Efallai y bydd trigolion yn y Porth yn sylwi bod gwaith i wal yr afon yn digwydd ger yr A4058 o'r wythnos nesaf ymlaen, i lawr yr afon o'r bont yn Stryd y Nant – ond y disgwyl yw na fydd llawer o darfu ar y gymuned.
Difrodwyd rhannau o wal yr afon yn ystod stormydd ddiwedd 2024, ac mae rhai mannau wedi cael eu hatgyweirio o'r blaen (yn y llun, ar y dde).
Y rhan nesaf a fydd yn cael sylw yw'r llun ar y chwith, gyda'r atgyweiriadau hyn yn cynnwys llenwi rhannau sydd wedi cwympo i'r afon.
Bydd gwaith ailbwyntio a gwaith llystyfiant hefyd yn cael ei wneud gan gontractwr penodedig y Cyngor, Hammond ECS Ltd.
Bydd y gwaith yn dechrau o ddydd Llun, 23 Mehefin, a'r disgwyl yw iddo bara tua chwe wythnos i gyd.
Does dim angen rheoli traffig na chau llwybrau troed ar hyd yr A4058, oherwydd bod lleoliad y gwaith ychydig yn ôl o'r ffordd.
Mae cyllid wedi'i gynnwys ar gyfer atgyweiriadau wal afon Stryd y Nant/A4058 yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd 2025/26 y Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 19/06/2025