Byddwch yn barod i fwynhau blasau Cymru yng Ngŵyl Bwyd a Diod Cegaid o Fwyd Cymru, sy'ch dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sul 3 Awst, rhwng 11am a 5pm bob dydd. Mae'r ŵyl fwyd a diod boblogaidd yma yn addo gwledd i'r holl synhwyrau – a'r gorau oll, mae mynediad ac adloniant yn rhad ac am ddim!
Cymerodd yr ŵyl fwyd a diod enwog seibiant yn 2024 wrth i’r parc groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol, ond mae'n ôl gyda chlec yn 2025! Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn arddangos y gorau mewn bwyd, diod ac adloniant Cymru. Gyda dros 70 o gynhyrchwyr bwyd lleol a rhanbarthol, mae modd i ymwelwyr archwilio amrywiaeth fywiog o fwyd stryd, danteithion crefftus, cynnyrch ffres o'r fferm, a chrefftau coginio — yn berffaith ar gyfer bwydgarwyr, teuluoedd, a blaswyr chwilfrydig fel ei gilydd.
Mae'r danteithion blasus sydd ar gael eleni yn cynnwys popeth o borc rhost i gacennau caws wedi'u gwneud â llaw! Mae rhestr lawn o arddangoswyr ar gael yn www.cegaidofwydcymru.co.uk
Beth i'w Ddisgwyl:
Bwyd, bwyd bwyd!
O bwdinau blasus i sglodion wedi’u llwytho, mae yna rywbeth at ddant pawb. Ewch i'r pentref bwyd a diod am amrywiaeth o fwyd stryd a danteithion traddodiadol. Mae cynigion fegan a di-glwten ar y fwydlen hefyd.
Arddangosiadau Coginio Byw gan gogydd preswyl Cegaid o Fwyd Cymru, Geoff Tookey, a’r seren TikTok 'That “Batch” Cooking Debie'!
Bydd Geoff wrth law yn coginio ar y llwyfan arddangos ddydd Sadwrn 2 Awst. Bydd y seren TikTok 'That "Batch" Cooking Debie yn ymuno ag ef ar 3 Awst, a bydd hi'n dangos i ni sut i goginio prydau bwyd fforddiadwy i'r teulu cyfan.
Adloniant AM DDIM yn yr Arena gan gynnwys:
Mae carfan Hamdden am Oes Rhondda Cynon Taf yn dod â ffitrwydd i'r parc gyda sesiwn foreol o ddosbarthiadau ffitrwydd i ddechrau'ch diwrnod! Bydd y rhain yn cael eu cynnal am 11am bob dydd yn arena'r sioe. Ymunwch â chodi archwaeth!
Mae Madness Events yn dod â'u sioe styntiau unigryw sy'n herio disgyrchiant i Gegaid o Fwyd Cymru am y tro cyntaf. Paratowch i gael eich synnu gan styntiau a thriciau a gyflawnir gan athletwyr pencampwyr Prydain a phobl styntiau cofrestredig Prydeinig a fydd yn arddangos eu sgiliau anhygoel ar wal trampolîn.
Mae rhywbeth newydd arall yn arena Cegaid o Fwyd Cymru eleni, wrth i Ddraig 7 troedfedd o uchder gan Mythical Adventures fynd i’r arena! Bydd yr act yma'n gwneud i chi feddwl tybed a yw dreigiau wir yn ddeunydd chwedl yn unig….
Dydyn ni ddim yn wirion, yn wahanol i’r bobl yma! Ymunwch â Steven Longton wrth iddo barhau â thraddodiad teulu Longton o hyfforddi, gweithio a chynnal treialon cŵn defaid. Gwyliwch sgiliau ci defaid gweithiol ar waith mewn arddangosfa gaeth o gywirdeb, ystwythder a gwaith tîm.
Bydd y grŵp dawns lleol SK Dance yn mynd i'r arena i arddangos eu harferion egnïol, gyda galluoedd oedran cymysg, dewch draw i weld beth all pŵer dawns ei gyflawni.
Gardd gwrw
Mwynhewch yr awyrgylch, eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch yn ein gardd gwrw drwyddedig sy'n cynnwys seidr, jin, cwrw, lager a choctels wedi'u gwneud â llaw wedi'u bragu'n lleol. Mwynhewch ddiod ar y safle yn yr ardal ddynodedig yma, neu prynwch unedau wedi'u selio a mynd â nhw adref gyda chi i'w mwynhau yn eich amser hamdden.
Stondinau crefftau a gwybodaeth
O anrhegion hardd wedi'u gwneud â llaw i grefftau unigryw, mae rhywbeth at ddant bawb yn ein pentref crefftau. Yma fe welwch chi hefyd ystod o wasanaethau elusennol, gwybodaeth a chymorth o fwyta'n iach i sut y mae modd i chi gymryd rhan mewn sefydliadau cymunedol yn eich ardal.
Adloniant ochr y stryd
Cadwch lygad drwy gydol y penwythnos am ein gwenyn a'n ffrwythau enfawr. Cofiwch dynnu hunlun gyda'r cogydd anferth sy'n cerdded ar stiltiau!
Hwyl y Ffair
Daliwch yn dynn wrth i chi fynd ar y cwpanau te neu wibio ar y daith trên. Pa mor uchel y mae modd i chi fownsio ar y trampolinau? Neu ewch i fachu candi-fflos! Mae Ffair Hwyl Cegaid o Fwyd Cymru bob amser yn ffefryn! Mae hyn i gyd yn creu penwythnos o hwyl i'r teulu cyfan yng nghyffiniau prydferth Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
P'un a ydych chi'n chwilio am damaid blasus, diod i dorri syched, neu ddiwrnod gwych allan gyda'r teulu, mae Cegaid o Fwyd Cymru yn uchafbwynt haf na ddylid ei golli.
Manylion yr Achlysur:
- Dyddiad(au): Dydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sul 3 Awst 2025
- Amser: 11.00am–5.00pm
- Lleoliad: Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
- Mynediad: RHAD AC AM DDIM
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
Mae Cegaid o Fwyd Cymru wedi bod yn uchafbwynt i drigolion ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf ers tro, gan ddod â'r gymuned ynghyd am benwythnos bythgofiadwy. Ac yntau'r achlysur mwyaf yn ein calendr achlysuron blynyddol, rydyn ni’n croesawu’r achlysur yn ôl eleni gyda breichiau agored. Mae bellach yn fwy ac yn well, gyda detholiad hyd yn oed yn fwy o fwyd, diod ac adloniant rhad ac am ddim. Mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i archwilio'r hyn sydd ar gael. Peidiwch â cholli'r dathliad blasus yma o fwyd Cymreig!
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cegaidofwydcymru.co.uk
Mae Parc Coffa Ynysangharad hefyd yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, felly beth am archebu sesiwn nofio neu weithgaredd a gwneud eich ymweliad i Gegaid o Fwyd Cymru yn ddiwrnod llawn hwyl? Mae Parc Coffa Ynysangharad hefyd yn gartref i Chwarae'r Lido – maes chwarae antur mawr, perffaith i blant! Gyda'r gwelyau blodau cysefin a'i gyfleoedd i gerdded ar hyd yr afon neu hyd yn oed ymuno â Llwybr Taith Taf, mae'n hawdd gweld pam mae Parc Coffa Ynysangharad wedi derbyn Gwobr Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus dro ar ôl tro, a gaiff ei dyfarnu i leoedd eithriadol â safonau uchel.
Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.
Wedi ei bostio ar 25/06/2025