Skip to main content

Cyfnod ymgynghori ar faterion baw cŵn i gychwyn

Cyn bo hir, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dechrau proses ymgynghori gyhoeddus ar ba fesurau yr hoffai trigolion eu gweld ar waith i barhau i fynd i'r afael â materion baw cŵn a mesurau rheoli cŵn ledled y Fwrdeistref Sirol.

Ym mis Hydref 2017, Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, a hynny drwy roi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar waith. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2020 a 2023, estynnwyd y mesurau am CHWE blynedd arall ac mae'r rheolau bellach wedi bod ar waith ledled RhCT ers NAW mlynedd.

Dangosodd yr adborth gan drigolion mewn ymgynghoriadau blaenorol eu bod yn teimlo bod y gorchymyn wedi gwella glendid y strydoedd ac wedi cynyddu'r camau gorfodi yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol. 

O dan amodau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, rhaid i’r Cyngor adolygu ac ystyried y gorchymyn bob tair blynedd, er mwyn sicrhau bod y rheolau yn parhau i ddiwallu anghenion y cyhoedd. O ganlyniad, bydd y Cyngor unwaith yn rhagor yn ceisio barn trigolion ar ba mor llwyddiannus y mae'r mesurau yma wedi bod ac a ddylen nhw barhau i fod ar waith.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun 8 Mehefin ac yn para 6 wythnos, gan ddod i ben ddydd Llun 20 Gorffennaf.

Mae modd i drigolion sy'n dymuno cymryd rhan wneud hynny mewn nifer o ffyrdd, gyda'r manylion llawn i'w cael yma - https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/pspo-cwn-yn-baeddu

Mae’r ymateb gan y cyhoedd i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sydd wedi bod ar waith ers NAW Mlynedd, wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda thros 89% o’r ymatebwyr yn 2023 yn cytuno i ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus am 3 blynedd arall.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan sefydliad Cadwch Gymru'n Daclus o'r enw 'Dadansoddiad o Ansawdd Amgylcheddol Lleol yn RhCT 2022-23' yn dangos, ers cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn 2017, fod llai o faw cŵn ar strydoedd RhCT - gostyngiad o 18% yn 2017 i 8.9% yn 2021-22 a 10.9% yn 2022-23.  Mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn baw cŵn, fodd bynnag, roedd cynnydd bach o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol sy'n dangos bod y Gorchymyn Diogelu Personol wedi arwain at lai o faw cŵn ar strydoedd RhCT ond mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn dal i fod yn broblem.

Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol yn seiliedig ar y rheolau canlynol:

  • RHAID i berchenogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
  • Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.

Gweler Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2023

Fe gyflwynodd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus hefyd ddirwy uwch o £100 y mae modd i Swyddogion Gorfodi ei roi yn achos torri unrhyw o'r amodau uchod.

Cafodd gorchymyn arall, sy'n unigryw i Barc Aberdâr, hefyd ei gyflwyno ar 1 Hydref 2017. Mae'r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn ar bob adeg yn y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Louisa Addiscot, Aelod o'r Cabinet ar faterion Mannau Cyhoeddus:

"Mae ein caeau chwaraeon a'n hardaloedd dan gyfyngiadau yn bwysig yn ein cymunedau ac yn cael eu defnyddio gan bobl o bob oed o fore gwyn tan nos.

“Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi sicrhau ein bod wedi gweld gostyngiad amlwg mewn baw cŵn ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond mae’r Cyngor yn dal i dderbyn cwynion ynghylch baw cŵn ar y strydoedd ac ar gaeau chwaraeon, sydd nid yn unig yn hyll, ond mae modd iddo gael effaith difrifol ar iechyd. Byddwn i'n gofyn i breswylwyr feddwl a gweithredu er mwyn sicrhau ein bod ni'n cadw'r ardaloedd yma'n lân."

“Rwy’n gwybod bod baw cŵn yn broblem i drigolion a byddwn ni'n eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn fel y gallwn barhau i fynd i’r afael â’r mater gyda’n gilydd drwy adeiladu ar y llwyddiant hyd yn hyn a llunio cynllun ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”

Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i drigolion roi gwybod am unrhyw broblemau sydd gyda nhw'n ymwneud â baw cŵn trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi nhw a chydweithio er diogelwch ein cymuned.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/pspo-cwn-yn-baeddu

Wedi ei bostio ar 08/06/2026