Skip to main content
Alert Symbol
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd AMBR am law ddydd Llun 1st Rhagfyr ymaledled Rhondda Cynon Taf tan 9pm. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Rhybudd Tywydd Ambr ar gyfer Dydd Llun 1 Rhagfyr

Amber-4-WELSH

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd AMBR o law trwm a fydd yn dechrau yn ystod oriau mân y bore, dydd Llun 1 Rhagfyr.

Mae disgwyl i law trwm gyrraedd o nos Sul a pharhau yn ystod dydd Llun. Cynghorir trigolion a busnesau i baratoi ymlaen llaw ar gyfer llifogydd a tharfu tebygol.  

Bydd cyfnodau o law yn dod yn gyfnodau hir a thrwm trwy gydol oriau mân y bore, ac mae disgwyl i'r tywydd gwaethaf gyrraedd o ganol dydd ddydd Llun a pharhau tan y nos.

Mae perygl llifogydd cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid i lefel GANOLIG, sy’n golygu bod llifogydd yn debygol. Mae gwybodaeth o’r Ganolfan Darogan Llifogydd yn awgrymu y gallai’r effaith fod yn sylweddol, sy’n golygu y dylai trigolion a busnesau baratoi yn unol â hyn.

Yn ystod Storm Claudia, fe wnaethon ni osgoi'r gwaethaf o'r tywydd difrifol, yn ffodus. Fodd bynnag, pan fydd perygl uchel o lifogydd, y peth gorau i'w wneud yw paratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf.

Cyngor i drigolion a busnesau

  • Gwiriwch a yw'ch eiddo mewn perygl o lifogydd a pharatowch gynllun llifogydd os bydd angen.
  • Os ydych chi wedi wynebu llifogydd yn flaenorol, sicrhewch fod dogfennau pwysig a phethau gwerthfawr yn cael eu storio’n ddiogel.
  • Gwiriwch a gosodwch lifddorau ac amddiffynfeydd rhag llifogydd os oes gan eich eiddo un, yn enwedig cyn i chi fynd i'r gwely nos Sul a dydd Llun.
  • Osgowch deithiau diangen yn ystod y cyfnodau trymaf o law gan y dylid disgwyl llifogydd dŵr wyneb ar ffyrdd. Os oes rhaid teithio, neilltuwch amser ychwanegol, gyrrwch yn ôl amodau'r ffordd a gwiriwch yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y ffyrdd a threnau.
  • Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfrifon swyddogol y Swyddfa Dywydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Prynwch fagiau tywod os ydych chi'n poeni am eich eiddo. Mae modd prynu/llenwi bagiau tywod yn safleoedd eich cwmnïau gwerthu nwyddau adeiladu lleol.  Mae gan griwiau'r Cyngor tua 10,000 o fagiau tywod y bydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer argyfyngau yn unig ac mewn achosion lle mae modd iddyn nhw ymateb.

Helpu ein criwiau

Mae ein criwiau a'n contractwyr yn gweithio'n galed iawn cyn ac yn ystod cyfnodau o dywydd garw – a hynny yn ystod oriau gwaith arferol a thu allan iddyn nhw. O ystyried yr achosion aml a dwys o dywydd garw yn ddiweddar, mae angen iddyn nhw ymateb i'r bygythiadau mwyaf brys wrth iddyn nhw ddigwydd.  Mae modd i chi eu helpu nhw yn ystod y cyfnod yma trwy wneud ychydig o gamau bach:

  • Clirio dail neu falurion o ddraeniau ar eich eiddo. Bydd clirio gorchuddion unrhyw ddraeniau neu gwteri y tu allan i'ch eiddo / ger eich eiddo, os yw'n ddiogel gwneud hynny, yn helpu ein criwiau'n fawr, ac yn lleihau perygl llifogydd wyneb. Mae modd gwneud hyn trwy wisgo menig neu drwy ddefnyddio padell lwch a brwsh. 
  • Rhoi gwybod am lifogydd trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein newydd sydd ar gael 24/7. Mae adroddiadau wedi'u hanfon trwy ein ffurflen ar-lein yn mynd yn uniongyrchol at ein criwiau'r rheng flaen, heb yr angen i fynd trwy ein Canolfan Gyswllt. 
  • Os oes gyda chi gwlfer neu gwrs dŵr preifat ar eich eiddo, gwiriwch a oes unrhyw rwystrau a chael gwared ar y rhain os yw'n ddiogel gwneud hynny, er mwyn lleihau perygl llifogydd.

