Mae Aelodau o Gabinet y Cyngor wedi ymweld â'r safle gwaith yn Nhomen Graigddu yn ardal Dinas, lle dechreuodd prosiect mawr i sefydlogi’r ddaear yn yr hen domen lo dros yr haf. Derbynion nhw ddiweddariad cynnar ar gynnydd y gwaith gan garfan y safle, gyda'r gwaith yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru.
Ymwelodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ann Crimmings, a'r Aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb dros Seilwaith Cyfalaf, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, ddydd Iau, 1 Hydref - lle cawson nhw eu tywys o amgylch y safle gwaith gyda chontractwr y prosiect, Alun Griffiths Ltd. Bydd y gwelliannau gwerth miliynau o bunnoedd yn cael eu cyflawni dros y flwyddyn nesaf.
Bydd y prosiect yn darparu mesurau amddiffyn i Heol Graigddu a Heol y Ficerdy, drwy osod wal bolion wedi'i hangori (anchored pile wall) ar hyd blaen y domen. Bydd cyfres o welliannau draenio hefyd yn cael eu cynnal, gyda rhannau o'r domen uwchlaw yn cael eu sefydlogi. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu drwy ymrwymiad cyllido gwerth £4.8 miliwn trwy Gynllun Grant Aml-flwyddyn Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru.
Diweddariad ar y cynnydd o'r safle - camau cynnar y gwaith
Dechreuodd y gwaith adeiladu yn hwyr ym mis Gorffennaf 2026, gyda'r contractwr yn gosod y safle ar gyfer y peiriannau/offer ac yn cau Heol Graigddu a Heol y Ficerdy. Ar ddechrau'r prosiect, gwnaethpwyd newidiadau dros dro i wasanaeth bws 173 (Porth-Cwm Clydach), sy'n cael ei weithredu gan Thomas of Rhondda a Stagecoach - mae manylion llawn wedi'u cynnwys yn yr eitem newyddion flaenorol yma.
Wedyn cafodd mesurau bioddiogelwch eu gosod, a chafodd gwaith trin a chael gwared ar lystyfiant ymledol ei gynnal. Cafodd ffordd fynediad dros dro ei gosod i gynnal mynediad i drigolion y pedwar eiddo ar Fferm Graigddu, tra bod y gwaith o ddatgysylltu a chael gwared ar oleuadau stryd yn cael ei gwblhau. Yna parhaodd y cynnydd gyda gwaith gosod llwyfannau pridd wedi'u hatgyfnerthu ar gyfer y peiriannau gyrru polion, gyda chwlfer dŵr wyneb wedi'i ddargyfeirio a siambr ddraenio wedi'i hadeiladu.
Mae ffos goncrit hefyd wedi cael ei gosod i reoli'r risgiau i'r ddaear yn ystod y gwaith gosod polion a gosod y wal yn y dyfodol. Dechreuodd gwaith gosod polion yn ddiweddar yn ystod yr wythnos yn dechrau ddydd Llun, 21 Medi.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Seilwaith Cyfalaf: “Mae’r buddsoddiad mawr yma yn Nhomen Graigddu yn un o’r prosiectau ar raddfa fwy yn ein rhaglen arwyddocaol i archwilio, cynnal a chadw a chyflawni gwaith ar draws ein hen safleoedd tomenni glo. Roedd yn ddefnyddiol iawn cwrdd â charfan y prosiect a gweld safle'r gwaith yn ardal Dinas ddydd Iau – i weld beth sydd wedi'i gyflawni yn ystod camau cynnar y prosiect, wrth baratoi ar gyfer y gwaith gosod polion a ddechreuodd yn ddiweddar o wythnos olaf mis Medi.
“Mae monitro ein hen safleoedd tomenni glo yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig, gyda’n rhaglen reolaidd o waith arferol yn cael ei hategu gan archwiliadau pellach pan fydd tywydd garw yn cael ei ragweld. Yn y Cyngor mae gyda ni Garfan Diogelwch Tomenni Glo bwrpasol sy'n hwyluso ein gwaith cynnal a chadw a'n buddsoddiad yn y maes yma. Eleni (2026/27), rydyn ni wedi sicrhau £13.75 miliwn trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, gan gynnwys £4.7 miliwn ar gyfer prosiect Tomen Graigddu. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau £5.318 miliwn pellach ar gyfer 2027/28, gan gynnwys £175,000 ar gyfer Tomen Graigddu.
“Mae prosiect Tomen Graigddu wedi’i gynllunio’n ofalus ochr yn ochr ag ymgynghorwyr arbenigol i sefydlogi tir y domen, gwella ei systemau draenio, a gosod mesurau amddiffyn allweddol – er enghraifft, rhag methiannau llethrau. Bydd y Cyngor yn parhau i rannu diweddariadau cynnydd â thrigolion wrth i'r prosiect gyrraedd cerrig milltir dros y misoedd nesaf. Diolch i drigolion am eich cydweithrediad parhaus wrth i ni gyflawni'r gwaith yma – gyda’r trefniadau cau ffyrdd, y ffordd fynediad dros dro, a newidiadau i lwybrau bysiau bellach wedi'u rhoi ar waith am gyfnod y prosiect.”
Mae'r contractwr Alun Griffiths Ltd wedi darparu swyddog cyswllt cymunedol penodedig, Neil Evans, er mwyn ateb ymholiadau gan drigolion lleol. Mae modd cysylltu â'r swyddog yma drwy ffonio (01873 857211), neu e-bostio (enquiries@alungriffiths.co.uk).
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 05/10/2026