Skip to main content

TRI Unigolyn Wedi Cael Dirwyon Gwerth Dros £1,500 am Dipio Anghyfreithlon!

Mae tri o bobl a fethodd â dod i gyfweliadau Gorfodi Tipio Anghyfreithlon wedi cael dirwyon gwerth cyfanswm o £1,562 yn Llys Ynadon Merthyr Tudful.

Cafodd y tri unigolyn ddirwy o dros £500 yr un am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad yn unol ag Adran 108(4)(c) ac (l) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, ar ôl cael eu gwahodd i ddau gyfweliad ar wahân o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ('PACE') mewn perthynas â thipio anghyfreithlon ledled y Fwrdeistref Sirol.

Roedd Swyddog Gorfodi Gofal y Strydoedd wedi darganfod pentwr mawr o wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd yn Fernhill, Aberpennar, a oedd yn cynnwys nifer o fagiau yn llawn gwastraff cyffredinol, gwastraff bwyd a hen ddillad gwely. Yn yr achosion eraill cafodd PUMP o fagiau du eu gadael ar balmant Stryd Williams, Treherbert a bag du arall ei roi wrth ymyl adeilad busnes ar Stryd Caerdydd, Aberdâr.

Yn dilyn ymchwiliad ac ymholiadau manwl, cafodd tystiolaeth ei chanfod a oedd efallai'n cysylltu'r gwastraff a gafodd ei dipio i'r tri unigolyn.

Gwahoddodd Swyddog Gorfodi Gofal y Strydoedd nhw i gyfweliadau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ond anwybyddodd bob un o'r unigolion y gwahoddiadau. Doedd dim dewis felly i Gyngor Rhondda Cynon Taf ond cyflwyno Hysbysiad Cyfreithiol i'r unigolion o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ddod am gyfweliad i drafod y troseddau.

Er i'r Cyngor roi gwybod iddyn nhw am y penderfyniad, methodd pob un ohonyn nhw â chysylltu â'r garfan Gofal y Strydoedd i drafod y mater, gan adael dim dewis ond gofyn i'r Llys eu herlyn.

Mae gan Swyddogion Gorfodi'r Cyngor bwerau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth benodol. Mae modd iddyn nhw roi hysbysiadau cosb sefydlog i unigolion a busnesau ac mae modd iddyn nhw ddefnyddio nifer o ddulliau i ymchwilio i droseddau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, gan gynnwys cyfweliadau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. Caiff yr hysbysiadau a'r ceisiadau yma eu cyhoeddi i'r rhai a allai fod wedi cyflawni neu sy'n gyfrifol am droseddau penodol, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â rheoli gwastraff a thipio anghyfreithlon.

Drwy fethu â chydymffurfio â'r Hysbysiad drwy beidio â mynychu cyfweliad Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a gwrthod rhoi gwybodaeth neu ymgysylltu â swyddogion, roedd y TRI unigolyn felly wedi cyflawni trosedd o dan Adran 110(2)(a) Deddf yr Amgylchedd 1995.

Adran 110 Deddf yr Amgylchedd 1995 - Mae'n drosedd i berson rwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer neu gyflawni ei bwerau neu ei ddyletswyddau.

Mae'r garfan Gofal y Strydoedd ymroddedig yn chwarae rhan allweddol ledled y Fwrdeistref Sirol wrth sicrhau bod ein cwm hardd yn cael ei gadw'n lân ac yn daclus, ac yn rhydd o'r llanast y mae tipwyr anghyfreithlon yn ei greu. Mae'r achosion diweddaraf yma'n tynnu sylw at bwysigrwydd y swyddogion ac yn anfon neges glir i'r cyhoedd bod angen dilyn eu cyfarwyddyd, neu efallai y bydd angen i chi fynd i'r llys. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad ac os na fyddwch chi'n bresennol, mae modd i ni gymryd camau gweithredu, ac fe fyddwn ni’n gwneud hynny – does dim modd i chi ddianc.

Meddai'r Cynghorydd Louisa Addiscott, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Seilwaith Cyfalaf:

"Dyw tipio'n anghyfreithlon ddim yn cael ei ganiatáu, BYTH. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein lonydd, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif – hyd yn oed os ydyn nhw'n ceisio ein hanwybyddu.

"Er gwaethaf nifer o wahoddiadau, dewisodd y tri unigolyn anwybyddu ein ceisiadau ac maen nhw bellach wedi cael dirwy sylweddol a chofnod troseddol gan y llys.

Fel Cyngor mae gyda ni hanes cryf o gymryd camau yn erbyn troseddau amgylcheddol a byddwn ni'n parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau a chyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ble y bo'n addas.

"Mae ein carfanau'n gweithio'n galed i gadw ein strydoedd a'n lonydd yn lân, ac ni fydd tipio anghyfreithlon o unrhyw fath yn cael ei oddef."

"Drwy ein hymgyrch newydd, Cadw RhCT yn Daclus, rydyn ni'n gofyn i bawb chwarae eu rhan. Boed yn ailgylchu'n gywir, glanhau ar ôl eich ci, rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon, rhoi sbwriel yn y bin neu ein helpu i roi gwybod am finiau llawn neu finiau sydd wedi'u difrodi, mae modd i ni gyd wneud gwahaniaeth.

"Hoffen ni hefyd atgoffa perchnogion tai neu fusnesau, os ydych chi'n talu rhywun, heblaw'r Cyngor, i gael gwared ar eich gwastraff, y dylech chi bob amser wirio bod gyda nhw drwydded cludo gwastraff a gofyn am nodyn trosglwyddo gwastraff. Os caiff eich gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon, byddai modd i chi gael dirwy, ynghyd â'r unigolyn neu'r cwmni'r gwnaethoch chi ei dalu i gael gwared arno.

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Dylai'r arian yma fod yn cael ei wario ar wasanaethau allweddol y rheng flaen yn ystod cyfnod pan fo pwysau mawr ar y gyllideb. 

"Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o drigolion ledled Rhondda Cynon Taf yn falch o ble maen nhw'n byw ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw ein bwrdeistref sirol hardd yn DACLUS!"

"Yn anffodus, mae nifer fach o bobl yn dal i gadw ein carfan Gorfodi'n brysur drwy dipio gwastraff yn anghyfreithlon neu beidio â glanhau ar ôl eu cŵn – mae'r holl bethau yma'n bla ar gymunedau ac yn eu gwneud yn hyll i bawb arall.

"Gyda'n gilydd mae modd i ni gadw ein strydoedd, ein parciau a'n cymunedau'n lân ac yn DACLUS!"

Mae gyda'r Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol ar gyfer casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu, o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gyda'r Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Mae modd i chi wirio a oes gan berson neu fusnes drwydded cludo gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r neges yn un syml:

Dewch i ni GADW RhCT YN DACLUS.

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch, neu i roi gwybod am achos o Dipio Anghyfreithlon, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CadwRhCTynDACLUS neu mae modd dilyn cyfrif Cyngor RhCT ar Facebook ac Instagram.

Wedi ei bostio ar 22/10/2026