Skip to main content

Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi PUMED rhybudd tywydd mewn pythefnos

Yellow-plain-WELSH

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ei PHUMED Rhybudd Tywydd Melyn o law mewn llai na phythefnos. Dyma roi gwybod i drigolion a busnesau i baratoi ar gyfer glaw trwm, gyda llifogydd a tharfu posibl, ddydd Gwener 14 Tachwedd – yn enwedig mewn ardaloedd y mae glaw trwm wedi effeithio arnyn nhw yn flaenorol. 

Mae rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd cyfnod hir o law trwm trwy gydol dydd Gwener, ac mae disgwyl i'r tywydd gwaethaf gyrraedd rhwng nos Wener a dydd Sadwrn. Mae rhagolygon y tywydd yn newid drwy'r amser, ac mae potensial y bydd y Swyddfa Dywydd yn newid y rhybudd i un ambr/coch. Mae swyddogion yn parhau i fonitro'r rhybuddion a'r nodiadau gwybodaeth, ynghyd â'n rhagolygon ein hunain sy'n rhoi'r diweddaraf bob awr.

Gyda chyfnod sylweddol diweddar o law, mae'r tir yn wlyb iawn ac mae lefelau afonydd yn uwch na'u lefelau arferol, sy'n cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r rhagolygon presennol yn awgrymu ei bod hi'n bosibl y bydd de-ddwyrain Cymru yn cael dros 100 milimedr o law. Dyma law sylweddol a allai arwain at effaith o ran dŵr wyneb a llifogydd o afonydd.

Cyngor i Drigolion a Busnesau

  • Gwiriwch a yw'ch eiddo mewn perygl o lifogydd a pharatowch gynllun llifogydd os bydd angen. 
  • Gwiriwch lifddorau i sicrhau bod y rhain yn gweithio.
  • Osgowch deithiau diangen yn ystod y cyfnodau trymaf o law a neilltuwch amser ychwanegol. Hefyd, gwiriwch yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ffyrdd a threnau.
  • Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfrifon swyddogol y Swyddfa Dywydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Prynwch fagiau tywod os ydych chi'n poeni am eich eiddo. Bydd criwiau'r Cyngor yn dosbarthu bagiau tywod mewn argyfwng yn unig ac mewn achosion lle mae modd iddyn nhw ymateb. Mae modd prynu/llenwi bagiau tywod yn safleoedd eich cwmnïau gwerthu nwyddau adeiladu lleol. 

Helpu ein criwiau

Mae ein criwiau a'n contractwyr yn gweithio'n galed iawn cyn ac yn ystod cyfnodau o dywydd garw. O ystyried yr achosion aml a dwys o dywydd garw yn ddiweddar, mae angen iddyn nhw ymateb i'r bygythiadau mwyaf brys wrth iddyn nhw ddigwydd. Mae modd i chi eu helpu nhw yn ystod y cyfnod yma trwy wneud ychydig o gamau bach:

  • Clirio dail neu falurion o ddraeniau ar eich eiddo. Bydd clirio gorchuddion draeniau neu gwteri y tu allan i'ch eiddo / ger eich eiddo, os yw'n ddiogel gwneud hynny, yn helpu ein criwiau'n fawr, ac yn lleihau perygl llifogydd wyneb. Mae modd gwneud hyn trwy wisgo menig neu drwy ddefnyddio padell lwch a brwsh. 
  • Rhowch wybod am lifogydd trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein newydd sydd ar gael 24/7. Mae adroddiadau wedi'u hanfon trwy ein ffurflen ar-lein yn mynd yn uniongyrchol at ein criwiau'r rheng flaen, heb yr angen i fynd trwy ein Canolfan Gyswllt.
  • Os oes gyda chi gwlfer preifat ar eich eiddo, gwiriwch a oes unrhyw rwystrau a chael gwared ar y rhain os yw'n ddiogel gwneud hynny, er mwyn lleihau perygl llifogydd.

Beth ydyn ni wedi'i wneud a beth ydyn ni'n ei wneud?

Rydyn ni'n deall pryderon y cyhoedd, ac rydyn ni'n mynd ati'n rhagweithiol i anfon criwiau, peiriannau a cherbydau i'r ardaloedd sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd. Bydd ein criwiau a'n contractwyr yn gweithio trwy gydol cyfnod y rhybudd – yn ystod oriau gwaith arferol a thu hwnt i'r oriau yma – er mwyn ymateb i argyfyngau. Rydyn ni wedi cynyddu nifer y contractwyr a pheiriannau'n sylweddol, a hynny er mwyn helpu'r ymateb i lifogydd.

Bydd gweithwyr yn ein hystafell rheoli argyfyngau trwy gydol cyfnod y rhybudd a bydd ein camerâu teledu cylch cyfyng a larymau ar gwlferi yn cael eu monitro, gyda'r wybodaeth yma'n cael ei throsglwyddo i griwiau'r rheng flaen i ymateb i broblemau.

Mae gweithwyr glanhau cwteri a rheoli cerbydau chwistrellu dŵr yn gweithio oriau estynedig i glirio draeniau o ganlyniad i gynnydd yn nifer y dail sy'n cwympo adeg yma'r flwyddyn sy'n cynyddu perygl llifogydd wyneb.  

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ein tudalen Facebook swyddogol  (‘Cyngor Rhondda Cynon Taf’).

Rhoi gwybod i'r Cyngor

Os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser.

I roi gwybod am argyfyngau mewn perthynas â llifogydd i'r Cyngor, mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael 24/7. Mae adroddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at ein criwiau'r rheng flaen lle byddan nhw'n cael eu blaenoriaethu, heb yr angen i ffonio ein Canolfan Gyswllt.

Rhowch wybod am lifogydd ar-lein.

Rhowch wybod am lifogydd trwy ein Canolfan Gyswllt:

  • 01443 425001 (Dydd Llun-Dydd Gwener 08:30-17:00)
  • 01443 425011 (y tu allan i oriau swyddfa)

Peidiwch â chysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol mewn argyfwng.                                                                                                                                       

Cyngor o ran Diogelwch

Dylai unigolion mewn eiddo a busnesau sydd ag amddiffynfeydd rhag llifogydd wirio eu hoffer a'i osod os bydd angen, neu fod yn barod i'w osod.

Dylai unigolion mewn eiddo sydd wedi wynebu llifogydd yn flaenorol, neu eiddo sydd mewn perygl o lifogydd, fod yn barod. Rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd.

Os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser. 

Manylion cyswllt defnyddiol

Dim trydan?: Rhowch wybod am doriad trydan

Llifogydd o garthffos: Dŵr Cymru – 0800 052 0130

Argyfyngau Nwy: Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol - 0800 111 999

Llifogydd o afon: Cyfoeth Naturiol Cymru – 0300 065 3000

Wedi ei bostio ar 12/11/2025