Skip to main content

Cam nesaf y gwaith trwsio cwlfer i ddechrau yn Aberpennar

Troed y Rhiw Road - Copy

Bydd ail gam y gwaith atgyweirio mawr i'r cwlfert yn Heol Troed y Rhiw, Aberpennar, yn dechrau'r wythnos nesaf – ond  fydd traffig trwodd ar yr A4059 ddim yn cael ei effeithio.

Cynhaliwyd gwaith brys yn wreiddiol yn dilyn Storm Bert, ac mae prif gynllun atgyweirio i unioni'r difrod a sicrhau mwy o gadernid yn ystod digwyddiadau storm yn y dyfodol yn digwydd dros ddau gam o waith.

Cwblhawyd cam un ganol mis Ebrill 2025, a bydd yr ail gam bellach yn dilyn fel roedd y bwriad o ddydd Llun, 12 Mai – gan bara tua phedair wythnos.

Bydd y gwaith sydd ar ddod yn ehangu darn o bibell o dan y ffordd ac yn gosod system gorlif ochr yn ochr â hi. Bydd twll archwilio newydd hefyd yn cael ei osod ar hyd y rhwydwaith.

Bydd angen cau'r ffordd tua rhan isaf Heol Troed y Rhiw er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel.

Bydd Heol Troed y Rhiw ar gau rhwng yr A4059 a'i chyffordd â Chlos y Cerdin a Bron-y-Deri – lle bydd goleuadau traffig tair ffordd.

Llwybr amgen i yrwyr yw trwy ran uchaf Heol Troed y Rhiw, Y Poplys, Stryd Navigation, Stryd Jeffrey, Heol y Dyffryn a'r A4059 Heol Newydd – neu'r llwybr hwn yn y drefn wrthol.

Fydd y lôn droi i'r dde yng nghanol yr A4059 ddim ar gael i'w defnydd yn ystod y cyfnod hwn, gan na fydd mynediad uniongyrchol i Heol Troed y Rhiw.

Bydd mynediad i gerddwyr a'r gwasanaethau brys o hyd.  Dylai beicwyr ddilyn y llwybr amgen uchod.

Bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn cynnal y gwaith ar y safle, ochr yn ochr ag Arch Services Ltd.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau £4.52 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd yn 2025/26 – ar draws ei raglenni Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach.

Mae hyn yn ychwanegol at gyllid o £1.5 miliwn tuag at 10 cynllun pellach drwy Gronfa Ffyrdd Gwydn, ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 09/05/2025