Skip to main content

Rhywbeth i Bawb: Mae Amserlen Achlysuron Rhondda Cynon Taf 2026 wedi cyrraedd!

2026 events PR WEL (1)

Mae Amserlen Achlysuron Rhondda Cynon Taf 2026 wedi cyrraedd! Rydyn ni'n falch o gyhoeddi amserlen llawn achlysuron eleni, gyda rhai ffefrynnau yn dychwelyd, a rhai achlysuron newydd sy'n sicr o godi gwên...

Newydd ar gyfer 2026 - Parti Haf y 90au Rhondda Cynon Taf

Ymunwch â ni ym Mharc Coffa Ynysangharad yr haf yma wrth i ni fwynhau'r parti yn llawn holl ganeuon poblogaidd y 90au. Byddwn ni’n cynnal yr achlysur ddydd Sadwrn, 22 Awst, a bydd yn gyfle i fynd yn ôl i'r 90au ar gyfer parti gyda:

Heather Small: Cantores a phrif leisydd M People, sy'n enwog am eu caneuon megis 'Moving On Up', 'One Night in Heaven' a 'Proud'.

Kenny Thomas: Gydag 8 cân wedi cyrraedd 40 uchaf y DU gan gynnwys 'Thinking About Your Love' a 'Best of You'

East 17: Gyda chaneuon wedi dod i frig y siartiau mewn sawl gwlad, roedd East 17 yn fand poblogaidd yn y 90au - pwy fyddai'n anghofio eu cân fwyaf enwog - 'Stay Another Day'

Whigfield: Byddwch barod ar 'Saturday Night' i fwynhau a dawnsio wrth wrando ar ganeuon Whigfield

S Club: There ain’t no party like an S Club party! Ymunwch â Jo a Jon wrth iddyn nhw ganu caneuon poblogaidd fel 'Don't Stop Moving' a 'Reach'

Cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i ddysgu rhagor am yr achlysur anhygoel yma.

Yn dychwelyd ar gyfer 2026:

Ŵy-a-sbri y Pasg - Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - 1 a 2 Ebrill

Ymunwch â'r helfa wyau dros gyfnod y Pasg eleni gyda'n helfa Pasg poblogaidd! Gyda ffair hwyl, crefftau, ac antur tanddaearol Bwni’r Pasg! Mae’n ddiwrnod perffaith ar gyfer eich plant bach. Bydd gwybodaeth a thocynnau ar gael yn fuan drwy Amgueddfa Glofeydd Cymru - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Pontypridd | Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Amgueddfa Glofeydd Cymru.

Gŵyl Aberdâr - 23 Mai - Parc Aberdâr

Ymunwch â ni am ddiwrnod bythgofiadwy i'r teulu wrth i’r ŵyl ddychwelyd i Barc Aberdâr! Bydd yn ddiwrnod llawn hwyl a chwerthin wrth i chi wibio o amgylch y ffair hwyl, profi’r awyrgylch, ymweld â'r stondinau a mwynhau'r adloniant am ddim fydd ar gael. Bydd rhai o artistiaid teyrnged fwyaf blaenllaw'r DU yn ymddangos ar ein llwyfan, peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld!

Picnic yn y Parc Diwrnod y Lluoedd Arfog - 20 Mehefin 2026 - Parc Coffa Ynysangharad

Dewch i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd gyda phicnic cymunedol ar gyfer pawb o bob oed. Bydd yn gyfle i chi fwynhau adloniant byw, gweithgareddau cyfeillgar i deuluoedd, ac yn gyfle i chi ddangos eich gwerthfawrogiad i'n Lluoedd Arfog, ein cyn-filwyr, a'u teuluoedd. Dewch â phicnic, ymlaciwch yn y parc, ac ymunwch â ni am ddiwrnod o gofio, teimlo’n rhan o’r gymuned, a dathlu ger Llwyfan y Bandiau.

Sioe Ceir Clasurol - 27 Mehefin - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Galwch heibio i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda i ymweld â'n Sioe Ceir Clasurol Flynyddol mewn partneriaeth â Chlwb Ceir Clasurol Morgannwg. Mae digonedd i'w weld a'i wneud ar gyfer pawb o bob oedran, beth am ‘fynd am dro’ ar y DRAM? Rhan o Brofiad Tanddaearol Aur Du.

