Mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer Parti Haf RhCT 2026! Ymunwch â ni yng ngerddi prydferth Parc Coffa Ynysangharad yr haf yma wrth i ni fwynhau parti yn llawn holl ganeuon poblogaidd y 90au.
Ddydd Sadwrn 22 Awst, paratowch i gamu'n ôl i'r 90au ar gyfer parti gyda nifer o berfformwyr gwych:
Jagger a Woody: Yn syth o Heart Radio, bydd y ddau yma’n dod ag awyrgylch gŵyl heb ei ail o’r dechrau i’r diwedd, bydd Jagger a Woody yn cadw’r egni’n uchel rhwng setiau ac yn sicrhau nad yw’r parti byth yn dod i ben.
Heather Small: Cantores miwsig yr enaid a phrif leisydd M People, yn enwog am glasuron gan gynnwys “Moving On Up”, “One Night in Heaven”, ac wrth gwrs, “Proud”.
Kenny Thomas: Canwr ag 8 cân sydd wedi cyrraedd 40 uchaf y DU gan gynnwys "Thinking About Your Love" a "Best of You".
East 17: Grŵp sydd wedi cyrraedd brig y siartiau ledled y byd ac yn rhan annatod o bob rhestr chwarae yn y 90au – pwy allai anghofio eu cân eiconig boblogaidd “Stay Another Day”?
Whigfield: Ar y nos Sadwrn yma, paratowch i ddangos eich symudiadau dawns gorau wrth i ni ganu ynghyd â’r gân boblogaidd “Saturday Night” o’r 90au.
S Club: There ain’t no party like an S Club party! Ymunwch â Jo a Jon wrth iddyn nhw berfformio cyfres o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys “Don’t Stop Movin’” a “Reach”.
90’s Rewind: Bydd y band gwych yma o'r 90au yn cychwyn y parti! Byddan nhw’n chwarae caneuon gorau’r 90au, gan sicrhau eich bod chi’n barod i ddawnsio cyn mwynhau’r holl berfformwyr gwych sydd i ddod.
Bachwch eich tocynnau nawr a sicrhau eich lle ar y llawr dawnsio!
Pris y tocynnau yw £10, gyda ffi archebu o £1 fesul tocyn.
Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol a dilynwch @besymlaenrhct am y newyddion diweddaraf am yr achlysur yma.
Mae modd i chi hefyd fwrw golwg ar galendr achlysuron llawn RhCT, yma.
#AchlysuronRhCT
Wedi ei bostio ar 26/03/2026