Skip to main content

Cynllun rheoli traffig ar gyfer y cyfnod nesaf o waith ar safle Heol Berw

Berw Road web

Dyma fanylion y cynllun rheoli traffig sydd ei angen i gyflawni'r gwaith o ddymchwel hen Orsaf Heddlu Pontypridd a Maes Parcio Heol Berw. Bydd y cynllun ar waith am bedwar diwrnod – 18–19 Tachwedd ac eto ar 30 Tachwedd–1 Rhagfyr. Er mwyn osgoi adegau prysuraf y traffig, caiff y cynllun ei weithredu rhwng 9.30am a 2.30pm. Bydd y cynllun yn hwyluso symud sgaffaldau yn ddiogel o'r ddau adeilad.

Mae'r Cyngor yn ystyried datblygiad defnydd cymysg ar gyfer y safle strategol yma yng Nghanol Tref Pontypridd. Mae swyddogion yn trafod nifer o opsiynau posibl ar gyfer y safle, gan gynnwys gwell man cyhoeddus, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i'r gyffordd â Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.

Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Heddlu De Cymru y camau nesaf ar gyfer plismona ym Mhontypridd, a oedd yn cynnwys cau a throsglwyddo adeilad yr orsaf heddlu i'r Cyngor. Mae'r cynlluniau yma'n cynnwys safle newydd, gweladwy a hygyrch ar gyfer yr heddlu ar Stryd y Taf yng nghanol y dref, a fydd yn agor yn fuan. Yn y cyfamser, caeodd Maes Parcio Heol Berw yn barhaol ar 30 Gorffennaf, a dechreuodd gontractwr y Cyngor, sef cwmni Prichard's, y gwaith dymchwel ar gyfer y ddau adeilad ar 3 Awst.

Mae cyllid i gynnal y gwaith dymchwel wedi dod o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Twf Lleol Llywodraeth y DU.

Newyddion diweddaraf y gwaith dymchwel 

Mae Prichard's wedi gwneud cynnydd da hyd yn hyn, gyda thua thraean o'r orsaf heddlu wedi'i dymchwel. Mae'r contractwr yn parhau i weithio'n agos gyda thrigolion a busnesau ger y safle er mwyn lleihau'r aflonyddwch o ddydd i ddydd. Mae'r gwaith dymchwel ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2027.

Un o'r gweithgareddau pwysig nesaf ar y safle fydd tynnu rhannau o'r sgaffaldau, gan nad oes eu hangen mwyach oherwydd cynnydd y gwaith dymchwel. Bydd y trefniadau yn debyg iawn i rai mis Awst a dechrau mis Medi pan gafodd y sgaffaldau eu gosod, ac eithrio ambell i newid allweddol.

Cynllyn rheoli traffic arfaethedig i hwyluso symud sgaffaldau 

  • Maes Parcio Heol Berw – Dydd Mercher 18 Tachwedd a dydd Llun 30 Tachwedd (rhwng 9.30am a 2.30pm ar y ddau ddiwrnod).

Mae angen cau lôn ger y fferyllfa a'r ganolfan feddygol ar Heol Berw, gan olygu bod angen goleuadau traffig dros dro yno ac ar gyffordd Heol Berw â Stryd y Bont.Does dim angen cau unrhyw ffyrdd a bydd modd i fysiau a cherbydau mawr ddefnyddio pob llwybr. Mae gwelliannau allweddol i'r trefniadau blaenorol yn cynnwys atal y groesfan i gerddwyr ger Parc Coffa Ynysangharad dros dro i wella llif y traffig. 

  • Yr Hen Orsaf Heddlu – Dydd Iau 19 Tachwedd a dydd Mawrth 1 Rhagfyr (rhwng 9.30am a 2.30pm ar y ddau ddiwrnod).

Mae angen cau rhan fach o lôn o flaen hen adeilad yr orsaf heddlu (Stryd Morgan/Heol Berw) – bydd dal modd i gerbydau droi i'r chwith i ymuno â Heol Berw, a bydd goleuadau traffig ar waith i reoli traffig cyffordd Stryd y Bont/Heol Berw.Does dim angen cau unrhyw ffyrdd a bydd modd i fysiau a cherbydau mawr ddefnyddio pob llwybr.

Mae oriau'r gwaith wedi'u hamserlennu i osgoi cyfnodau prysuraf y dydd er mwyn lleihau'r aflonyddwch – gyda chludiant ysgol hefyd yn ystyriaeth allweddol. Does dim gwaith wedi'i gynllunio ar y Bont Wen a does dim achlysuron yng nghanol y dref yn ystod y pedwar diwrnod o waith.

Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i leihau'r aflonyddwch, yn anochel bydd trefniadau rheoli traffig dros dro yn yr ardal brysur yma o Bontypridd yn achosi rhywfaint o oedi. Dyma awgrymu i ddefnyddwyr y ffyrdd gymryd llwybr amgen os yn bosibl. Diolch i drigolion, ymwelwyr a busnesau ym Mhontypridd am eich cydweithrediad parhaus wrth i'r safle pwysig yma gael ei ddymchwel ar gyfer datblygiad newydd.

Wedi ei bostio ar 16/11/2026