Dyma rybuddio trigolion am waith gwella system ddraenio sydd ar y gweill yn Hirwaun. Bydd angen rheoli traffig lleol.
Bydd y cynllun ar y Stryd Fawr yn cynnwys ailadeiladu twll archwilio ynghyd â gosod cysylltiadau â'r llinellau draenio presennol. Bydd hyn yn mynd i'r afael â phroblem rydyn ni'n effro iddi hi o ran dŵr yn cronni ar y briffordd yn ystod cyfnodau o law trwm. Bydd y gwaith yn para tua phythefnos o ddydd Llun, 27 Ebrill, a bydd yn cael ei gyflawni gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT.
Bydd angen cau cyffordd Rhes Davies a'r Stryd Fawr, a bydd angen gosod goleuadau traffig i'r ddau gyfeiriad ar y Stryd Fawr. Er mwyn hwyluso llwybr amgen i yrwyr, bydd y drefn yn y rhan o Res Davies lle mae traffig yn teithio i un cyfeiriad yn unig yn cael ei gwrthdroi – gan alluogi traffig i symud yn groes i'r arfer.
Felly, bydd y llwybr amgen ar gael trwy'r ffordd ddienw rhwng Heol Uchel a Rhes Davies, Rhes Davies, Heol yr Orsaf, a'r stryd ddienw ger Gwesty'r Cardiff Arms (rhwng y Stryd Fawr a Heol yr Orsaf). Mae'r rhan o'r ffordd sydd i'w chau a’r llwybr amgen i'w gweld ar y map yma.
Bydd y trefniadau yma'n sicrhau bod modd i yrwyr gael mynediad i faes parcio'r Cyngor y tu ôl i'r llyfrgell, ynghyd â Heol yr Orsaf sy'n arwain at eiddo. Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr ac i eiddo. Mae arwyddion wedi'u gosod ar y ffordd i hysbysu gyrwyr am y gwaith sydd ar ddod.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 24/04/2026