Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar y buddsoddiad arfaethedig yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn y Cymer!
Yn rhan o'r ymgynghoriad, cynhalion ni achlysur galw heibio cyhoeddus yn yr ysgol ym mis Ionawr, lle daeth 40 o bobl i gael gwybod rhagor a rhannu eu barn! Roedd hyn yn cynnwys trigolion lleol, staff, disgyblion a chynrychiolwyr o'r gymuned leol.
Mae'r Cyngor wedi defnyddio'r adborth hwnnw i lunio'r cais cynllunio terfynol, a gafodd ei gyflwyno'n ddiweddar.
Bydd gan drigolion gyfle arall i ddweud eu dweud yn rhan o'r broses gynllunio statudol. Mae rhagor o wybodaeth ar y porth cynllunio ar wefan y Cyngor.
Mae'r cais yn cynnwys fideo cyffrous, y mae modd gwylio rhan ohono yma, sy'n dangos sut y gallai'r ysgol newydd edrych!
Byddai'r buddsoddiad arfaethedig yn darparu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd i ddisgyblion 11-19 oed ar y safle presennol, gyda datblygiad modern a chwbl hygyrch newydd sbon. Bydd y prosiect hefyd yn darparu mannau addas ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a chyfleusterau chwaraeon newydd a fydd ar gael i'r ysgol a'r gymuned eu defnyddio.
Mae'r Cyngor wedi penodi Kier Construction yn gontractwr ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a fydd yn cael ei ddarparu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru trwy ei rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Mae prosiect y Cymer yn un o naw o fuddsoddiadau sydd wedi'u cynnwys mewn ymrwymiad cyllid ar y cyd gwerth £414 miliwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod – gyda'r bwriad i agor ysgol ADY newydd yng Nghwm Clydach (Ysgol Cambrian) ac ysgol gynaliadwy iawn ar gyfer Glyn-coch (Ysgol Gynradd Glyn-coch) eleni.
Wedi ei bostio ar 25/02/2026