Skip to main content

Y gwaith paratoi diweddaraf cyn i Storm Goretti gyrraedd nos Iau

image - Copy

Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro rhagolygon ansicr y tywydd ar gyfer Storm Goretti, y mae disgwyl iddi gyrraedd heno (dydd Iau 8 Ionawr) a pharhau drwy gydol y nos. Mae rhagolygon y tywydd yn parhau i nodi eira trwm, yn enwedig yng ngogledd Rhondda Cynon Taf ac ar ffyrdd ein mynyddoedd.

Dydy rhagolygon tywydd y Swyddfa Dywydd ddim wedi newid llawer ers diweddariad ddoe – sef y gallai fod rhwng 10 a 15cm o eira mewn nifer o ardaloedd, gyda rhai ardaloedd uwch yn gweld rhwng 20 a 30cm o bosibl. Mae disgwyl y bydd yr eira trymaf mewn ardaloedd o ganolbarth a gogledd Cymru, gydag ardaloedd gogleddol o Rondda Cynon Taf yn ffurfio rhan fwyaf deheuol y rhybudd Ambr sydd mewn grym.

Mewn ardaloedd nad ydyn nhw'n gweld eira, mae'n bosibl y bydd glaw sylweddol a gwyntoedd cryfion – ond dydy rhybuddion penodol y Swyddfa Dywydd o law a gwynt ddim yn cynnwys y Fwrdeistref Sirol. Ledled pob ardal, mae'r Swyddfa Dywydd yn nodi bod oedi ar y ffyrdd ac ar drenau yn debygol, a'i bod hi'n bosibl y bydd cymunedau'n wynebu toriadau trydan.

Mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer y tywydd gwaethaf posibl. Mae hyn yn cynnwys paratoi ein criwiau a'n cerbydau, ynghyd â chriwiau a cherbydau sydd wedi'u darparu gan ein contractwyr dibynadwy. Mae hyn yn golygu bod modd i'r Cyngor fanteisio ar fflyd o gerbydau clirio eira, tractorau, peiriannau JCB a cherbydau graeanu, y mae modd eu defnyddio ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae ein criwiau graeanu yn parhau i weithio'n ddi-baid i raeanu ein prif lwybrau a'n meysydd parcio cyn y tywydd oer a ragwelir. Maen nhw'n dilyn ein rhwydwaith graeanu.

Heno (dydd Iau), bydd ein criwiau'n gweithio o 5pm ymlaen i raeanu'r rhwydwaith cyfan, gydag adnoddau ychwanegol yn gweithio drwy gydol y nos. Bydd gwaith graeanu'r rhwydwaith yn digwydd eto am 2am (dydd Gwener), gydag adnoddau ar gael i'w defnyddio ar unrhyw adeg, os bydd angen. Bydd criwiau'r mynyddoedd hefyd yn gweithio o 4pm ymlaen ddydd Iau a thrwy gydol y nos, gyda cherbydau clirio eira ar gael os bydd angen.

Mae criwiau eisoes yn gweithio ar ffyrdd ein mynyddoedd a byddan nhw'n parhau i wneud hynny drwy gydol y nos, gyda cherbydau clirio eira ar gael os bydd angen. Mae eira eisoes wedi cyrraedd y lleoliadau yma brynhawn Iau. Mae'n bosibl y bydd angen cau un neu ragor o'r ffyrdd yma os bydd yr amodau yn dod yn anniogel – dilynwch ein tudalen Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'n bwysig iawn bod trigolion yn parcio'u cerbydau mewn modd ystyriol mewn ardaloedd preswyl, a hynny er mwyn sicrhau bod modd i'n cerbydau graeanu fynd heibio. Os yw ffordd wedi'i rhwystro, mae'n bosibl na fydd modd i'n cerbydau graeanu na'r cerbydau clirio eira gael mynediad i'r stryd neu'r ardal dan sylw. 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd MELYN o eira trwm o 5pm ddydd Iau 8 Ionawr. Yna bydd rhybudd AMBR yn dod i rym o 8pm ddydd Iau 8 Ionawr, ac yn para tan 9am ddydd Gwener, 9 Ionawr. Bydd y rhybudd melyn yn dod i ben am ganol dydd, ddydd Gwener.

Gwybodaeth a chyngor pwysig

Bwriwch olwg ar wefan y Swyddfa Dywydd i sicrhau eich bod chi'n effro i'r rhagolygon diweddaraf.

Mae ein criwiau hefyd yn brysur yn llenwi biniau halen i'r cyhoedd eu defnyddio yn eich cymuned. Os oes angen llenwi bin halen yn eich ardal, cwblhewch y ffurflen fer a hawdd hon ar wefan y Cyngor.

Ar hyn o bryd, does dim newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu, ond mae'n bosibl y bydd hyn yn newid. Dylai trigolion roi eu gwastraff/eitemau i'w hailgylchu yn y man casglu yn ôl y drefn arferol. Os nad oes modd i ni gyrraedd eich ardal chi o ganlyniad i'r tywydd, byddwn ni'n ceisio casglu'ch gwastraff yn fuan - felly gadewch eich gwastraff/eitemau i'w hailgylchu yn y man casglu arferol.

Penaethiaid a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am benderfynu a oes angen cau ysgolion, nid y Cyngor. Mae yna dudalen ar wefan y Cyngor sy'n cynnwys manylion yr ysgolion hynny sydd wedi cau. Bydd ysgolion unigol yn diweddaru'r dudalen yma lle bo angen.

Mae ein Mannau Diogel a Chynnes yn parhau i fod ar agor yn ein cymunedau – gan roi cyfle i drigolion ddod at ei gilydd, darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar, a sicrhau nad oes rhaid i neb wynebu dyddiau hir y gaeaf ar eu pennau eu hunain. Mae modd i chi ddysgu rhagor am y cynllun yma, gan gynnwys rhestr o'r holl Fannau Diogel a Chynnes, ar ein tudalen gartref bwrpasol.

Yn olaf, mae ein hymgyrch Cofiwch eich Cymdogion yn rhannu cyngor ynghylch sut y mae modd i drigolion helpu'u cymdogion yn ystod tywydd gaeafol. Mae modd i hyn amrywio o gadw llygad ar gymydog hŷn neu agored i niwed, rhoi halen o'r biniau halen ar y ffyrdd a chlirio eira yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Wedi ei bostio ar 08/01/2026