Does neb yn gallu rhagweld y tywydd, ond rydyn ni'n gofyn am eich help drwy roi gwybod am unrhyw ddraeniau a chwlferi sydd wedi'u rhwystro rydych chi'n sylwi arnyn nhw. Mae modd rhoi gwybod am y rhain yn gyflym ar-lein ac mae'n golygu bod modd i'n criwiau ymateb i'ch pryderon.
Gall trigolion hefyd helpu ein criwiau trwy gadw unrhyw ddraeniau y tu allan i'w cartrefi yn glir o ddail a sbwriel os yw'n ddiogel ac yn hawdd gwneud hynny.
Mae mor bwysig bod draeniau a chwteri yn ein cymunedau yn cael eu cadw’n glir gan fod modd i falurion fel dail, canghennau, mwd a sbwriel rwystro’r draeniau ar ein ffyrdd a’n strydoedd. Gyda glaw trwm yn gyffredin yr adeg yma o'r flwyddyn, gall malurion gyfrannu at lifogydd ar ffyrdd lleol, hawliau tramwy ac y tu mewn i eiddo.
Sut gall trigolion roi gwybod i'r Cyngor am rwystrau?
Mae'n ddefnyddiol iawn rhoi gwybod yn gynnar am ddraeniau, cwteri a chwlferi sydd wedi'u rhwystro. Mae hyn yn ein helpu i ymateb yn gyflym a mynd i'r afael â llifogydd neu broblemau draenio posibl. Mae’n arbennig o bwysig yn ystod tywydd gwael, neu pan fo stormydd ar y ffordd yn ôl rhagolygon y tywydd.
Rydyn ni'n annog trigolion i roi gwybod am unrhyw broblemau trwy broses gyflym ar-lein, trwy'r dudalen we bwrpasol 'Rhoi Adroddiad' ar wefan y Cyngor. Yn benodol, mae tudalennau gwe pwrpasol lle gall trigolion roi gwybod am ddraen neu gwter sydd wedi'i rhwystro neu rwystr neu sylwedd ar ffordd neu balmant.
Fel arall, mae croeso i drigolion ffonio'r Cyngor ar 01443 425001 yn ystod y dydd, neu ar 01443 425011 ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i glirio draeniau?
Mae gan y Cyngor bedwar peiriant glanhau cwteri sy'n cael eu defnyddio gan ein carfan draeniau'r priffyrdd benodol. Mae holl ddraeniau Rhondda Cynon Taf wedi'u cynnwys mewn amserlen lanhau flynyddol, ac rydyn ni'n cynnal gwaith glanhau ychwanegol yn ôl yr angen. Yn aml, mae'r gwaith glanhau ychwanegol yma'n digwydd o ganlyniad i adroddiadau gan drigolion.
Rydyn ni hefyd yn cynnal gwaith i glirio cwlferi mwy. Yn y gaeaf (mis Hydref i fis Mawrth) cynhelir archwiliadau a gwaith glanhau bob pythefnos – tra bod cwlferi â blaenoriaeth yn cael eu harchwilio bob wythnos. Bydd y rhain hefyd yn cael eu harchwilio pan fydd y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd tywydd, a'u monitro yn ystod y tywydd garw dilynol i gael gwybod am ddifrod ac ymateb i unrhyw rwystrau.
A all trigolion glirio draeniau eu hunain yn ddiogel?
Gall trigolion helpu trwy gael gwared ar ddail neu sbwriel hawdd eu cyrraedd oddi ar wyneb rhwyllau neu ddraeniau ger eu heiddo neu yn eu stryd - ond dim ond os oes modd gwneud hyn yn ddiogel.
Mae modd defnyddio rhaca neu frwsh ar gyfer malurion bach, ond os ydych chi'n defnyddio eich dwylo, gwisgwch fenig. Dylai trigolion sefyll yn ôl o'r ffordd i osgoi traffig, a bod yn effro i gerddwyr eraill. Mae modd rhoi'r holl ddail a malurion gwyrdd eraill y byddwch chi'n eu tynnu yn eich bag Gwastraff Gwyrdd, a threfnu i griwiau ei gasglu ar wefan y Cyngor, yma.
Peidiwch â cheisio codi gorchuddion draeniau, rhoi eich dwylo yn y ddraen, na cheisio dadflocio rhwystrau mwy. Gadewch y rhain a chysylltu â ni i'w clirio.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydyn ni'n gofyn i drigolion helpu ein carfanau draeniau'r priffyrdd dros gyfnod y gaeaf eleni drwy roi gwybod i ni am rwystrau - boed hynny mewn draen fach yn eu stryd neu mewn cwlfer mwy. Mae rhoi gwybod i ni am yr achosion yma'n gynnar yn bwysig iawn i leihau’r perygl o lifogydd yn ein cymunedau, yn enwedig pan fo tywydd garw ar y ffordd.
“Mae hefyd achosion lle gall trigolion glirio draeniau eu hunain trwy gael gwared ar ddail a sbwriel sy’n hawdd eu cyrraedd yn ddiogel. Mae miloedd o ddraeniau a chwteri mewn cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol a dydy hi ddim yn bosibl i'r Cyngor fonitro pob un ar bob adeg. Gall camau bach gan drigolion wneud gwahaniaeth sylweddol i leihau'r perygl o lifogydd lleol.
“Nod ein hymgyrch Cofiwch eich Cymdogion ddiweddaraf yw rhoi gwybod i drigolion am ein harferion cynnal a chadw, y ffordd orau i drigolion roi gwybod i ni am unrhyw broblemau, a sut gall y cyhoedd helpu. Cadwch lygad allan am ein cynnwys rheolaidd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, yn ogystal â’n gwefan – yn enwedig yn ystod cyfnodau pan fo rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd wedi’u cyhoeddi.”
Wedi ei bostio ar 21/11/24