Skip to main content

Cynllun Gwaith Sylweddol ar Safle Tomen Lo yn ardal Dinas yn barod i ddechrau

Graig Ddu tip, Dinas 1 - Copy

Bydd y Cyngor yn dechrau ar waith cynllun sylweddol ar Domen Lo’r Graig-ddu yn ardal Dinas, er mwyn darparu gwelliannau gwerth miliynau o bunnoedd fydd yn sefydlogi cyflwr llawr yr hen domen lo. Mae cymorth cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru wedi'i dderbyn yn flaenorol ar gyfer y gwaith pwysig yma, fydd yn cael ei ddarparu dros y flwyddyn sydd i ddod. Bydd rhaid cau ffyrdd yn lleol a defnyddio trefniadau bws dros dro er mwyn cyflawni'r gwaith.

Ym mis Chwefror 2026, dyfarnodd y Cyngor gontract dylunio ac adeiladu i Alun Griffiths (Contractors) Ltd, wedi iddyn nhw dderbyn ymrwymiad ariannu gwerth £4.8 miliwn gan y Cynllun Grant Aml-flwyddyn Diogelwch Tomenni Glo, fydd yn para tan 2029/30. Mae'r contractwr wedi derbyn cymorth gan ymgynghorwyr Stantec er mwyn cyflawni gwaith ymchwilio ychwanegol, paratoi dyluniad y cynllun, a derbyn y caniatâd angenrheidiol er mwyn bwrw ymlaen â darpariaeth y cynllun terfynol.

Mae'r Cyngor bellach wedi penodi Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn brif gontractwr y cynllun, a byddan nhw'n dechrau ar y safle o ddydd Llun, 27 Gorffennaf ymlaen.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio er mwyn darparu diogelwch i Heol Graigddu a Heol y Ficerdy, drwy osod wal bentyrrau wedi'i hangori ar hyd blaen y domen. Bydd cyfres o welliannau draenio hefyd yn cael eu cynnal, gyda rhannau o'r domen yn cael eu sefydlogi uwchlaw. Bydd y gwaith yn cymryd oddeutu 13 mis i'w gwblhau.

Bydd rhaid cau'r ffordd yn lleol ar Heol Graigddu a Heol y Ficerdy er mwyn cyflawni gwaith y cynllun. Mae'r lleoliadau wedi'u nodi ar y map yma. Mae'r llwybr amgen, ar hyd Heol y Ficerdy a Heol Dinas wedi'u nodi ar y map uchod hefyd. Nodwch na fydd modd cynnal mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr nac i eiddo. Fodd bynnag, bydd ffordd fynediad dros dro yn cael ei chreu gan y contractwr er mwyn cynnal mynediad at Fferm y Graig-ddu.

Rhaid cau'r ffordd oherwydd bod yna beiriannau mawr megis peiriannau gosod pyst, craeniau, cloddwyr a lorïau, y mae angen eu gweithredu mewn modd diogel.

Nodwch y bydd gwasanaethau bws 173 Stagecoach a Thomas of Rhondda (Porth - Cwm Clydach) yn cael eu dargyfeirio ar hyd y B4278 Heol Dinas yn ystod y gwaith.

Mae'r contractwr Alun Griffiths (Contractors) Ltd hefyd wedi darparu swyddog cyswllt penodedig, Neil Evans, er mwyn ateb ymholiadau gan y gymuned. Mae modd cysylltu â'r swyddog yma drwy ffonio (01873 857211), neu e-bostio (enquiries@alungriffiths.co.uk).

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Seilwaith Cyfalaf, : "Mae'r gwaith sydd i ddod yn rhan o gynllun Tomen Lo’r Graig-ddu yn dangos ein hymrwymiad, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i fuddsoddi mewn cynnal a gwella diogelwch mewn safleoedd tomenni glo ledled Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi croesawu cyllid gwerth £4.8 miliwn yn benodol ar gyfer y cynllun yma yn gynharach eleni, yn ogystal â chyllid gwerth £13.7 miliwn yn rhan o'r Grant Diogelwch Tomenni Glo er mwyn parhau â'n rhaglen waith, archwiliadau a chynnal a chadw ehangach eleni. Mae gyda ni swyddogion ymroddedig yn rhan o'n Carfan Diogelwch Tomenni Glo yn cyflawni'r gwaith yma drwy gydol y flwyddyn.

"Mae'n debyg y bydd trigolion yn ymwybodol o waith parhaus sy'n cael ei gynnal ar Domen Glo Tylorstown ar ochr mynydd Llanwynno, yn dilyn tirlithriad mawr yn ystod Storm Dennis - ac mae gwaith y cynllun sylweddol yma yn parhau. Mae'r gwaith sydd i ddod yn ardal Dinas dros y flwyddyn nesaf yn un arall o'n prosiectau graddfa fawr - gan gynnwys cynnal gwaith er mwyn sefydlogi cyflwr llawr y domen a gwella draeniad y safle. Bydd hyn yn diogelu'r safle yn well rhag methiannau fyddai'n gallu achosi tirlithriadau. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio yn ofalus ar y cyd ag ymgynghorwyr arbenigol, ac mae bellach yn barod i'w roi ar waith.

"Bydd y gwaith yn dechrau o 27 Gorffennaf ymlaen, a hoffwn ddiolch i'r gymuned leol ymlaen llaw am ei hamynedd a'i chydweithrediad wrth i'n contractwr ddarparu'r cynllun pwysig yma. Bydd angen cau ffyrdd yn lleol ar Heol Graigddu a Heol y Ficerdy, yn ogystal â dargyfeirio llwybr bysiau lleol. Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r contractwr er mwyn sicrhau bod y trefniadau dros dro yn gweithio yn effeithiol, yn darparu gwybodaeth lawn i drigolion lleol, ac yn ateb ymholiadau sydd gyda nhw. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod trigolion yn cael y newyddion diweddaraf wrth i'r cynllun fwrw ymlaen."

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT

Wedi ei bostio ar 23/07/2026