Skip to main content

Gwaith i wella'r gallu i wrthsefyll llifogydd i ddechrau ar Heol Turberville

Turbeville rd 2

Bydd gwaith i gynyddu capasiti a gwella'r gallu i wrthsefyll llifogydd ar Heol Turbeville, Ynys-hir, yn dechrau ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf. Mae disgwyl i'r gwaith bara tan fis Mawrth 2026. Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn rhan o Gynlluniau Mawr Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn Ynys-hir yn cyflawni cyfres o welliannau sy'n cynnwys gwella'r rhwydwaith draenio presennol, a hynny er mwyn cynyddu'r capasiti a lleihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal. 

Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar y strydoedd canlynol, nodwch y gallai'r amserlenni yma newid:

  • Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar Heol Turberville o fis Gorffennaf i fis Medi a bydd angen cau'r ffordd – bydd modd i drigolion barhau i barcio y tu allan i eiddo, ac eithrio y tu allan i rif 105, 107 a 108.

 

  • Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar Heol Aber-Rhondda o fis Medi i fis Hydref a bydd angen gosod goleuadau dros dro.

 

  • Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar Heol Packer o fis Hydref i fis Rhagfyr a bydd angen cau'r ffordd.

 

  • Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar Heol Aldergrove o fis Rhagfyr i fis Chwefror a bydd angen cau'r ffordd.

Bydd arwyddion yn nodi'r llwybrau dargyfeirio.

Bydd mynediad i eiddo yn cael ei gynnal ar gyfer cerddwyr trwy gydol y gwaith, a bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu yn ôl yr arfer gan ddilyn y trefniadau cau sydd ar waith ar Heol Turberville. Mae hyn yn golygu y bydd y bws yn troi cyn Heol Turberville ac yn gollwng trigolion ar ddiwedd y stryd, lle mae Heol Turberville yn cwrdd â Heol Troed-y-rhiw.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith yma gael ei gynnal.

Wedi ei bostio ar 26/06/2025