Skip to main content

Gwnewch sblash gyda sesiynau nofio i'r teulu a sesiynau nofio i'r teulu (ADY) AM DDIM trwy Hamdden am Oes

swimming web

Gwnewch sblash dros wyliau'r haf, gyda diolch i wasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf!

Mae'r sesiynau NOFIO I'R TEULU AM DDIM poblogaidd yn dychwelyd ym mhob un o'r 8 pwll nofio drwy gydol gwyliau'r ysgol, ac mae sesiynau nofio i'r teulu (ADY) am ddim NEWYDD hefyd wedi'u hychwanegu at yr amserlenni.

Mae hyn yn golygu bod modd i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf ddewis o blith amrywiaeth o gyfleoedd nofio am ddim yn eu pwll nofio Hamdden am Oes lleol neu’r pwll o’u dewis - a hynny'n rhad ac am ddim!

Yn ogystal â sesiynau nofio i'r teulu (ADY) am ddim a sesiynau nofio i'r teulu am ddim, mae nifer o'r pyllau hefyd yn cynnig sesiynau gyda theganau gwynt, lle bydd teganau gwynt y pwll neu fatiau a chymhorthion arnofio ar gael yn y pwll am sesiwn llawn hwyl.

Nodwch fod y sesiynau hyn wedi'u hanelu at nofwyr hyderus wyth oed a hŷn. Rhaid i blant 8 oed neu'n iau fod yng nghwmni oedolyn.

Gweler yr amserlenni yma – sganiwch y cod QR os ydych chi eisiau eu lawrlwytho'n uniongyrchol i'ch dyfais

Caiff aelodau Hamdden am Oes gadw lle ar y sesiynau yma hyd at 1 wythnos ymlaen llaw yn rhan o'u haelodaeth. Caiff pobl nad ydyn nhw'n aelodau gadw lle ar y sesiynau hyn y diwrnod cynt. Cysylltwch â'r ganolfan dan sylw am ragor o wybodaeth.

Mae yna nifer o gyrsiau nofio carlam yn cael eu cynnal hefyd. Os oes gyda chi blentyn bach sydd eisoes yn rhan o'r rhaglen Gwersi Nofio i Blant sydd eisiau cyflymu ei ddysgu, neu os ydych chi eisiau i'ch plentyn ddysgu sgiliau newydd yn ystod y gwyliau, dyma opsiwn gwych.

Mae modd i chi chwilio am gyrsiau nofio carlam a chadw lle yma.

Defnyddiwch y ddewislen i ddewis eich pwll nofio a'r cyrsiau nofio carlam i weld beth sydd ar gael.

Os nad yw eich plentyn yn cael gwersi nofio eto, a'ch bod chi'n awyddus iddo ddechrau dysgu'r haf yma, bwriwch olwg ar ein tudalennau gwybodaeth ar gyfer sesiynau Nofio i Fabanod a Phlant Bach (Swigod a Sblash) ar Neu'r Gwersi Nofio i Blant yma.

Yn olaf, byddwch yn barod am haf o hwyl gyda Thocyn Haf Hamdden am Oes, sydd ond yn costio £16.50 (tua £8 yr wythnos) ac yn cynnig mynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio, a chyfleusterau chwaraeon dan do fel sboncen, badminton a thennis bwrdd. Y cyfan sydd angen ei wneud yw prynu tocyn, ei ddefnyddio am bythefnos ac yna prynu un arall.

Noder bod yn rhaid i blant fod yn 11 oed a hŷn i ddefnyddio campfeydd Hamdden am Oes.

Rhagor o wybodaeth yma.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Unwaith eto dros yr haf yma, mae Hamdden am Oes  yn darparu amserlen o gyfleoedd nofio am ddim i deuluoedd ar draws ei wyth pwll nofio.

“Rwy’n arbennig o falch o weld sesiynau nofio i'r teulu am ddim yn cael eu hychwanegu ar gyfer teuluoedd â phlant ag ADY. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd lleol wedi bod yn gofyn amdano ac rydyn ni wrth ein bodd yn eu cyflwyno.

“Gan adeiladu ar y nifer o safleoedd a oedd eisoes yn cynnig y sesiynau, rydyn ni'n falch o gadarnhau y bydd pob un o byllau nofio Hamdden am Oes yn cynnig sesiwn nofio am ddim wythnosol i deuluoedd â phlentyn ag ADY.

“Bwriwch olwg ar yr amserlenni a pharatowch i wneud sblash yn Hamdden am Oes yr haf yma.

“Cofiwch edrych ar y Tocyn Haf Hamdden am Oes, sy'n ffordd hawdd a fforddiadwy o gadw’r plant yn brysur ac egnïol a'u diddanu yn ystod gwyliau hir yr haf.

“Does dim rhwymedigaeth, y cyfan sydd angen ei wneud yw prynu tocyn, ei ddefnyddio am bythefnos ac yna, pan fydd yn dod i ben, prynu un arall. Mae'r tocyn, gyda gostyngiadau i blant, yn cyfateb i tua £8 yr wythnos ar gyfer mynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio a chyfleusterau chwaraeon dan do felly mae'n rhoi gwerth gwych am arian.”

 

 

Wedi ei bostio ar 17/07/2026