Skip to main content

Camau allweddol i'w cymryd dros yr haf i gynnal a chadw cyrsiau dŵr ac asedau preifat

Private-Culverts-WELSH

Trwy ailadrodd ein hymgyrch o'r llynedd, mae'r Cyngor yn gofyn i berchnogion tir sy'n cynnwys cwlferi a chyrsiau dŵr preifat ystyried cynnal rhai gweithgareddau cynnal a chadw allweddol dros yr haf eleni. Nawr yw'r amser i wneud hynny, er mwyn lleihau perygl llifogydd yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf.

Yma, rydyn ni'n cynnig cymorth defnyddiol i'ch helpu chi i wirio a chynnal a chadw eich asedau preifat yn ddiogel yn ystod tywydd gwell yr haf – wrth hefyd dynnu sylw at y cyngor sydd ar gael gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw cwlferi a chyrsiau dŵr ar ffyrdd a thir yr Awdurdod Lleol. Ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol yn y maes yma, mae gweithgarwch cynnal a chadw'n digwydd drwy gydol y flwyddyn – ac mae rhagor o waith cynnal a chadw yn digwydd yn y gaeaf neu cyn cyfnodau o dywydd garw. Fodd bynnag, dydy cyfrifoldeb y Cyngor ddim yn cynnwys asedau preifat.

Felly, gallai camau gweithredu bach gan y gymuned dros yr haf helpu i leihau perygl llifogydd yn ystod y misoedd sydd i ddod. Er enghraifft, yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024, roedd 64% o'r cwlferi yr effeithiwyd arnyn nhw yn rhai preifat. Roedd yr asedau preifat yma'n cyfrif am oddeutu 20% o gyfanswm yr eiddo yr effeithiwyd arnyn nhw yn ystod y storm.

Felly, os ydych chi'n berchennog tir sydd â chwlfer, ffos, nant neu gwrs dŵr sy'n llifo trwyddo neu oddi tano, rydych chi'n 'berchennog glannau'r afon' ac mae gyda chi gyfrifoldeb dros ei gynnal a chadw. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â hawliau a chyfrifoldebau perchnogaeth glannau afonydd.

Mae misoedd yr haf yn aml yn cynnig amodau tywydd braf i allu cymryd camau cynnal a chadw'n ddiogel. Dyma restr fer o'r hyn gallwch chi ei wneud:

  • Gwirio a chlirio rhwystrau – drwy gael gwared ar ganghennau, dail, malurion a silt sydd wedi cwympo a allai rwystro llif y dŵr.
  • Cynnal a chadw llystyfiant – drwy dorri planhigion sydd wedi gordyfu a allai gyfyngu ar lif y dŵr.
  • Cael gwared ar wastraff yn y ffordd gywir – peidiwch byth â thaflu gwastraff y cartref neu'r ardd i mewn i gyrsiau dŵr, gan y gallen nhw achosi rhwystrau.
  • Gwirio cwlferi'n rheolaidd – i sicrhau nad ydyn nhw wedi'u rhwystro, wedi cwympo nac wedi erydu.
  • Rhoi gwybod am broblemau mawr – os oes gyda chi bryderon ynghylch rhwystrau sy’n effeithio ar gwrs dŵr, dylech chi roi gwybod i'r Cyngor gan ddefnyddio ein cyfleuster ‘Rhoi Adroddiad’ ar-lein.

Mae'r Cyngor yma i helpu a chynnig cyngor a chymorth cyffredinol, a bydd lefel y cymorth yn cael ei hasesu fesul achos.

Yn yr un modd, mae'n syniad da i BOB perchennog tŷ – p'un a ydyn nhw'n berchennog glannau'r afon ai peidio – fanteisio ar dywydd yr haf i sicrhau bod system ddraenio breifat eu heiddo wedi'i chynnal a chadw'n iawn ac yn barod i ymateb i berygl llifogydd. Gall hyn amrywio o gadw cwteri a phibellau draenio yn rhydd rhag rhwystrau, i osod mesurau amddiffyn fel rhwystrau llifogydd. Mae cyngor pellach i bob perchennog tŷ i'w weld ar waelod yr erthygl yma.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Fel y llynedd, rydyn ni'n defnyddio misoedd yr haf i ofyn i berchnogion tir wneud gwaith cynnal a chadw ar asedau preifat, sy'n amrywio o gwlferi i ffosydd, nentydd a chyrsiau dŵr. Bydd hyn yn helpu i leihau perygl llifogydd cyn y gaeaf. Gallai camau bach fel clirio rhwystrau, cynnal a chadw llystyfiant a gwirio cwlferi helpu i atal llifogydd – nid yn unig ar dir ac mewn eiddo'r perchnogion, ond ar gyfer tir ac eiddo eu cymdogion a'u cymunedau ehangach.

"Gallai asedau nad ydyn nhw'n cael eu cynnal a chadw'n dda arwain at lifogydd a difrod amgylcheddol – a gallai hyn hyd yn oed arwain at gamau gorfodi os nad yw perchennog tir wedi cymryd camau gweithredu. Mae swyddogion ein Carfan Rheoli Perygl Llifogydd yn gallu cynnig cyngor i berchnogion glannau afonydd, ac ateb unrhyw gwestiynau am gyrsiau dŵr preifat a'r camau gweithredu y mae angen eu cymryd. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am broblemau mawr sy'n codi."

Isod mae yna gyngor i BOB perchennog tŷ, ar y camau y gallwch chi eu cymryd dros yr haf i sicrhau eich bod chi'n paratoi'ch eiddo'n briodol ar gyfer tywydd y gaeaf a'r bygythiad o lifogydd. Mae modd gweld rhagor o fanylion am baratoi ar gyfer llifogydd a bod yn effro iddyn nhw ar wefan y Cyngor.

  • Bod yn effro i'ch perygl llifogydd – gwiriwch fapiau llifogydd a chofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd a rhybuddion tywydd.
  • Cynnal a chadw eich systemau draenio – cadwch gwteri, cwlferi a chyrsiau dŵr yn glir i atal rhwystrau.
  • Gosod mesurau amddiffyn rhag llifogydd – defnyddiwch rwystrau llifogydd, gorchuddion brics aer (airbrick convert) a falfiau unffordd i helpu i amddiffyn eich eiddo.
  • Paratoi cynllun llifogydd – nodwch fanylion cyswllt mewn argyfwng a pharatowch becyn llifogydd sy'n cynnwys nwyddau hanfodol.
  • Rhoi gwybod am broblemau'n gynnar – os byddwch chi'n sylwi ar ddraeniau neu gwlferi wedi'u rhwystro. Mae modd i chi glirio rhwystrau bach eich hun os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. Mae modd dod o hyd i ragor o gyngor drwy ein hymgyrch 'Cofiwch Eich Cymdogion'.
Wedi ei bostio ar 03/08/2026