Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos nesaf ar gyfres o atgyweiriadau ar bont y briffordd ar Heol Croes Bychan yn Llwydcoed, sydd yn y llun, a bydd angen cau ffordd leol o 25 Mai ymlaen.
Bydd y gwaith pwysig yma'n cael ei gyflawni drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Pheirianneg y Cyngor (2026/27), yn rhan o ddyraniad cyffredinol gwerth dros £12 miliwn ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd. Yn sgil y buddsoddiad lleol yma yn Llwydcoed, bydd nifer o atgyweiriadau cynnal a chadw yn cael eu cwblhau er mwyn sicrhau dyfodol y strwythur.
Bydd y canlynol yn rhan o'r gwaith; atgyweiriadau concrit i ochr arall wyneb y bont, cael gwared ar y llwybr troed / llain ymyl er mwyn ymgymryd ag atgyweiriadau i wyneb y bont, a gwneud i wyneb y bont ddal dŵr. Wedi hyn, bydd llinellau cwrb yn cael eu hail-greu, yn ogystal â’r llwybrau troed, lleiniau ymyl a'r briffordd – a bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar ran hir tua 100 metr o hyd hefyd.
Bydd y gwaith i baratoi’r safle yn dechrau ddydd Llun 18 Mai, a bydd angen cau'r rhan o'r ffordd sydd yn y llun i'r ddau gyfeiriad, fel sydd i’w weld ar y map yma, o ddydd Llun 25 Mai ymlaen.
Nodwch y bydd mynediad o hyd i Amlosgfa Llwydcoed. Bydd modd i yrrwr sy'n teithio o bentref Llwydcoed ddefnyddio Heol Cwmynysminton a Ffordd yr Amlosgfa, yn ôl yr arfer. Bydd y sawl sy'n teithio o'r A465 yn cael eu dargyfeirio i Gylchfan Baverstocks a Ffordd yr Amlosgfa.
Mae Horan Construction Ltd wedi'i benodi i ymgymryd â'r gwaith yma ar ran y Cyngor, ac mae disgwyl i'r gwaith ar y safle barhau am oddeutu 9 wythnos.
Serch hynny, mae'r amserlen yn dibynnu ar dywydd teg oherwydd y bydd rhai elfennau yn digwydd o fewn cwrs dŵr. At hyn, gan mai dim ond wedi i'r contractwr dynnu wyneb y ffordd y bydd modd pennu union faint y gwaith atgyweirio ar wyneb y bont, mae'n bosibl y bydd y rhaglen waith yn cael ei hymestyn yn sgil hyn.
O yrru tuag at y ffordd dan sylw yma fydd wedi'i chau, bydd llwybr amgen ar gael ar hyd Heol Croes Bychan, Ffordd yr Amlosgfa a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Bydd mynediad ar gyfer cyrraedd eiddo yn parhau, ond fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr yn ystod cyfnod cychwynnol y gwaith – sef y gwaith o dan y bont, a bydd y contractwr yn creu llwybr troed dros dro. Serch hynny, fydd dim modd cynnal y mynediad yma pan fydd y gwaith yn digwydd ar wyneb y bont.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 14/05/2026