Mae Canolfan Hamdden Y Ddraenen-Wen, Rhondda Cynon Taf yn dathlu 50 mlynedd ers i'w drysau agor gyntaf – ac mae gwahoddiad i bawb ymuno yn y dathlu!
Mae mis cyfan o achlysuron am ddim, hwyl ar gyfer y teulu a dathlu drwy chwaraeon yn cael eu cynllunio ar gyfer y dathliad! Rhagor o wybodaeth isod.
Agorwyd drysau’r cyfleuster poblogaidd yma am y tro cyntaf ar 26 Chwefror, 1976, ac erbyn hyn mae’n un o blith 12 Canolfan Hamdden Am Oes ledled y Fwrdeistref Sirol.
Hanner canrif yn ddiweddarach, mae'r ganolfan nawr yn gyfleuster poblogaidd, llawn egni, ac mae aelodau yn mwynhau'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon dan do a'r ystafell iechyd sydd wedi'i gwella'n ddiweddar.
O fabis yn mwynhau partïon pen-blwydd chwarae meddal o dan y goleuadau disgo yn y brif neuadd, i'r trigolion sydd wedi ymddeol sy'n llenwi neuaddau'r ganolfan â chwerthin wrth iddyn nhw chwarae tennis bwrdd a phêl-bicl, mae rhywbeth i bawb yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-Wen.
Dewch i ymuno yn yr hwyl, gweld y ganolfan, cwrdd ag aelodau'r staff a mwynhau achlysuron am ddim yn ystod Cyffro Chwefror!
Mae'r canlynol yn eu plith:
- Tennis bwrdd AM DDIM (16+ oed) bob dydd Llun ym mis Chwefror, 9.30am-11.30am
- Erobeg cadair AM DDIM bob dydd Mawrth ym mis Chwefror, 12.30pm-1.15pm
- Dosbarth Body Power AM DDIM (14+ oed) bob dydd Mawrth ym mis Chwefror, 5pm-6pm
- Dosbarth Clubbercise AM DDIM (14 oed+) bob dydd Mercher ym mis Chwefror, 4.15pm-5pm
- Dosbarth Zumba AM DDIM (16+ oed) bob dydd Iau ym mis Chwefror, 6pm-7pm
- Sesiwn pêl-bicl AM DDIM bob dydd Gwener ym mis Chwefror, 4pm-6pm (pob oedran ond rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn)
- Sesiwn hwyl i'r teulu AM DDIM bob dydd Sadwrn ym mis Chwefror, 10am-10.45am (pob oedran ond rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn)
- Dosbarth ymarferion cylch (sesiwn ddwys) AM DDIM (14+ oed) bob dydd Sul ym mis Chwefror, 9am-10am
Sesiynau ar gyfer y teulu a phlant, ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener yn ystod yr hanner tymor. Bydd y sesiynau’n cynnwyssesiynau rhedeg rhydd, pêl fasged, tennis bwrdd, pêl-bicl a rhagor.
Amserlen
Disgo Dydd, ddydd Sadwrn 28 Chwefror o 1.30pm gyda Bingo Rock N Roll, cerddoriaeth a disgo. Camwch yn ôl mewn amser i'r hen ddyddiau pan gafodd drysau'r ganolfan eu hagor gyntaf, drwy wisgo fyny mewn gwisg ffansi o'r 70au. Bydd bar bach yn rhan o'r achlysur ac mae ar agor i'r sawl sy'n 18 oed a hŷn. Pris tocynnau yw £2.50 y pen ac mae modd eu prynu o'r dderbynfa yn y ganolfan hamdden.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Hamdden Am Oes: "Pen-blwydd Hapus i Ganolfan Hamdden y Ddraenen-Wen! 50 mlynedd ac yma o hyd!
"Mae'n mynd i fod yn fis llawn cyffro i bawb; bydd drysau'r ganolfan ar agor i bawb ac mae croeso i bawb ymuno yn yr hwyl.
"Mae hwn yn gyfle gwych i bobl sydd heb fod yn y ganolfan o'r blaen, ymweld â hi a gweld beth sydd ar gael, ar garreg eu drws.
“Mae rhywbeth ar gyfer pawb – pob oedran, diddordeb a gallu. Mae'r gweithgareddau sy'n cael eu trefnu yn rhan o'r dathliadau yn flas o'r hyn sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn yn y Ddraenen-Wen.
“Un o'r pethau gorau oll am y ganolfan yw ei staff cyfeillgar a gwybodus a'r cwsmeriaid eraill, sydd mor groesawgar a brwdfrydig dros weld pobl sy'n ymuno o'r newydd yn teimlo'n gartrefol yno. Does gennych chi wir ddim byd i'w golli o alw heibio – mae'r dathliadau’n mynd i fod yn hwyl!
“Mae'r Ddraenen-Wen yn ganolfan brysur llawn cwsmeriaid cyfeillgar, cefnogol sydd bob amser yn frwdfrydig dros helpu pawb i fod yn rhan o bethau a theimlo bod croeso iddyn nhw yno.
"Mae yma gwsmeriaid o bob oedran, o blant yn mwynhau partïon pen-blwydd chware meddal yn y brif neuadd, i drigolion sydd wedi ymddeol yn mwynhau natur hwyliog, cymdeithasol ac egnïol Pêl-bicl. Dewch i ddathlu gyda'r garfan wych yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-Wen!"
Mae Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen yn un o 12 canolfan sy'n cael ei chynnal ledled Rhondda Cynon Taf gan wasanaeth Hamdden Am Oes y Cyngor.
Hamdden am Oes yw un o'r mentrau ehangaf ei haelodaeth a mwyaf cynhwysol yn y dalgylch. Mae un taliad misol, rhwydd, yn galluogi cwsmeriaid i fynd i'r gampfa, ystafelloedd ffitrwydd, nofio (gan gynnwys gwersi), a chwarae chwaraeon dan do megis sboncen, badminton a thennis bwrdd mor aml ag y maen nhw'n ei ddymuno – mewn unrhyw ganolfan Hamdden Am Oes o'u dewis nhw.
Mae modd i'r bobl ganlynol gael aelodaeth ar gyfraddau rhatach:
- Pobl 60 oed a hŷn
- Pobl sy'n 18 oed neu'n iau
- Cynhalwyr cofrestredig
- Myfyrwyr amser llawn
- Pobl sy'n derbyn budd-daliadau cymwys
Mae gostyngiadau ar gael hefyd ar brisiau aelodaeth fisol a thalu wrth fynd ar gyfer y sawl sydd â chardiau Golau Glas neu sy'n aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog (sy'n gwasanaethu nawr ac sydd wedi ymddeol).
Mae cynllun Aelodaeth Gorfforaethol llwyddiannus ar waith hefyd gyda busnesau lleol, timau chwaraeon a sefydliadau. Os ydych chi'n gweithio i unrhyw un o blith y Partneriaid Corfforaethol, neu'n aelod ohono, gallwch chi ac un person arall fwynhau aelodaeth Hamdden Am Oes ratach.
Wedi ei bostio ar 05/02/2026