Mae'n bosibl y bydd trigolion yn Nhreorci a Phentre yn sylwi bod ymchwiliadau tir yn dechrau yn eu cymunedau dros yr wythnos nesaf, wrth i'r gwaith diweddaraf i lywio buddsoddiadau sylweddol mewn mesurau lliniaru llifogydd yn y dyfodol gael ei ddatblygu. Mae'r Cyngor yn parhau i ddatblygu prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd i liniaru perygl llifogydd i drigolion a busnesau ar draws y ddwy ardal, sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn flaenorol, mae'r Cyngor wedi cynnal ymarferion ymgysylltu a rannodd gynigion i fuddsoddi'n sylweddol mewn rhagor o amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer cymunedau’r ddwy ardal. Diben hyn oedd gwella seilwaith lleol a gosod lefel o amddiffyniad rhag llifogydd ar gyfer storm unwaith mewn 100 mlynedd. Mae'r mesurau sy'n cael eu datblygu yn cynnwys dal dŵr glaw o ddalgylchoedd uchaf a'i gyfeirio trwy systemau cwlfer sydd newydd eu lleoli ar lefel y ddaear – gan gyflwyno storfa ar ben tir a nodweddion rheoli llifogydd naturiol hefyd.
Mae cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru wedi’i sicrhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n parhau i gael ei ddefnyddio, a hynny er mwyn datblygu’r cynigion tuag at gyflawni Achosion Busnes Llawn a chwblhau’r camau dylunio manwl ar gyfer y prosiectau.
Yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 20 Gorffennaf, bydd y gwaith ymchwilio tir diweddaraf yn dechrau yn Nhreorci a Phentre. Bydd y rhain yn cael eu cwblhau gan gontractwr y Cyngor, Jackson Geo Services Ltd, ac yn parhau trwy gydol gwyliau'r haf tan ddiwedd mis Awst.
Bydd y gwaith yn cynnwys drilio cyfres o dyllau turio a phyllau prawf, ac mae’n hanfodol i lywio cynnydd y ddau gynllun. Mae'n debygol y bydd rhywfaint o aflonyddwch yn lleol, gan gynnwys mesurau rheoli traffig cyfyngedig a defnydd dros dro o rywfaint o leoedd parcio cerbydau – ond mae disgwyl i'r aflonyddwch cyffredinol fod yn fach iawn.
Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at drigolion lleol i roi gwybod am y gwaith, a chynghori aelwydydd am unrhyw fynedfeydd lleol a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio am gyfnod byr o'r gwaith ar y tro. Mae lleoliadau'r strydoedd ar gyfer y gwaith yn cynnwys:
- Treorci – Heol Glyncoli, Ffordd y Fynwent, Stryd y Golofn, Clos Glyncoli, cyffordd Stryd Howard/Stryd Fawr, ac ardaloedd yn y fynwent (gan gydweithio'n agos â Gwasanaeth Profedigaethau'r Cyngor).
- Pentre – Maes Alma, Heol Pentre, Stryd Llywelyn, Stryd y Frenhines, Stryd Albert, Stryd Madeline, Stryd Baglan, Maes Windsor, Parc Griffin, Stryd Elisabeth a Clos Elisabeth.
Diolch ymlaen llaw i drigolion y ddwy gymuned am eu cydweithrediad o ran y gwaith yma, sydd wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau'r haf i leihau'r aflonyddwch.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Seilwaith Cyfalaf: “Mae gosod mesurau amddiffyn ychwanegol ar gyfer cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol â'r perygl mwyaf o lifogydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, wrth i ni ymateb i fygythiad newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn stormydd y mae’n eu hachosi. Mae'r Cynlluniau Lliniaru Llifogydd sy'n cael eu datblygu ar gyfer Treorci a Phentre ymhlith ein prosiectau blaenllaw, i ddylunio a chyflawni amddiffynfeydd cymunedol mewn dwy ardal sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr ymchwiliadau tir sydd ar ddod dros yr haf yn ein helpu i lunio'r cynlluniau ymhellach, tuag at eu cyflawni yn y dyfodol.
“Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth tua £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i barhau i ddylunio a chyflawni gwaith lliniaru llifogydd wedi’i dargedu yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2026/27 – ac mae cyfanswm y buddsoddiad yma hyd yn oed yn fwy gan fod y Cyngor yn cynnig cyllid cyfalaf cyfatebol ar gyfer pob cynllun. Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredu Llifogydd y Cyngor ar gyfer 2026-2028 yn ddiweddar, sy'n gosod nodau pwysig ac yn crynhau ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru llifogydd, gan dargedu'r cymunedau sydd â'r perygl mwyaf, dros y cyfnod nesaf.
“Hoffwn i ddiolch i drigolion Treorci a Phentre am eu cydweithrediad o ran y gwaith yma hyd at ddiwedd mis Awst. Er ei bod yn debygol y bydd rhywfaint o aflonyddwch yn lleol, bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'n contractwr penodedig i leihau'r aflonyddwch ac i rannu natur y gwaith â thrigolion lleol.”
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 17/07/2026