ymwelwyr a thrigolion Canol Tref Pontypridd yn sylwi bod rhan o hen safle'r neuadd bingo wedi'i gau wrth i waith paratoi gael ei gynnal er mwyn cludo’r ciosg yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 23 Mehefin. Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu llawer, a bydd yr arosfannau bysiau i’r de o'r Orsaf Drenau yn parhau i fod ar gael yn unol â'r drefn arferol."
Wedi ei bostio ar 13/06/2025