Beth ydyn ni wedi'i wneud a beth ydyn ni'n ei wneud?

Rydyn ni'n deall pryderon y cyhoedd, ac rydyn ni'n mynd ati'n rhagweithiol i anfon criwiau, peiriannau a cherbydau i'r ardaloedd sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd. Bydd ein criwiau a'n contractwyr yn gweithio trwy gydol cyfnod y rhybudd i ymateb i argyfyngau.  Rydyn ni wedi cynyddu nifer y contractwyr a pheiriannau'n sylweddol, a hynny er mwyn helpu'r ymateb i lifogydd.

Bydd camerâu teledu cylch cyfyng a larymau ar gwlferi yn cael eu monitro trwy gydol cyfnod y tywydd garw, gyda'r wybodaeth yma'n cael ei throsglwyddo i griwiau'r rheng flaen i ymateb i broblemau.

Mae gweithwyr glanhau cwteri a rheoli cerbydau chwistrellu dŵr yn gweithio oriau estynedig i glirio draeniau o ganlyniad i gynnydd yn nifer y dail sy'n cwympo adeg yma'r flwyddyn sy'n cynyddu perygl llifogydd wyneb.

Byddwn ni’n defnyddio pympiau dŵr cyfeintiau mawr ochr yn ochr â Dŵr Cymru ym Mhontypridd ddydd Llun. Dyma roi gwybod i drigolion a busnesau fod Pontypridd yn parhau i fod AR AGOR ddydd Llun, ond byddwch yn effro i’r wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ein tudalen Facebook swyddogol  (‘Cyngor Rhondda Cynon Taf’).

Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid lefel perygl llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach ar gyfer Rhondda Cynon Taf ddydd Llun i lefel GANOLIG, sy’n golygu bod llifogydd yn debygol. Dylai trigolion a busnesau sydd wedi wynebu llifogydd yn flaenorol fod yn barod. Rhagor o wybodaeth yma.

Prif afonydd

 Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod lefel perygl llifogydd o brif afonydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf ar lefel ISEL ar gyfer dydd Llun, sy'n golygu bod llifogydd yn bosibl. Fodd bynnag, gallai hyn newid. Dylai trigolion a busnesau sydd wedi wynebu llifogydd yn flaenorol fod yn effro a pharatoi ar gyfer hyn. Rhagor o wybodaeth yma.

Mae modd cofrestru i dderbyn Rhybuddion Llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yma.

Rhoi gwybod i'r Cyngor

Os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser.

I roi gwybod am argyfyngau mewn perthynas â llifogydd i'r Cyngor, mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael 24/7. Mae adroddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at ein criwiau'r rheng flaen lle byddan nhw'n cael eu blaenoriaethu, heb yr angen i ffonio ein Canolfan Gyswllt.

Rhowch wybod am lifogydd, ar-lein

Rhowch wybod am lifogydd trwy ein Canolfan Gyswllt:

01443 425001 (Dydd Llun-Dydd Gwener 08:30-17:00)

01443 425011 (y tu allan i oriau swyddfa)

Peidiwch â chysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol mewn argyfwng.                                                                                                                       

Cyngor o ran Diogelwch

Dylai unigolion mewn eiddo a busnesau sydd ag amddiffynfeydd rhag llifogydd wirio eu hoffer a'i osod os bydd angen, neu fod yn barod i'w osod.

Dylai unigolion mewn eiddo sydd wedi wynebu llifogydd yn flaenorol, neu eiddo sydd mewn perygl o lifogydd, fod yn barod. Rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd, yma.

Dylech chi osgoi teithiau diangen lle bo modd. Bydd amodau gyrru anodd, a dylid disgwyl llifogydd dŵr wyneb ar ffyrdd.

Os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser.

 

Manylion cyswllt defnyddiol

Dim trydan? Rhowch wybod am doriad trydan

Llifogydd o garthffos – Dŵr Cymru – 0800 052 0130

Argyfyngau Nwy: Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol - 0800 111 999

Llifogydd o afon: Cyfoeth Naturiol Cymru – 0300 065 3000

 

Newidiadau/Cau Gwasanaeth

Dydd Llun

Parc Coffa Rhyfel Ynysangharad - AR GAU O 5PM

Maes Parcio Heol y Nwy, Pontypridd - AR GAU O 5PM, GERBYDAU I ADAEL ERBYN 6PM

Maes Parcio Stryd Henry, Aberpennar - AR GAU O 5PM, GERBYDAU I ADAEL ERBYN 6PM

Wedi ei bostio ar 01/12/2025