Cegaid o Fwyd Cymru - 1 a 2 Awst - Parc Coffa Ynysangharad

Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn ôl, ac mae’r un mor flasus ag erioed... gyda dros 60 o stondinau bwyd a diod, stondinau crefftau, stondinau gwybodaeth, ffair hwyl fawr, sioeau arena a rhagor, dyma achlysur sy'n sicr o ddod â dŵr i'ch dannedd.

Rhialtwch Calan Gaeaf - 28 - 30 Hydref - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Dewch i brofi Rhialtwch Calan Gaeaf ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda! Rydyn ni'n ôl eleni â THRI diwrnod o hwyl arswydus, gan gynnwys y pwll glo dan ddaear a llwyth o weithgareddau dychrynllyd. Galwch heibio ar gyfer ein sesiynau yn ystod y dydd neu gyda'r hwyr.

Cyngerdd Goffa - 1 Tachwedd

Mae dechrau mis Tachwedd yn amser i gofio wrth i wasanaethau a chyngherddau gael eu cynnal ledled y wlad i goffáu cyfraniad dynion a menywod lluoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad yn y ddau Ryfel Byd a rhyfeloedd diweddarach. 

Sul y Cofio - 8 Tachwedd - Parc Coffa Ynysangharad

Dewch i goffáu gwasanaeth ac aberth y rheiny wnaeth amddiffyn rhyddid a diogelu ein ffordd o fyw yn ystod y Rhyfeloedd Byd a gwrthdrawiadau diweddarach gyda pharêd o amgylch Parc Coffa Ynysangharad, wedi'i ddilyn gan wasanaeth ger y gofeb ryfel.

Ogof Siôn Corn - 21 Tachwedd - 24 Rhagfyr - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Ymweliad blynyddol Siôn Corn â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda yw adeg fwyaf hyfryd y flwyddyn. Byddwch barod am antur hudolus dan ddaear, sesiwn cwrdd a holi, a rhagor hyd at Noswyl Nadolig! Bydd tocynnau ar werth ym mis Medi, ac yn gwerthu yn SYDYN - cadwch lygad ar ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol am gyhoeddiadau!

Achlysuron Nadolig Canol Trefi - Tachwedd - Rhagfyr

Bydd hud y Nadolig yn dychwelyd i ganol trefi Rhondda Cynon Taf dros gyfnod y Nadolig yma, a byddwn ni'n barod i oleuo’r trefi gyda gweithgareddau a hwyl i'r teulu cyfan. Fyddwch chi yno? Bydd dyddiadau a lleoliadau yn cael eu cyhoeddi maes o law!

Nos Galan - 31 Rhagfyr - Aberpennar

Bydd y flwyddyn arbennig yma o achlysuron yn dod i ben yn Rasys Blynyddol Nos Galan. Bydd rhywbeth ar gyfer pawb, gyda'n rasys elît neu hwyl i blant, neu bydd modd i chi alw heibio i wylio miloedd yn rhedeg yn yr achlysur unigryw yma! Gan ddilyn chwedl Guto Nyth Brân, dyma fydd yr 68ain achlysur blynyddol yn llawn tân gwyllt, hwyl, ac, wrth gwrs, bydd ein rhedwr dirgel yn ymuno â ni hefyd! Bydd y cyfnod cofrestru yn agor ym mis Medi 2026, cadwch lygad am y manylion!

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: "Mae calendr achlysuron 2026 yn llawn nifer o ffefrynnau cyfarwydd yn ogystal â Pharti Haf y 90au Rhondda Cynon Taf! Mae cymaint i'w fwynhau, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hyd yn oed rhagor o bobl yn ymuno â ni eleni wrth i ni fwynhau'r ystod wych o achlysuron sydd gyda ni ar gynnig yma yn Rhondda Cynon Taf. Rwy'n edrych ymlaen at flwyddyn arall o adloniant  gwych yn 2026!"

I gael y newyddion diweddaraf a rhagor o gyhoeddiadau achlysuron lleol, dilynwch @whatsonrct ar Facebook ac Instagram.

Wedi ei bostio ar 30/01/2026