Mae menter ymgysylltu cymunedol arloesol Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT yn rhoi dulliau newydd i drigolion rannu eu profiadau a dylanwadu ar welliant gwasanaethau ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae 'Rhowch Lais!', yr achlysuron ymgysylltu dan arweiniad y gymuned ledled Rhondda Cynon Taf, wedi darparu tystiolaeth werthfawr o brofiad byw i gefnogi'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, sef prosiect Mynediad at Wasanaethau Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf a gwelliannau i wasanaethau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol.
Mae dros 450 o drigolion ledled Rhondda Cynon Taf wedi rhannu eu profiadau a'u mewnwelediadau trwy raglen lwyddiannus o gyfranogiad cymunedol a gafodd ei chynnal gan Garfan Llais y Gymuned Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf dros yr haf.
Mae'r prosiect Mynediad at Wasanaethau a gafodd ei ddatblygu mewn ymateb i argymhellion gan drigolion, yn helpu i sicrhau gwelliannau ar gyfer mynediad at wasanaethau er mwyn adlewyrchu anghenion a dymuniadau cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.
Cafodd y prosiect ei greu yn wreiddiol i drin a thrafod allgáu digidol. Fodd bynnag, trwy drafodaethau parhaus gydag Ymgynghorwyr Profiad Byw gwirfoddol, esblygodd y ffocws i archwilio'r dulliau ehangach y mae trigolion yn eu defnyddio i gysylltu â'r Cyngor, cael mynediad at wybodaeth, gwneud taliadau a gwneud cais am wasanaethau. Amlygodd y newid yma pa mor werthfawr yw cynnwys trigolion yn uniongyrchol mewn ymchwil a gwelliannau i wasanaethau o'r dechrau.
Er bod grwpiau ffocws, arolygon a chyfweliadau wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr i drigolion rannu eu barn yn y gorffennol, mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn cydnabod nad yw'r dulliau yma o bosibl yn hygyrch nac yn apelio at bawb. Drwy gynnig achlysuron galw heibio mewn mannau cymunedol, y nod oedd cyrraedd aelodau o'r gymuned na fyddan nhw fel arfer yn cymryd rhan.
Arweiniodd yr angen yma a gafodd ei nodi at greu rhaglen achlysuron ymgysylltu Rhowch Lais! Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, a ddaeth yn galon i'r prosiect Mynediad at Wasanaethau.
Creu mannau i bob llais
Esblygodd Rhowch Lais! mewn ymateb i'r angen i gynnig ffordd hwyliog a diddorol o gasglu tystiolaeth o brofiadau byw gan aelodau'r gymuned mewn lleoliad diogel a hamddenol.
Yn hytrach na dibynnu ar ddulliau ymgynghori traddodiadol, defnyddiodd Garfan Llais y Gymuned sydd y tu ôl i fenter Rhowch Lais! leoliadau cymunedol ac achlysuron ledled y fwrdeistref sirol i greu mannau hwyliog, anffurfiol lle y byddai modd i drigolion rannu eu profiadau. Helpodd gweithgareddau creadigol gan gynnwys pyrograffeg, plannu hadau a phaentio cerrig mân i greu lleoliadau hamddenol a oedd yn annog cyfranogiad a sgyrsiau diffuant gydag aelodau o garfan Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf.
Ochr yn ochr â'r gweithgareddau yma, cafodd trigolion wahoddiad i fynegi barnynghylch eu mynediad at wasanaethau'r Cyngor, trwy ddefnyddio ystod o offer ymgysylltu rhyngweithiol, gan helpu i chwalu rhwystrau i gynhwysiant ac annog deialog agored a gonest. P'un ai eu bod nhw'n gosod dot ar fap, yn graddio profiad ar y wal graddfa, neu'n cymryd rhan mewn sgwrs un-i-un, helpodd pob ymgysylltiad i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau bywyd ein trigolion.
Drwy gyfuno gweithgareddau creadigol â sgyrsiau ystyrlon, creodd Rhowch Lais!gyfleoedd i bobl gael dweud eu dweud mewn modd naturiol, hygyrch a diddorol, gan sicrhau bod modd i ystod amrywiol o safbwyntiau lywio gwella gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
Ymateb Cryf gan y Gymuned
Er mwyn ehangu cyfranogiad a sicrhau bod ystod amrywiol o leisiau’n cael eu clywed, gweithiodd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf ag Interlink RhCT mewn partneriaeth i wahodd sefydliadau gwirfoddol a chymunedol lleol i gefnogi cyfranogiad yn yr arolwg Mynediad at Wasanaethau ymhlith eu defnyddwyr gwasanaeth.
Cawson nhw ymateb cadarnhaol dros ben, gyda 15 o sefydliadau yn mynegi diddordeb mewn cymryd rhan. Cafodd pum sefydliad eu dewis i hwyluso cynnal yr arolwg, gan helpu’r prosiect i gyrraedd amrywiaeth o gymunedau a thrigolion na fyddai eu profiadau fel arall wedi cael eu clywed.
Gan gydnabod y mewnwelediadau a'r arbenigedd hanfodol a gafodd ei gynnig gan bob ymgeisydd, hwylusodd Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf grŵp ffocws pwrpasol hefyd, gan sicrhau y gallai safbwyntiau ychwanegol gan sefydliadau cymunedol gyfrannu at yr ymchwil.
Cyrraedd Cymunedau Ledled Rhondda Cynon Taf
Ochr yn ochr ag achlysuron Rhowch Lais! a'r arolwg trigolion, ymwelodd aelodau o Garfan Llais y Gymuned â grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys SightLife, The Lighthouse Project ac Adferiad. Helpodd y sgyrsiau yma i sicrhau bod y prosiect yn cofnodi profiadau ystod eang o drigolion a chymunedau.
Mae'r prosiect hefyd wedi cryfhau'r berthynas rhwng Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd RhCT a sefydliadau cymunedol ledled y fwrdeistref sirol, gan greu cysylltiadau gwerthfawr a fydd yn hybu ymchwil, ymgysylltu a gwella gwasanaethau yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth.
Cynnig cyfleoedd i bobl dweud eu dweud
Meddai'rCynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i wrando ar drigolion a dysgu o'u profiadau. Mae Rhowch Lais! wedi darparu dull gwerthfawr arall i bobl gymryd rhan, gan ein helpu ni i glywed gan ystod eang o gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf. Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran a dweud eu dweud. Bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i lywio gwelliannau i wasanaethau ac ymchwil yn y dyfodol."
Adeiladu ar Lwyddiant
Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu drwy’r Prosiect Mynediad at Wasanaethau yn helpu i lywio dyluniad gwasanaethau, gweithgarwch ymchwil a dulliau ymgysylltu yn y dyfodol ar draws y Cyngor.
Bydd gwersi sy'n cael eu dysgu o'r prosiect yn cael eu cario ymlaen i waith Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol, yn enwedig y defnydd o ddulliau ymgysylltu a chydweithio'n agos â thrigolion, sefydliadau cymunedol ac Ymgynghorwyr Profiadau Byw.
Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl leol yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth lunio gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae Rhowch Lais! yn fwy na chyfres o achlysuron. Mae wedi sefydlu dull newydd o ymgysylltu â'r gymuned, gan helpu i sicrhau bod lleisiau trigolion yn parhau i lywio ymchwil, datblygiad gwasanaethau a'r broses o wneud penderfyniadau ledled Rhondda Cynon Taf.
Wedi ei bostio ar 25/11/2026