Skip to main content

Cofeb Wedi'i Dadorchuddio yn Sbaen er cof am Löwr o Donypandy Harry Dobson

Spanish Civil War memorial

Mae cofeb newydd er cof am löwr gafodd ei eni yn Nhonypandy, Harry Dobson, wedi'i dadorchuddio yn Sbaen; mae'n garreg filltir yn y gwaith rhyngwladol, ar y cyd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan ohono sy'n ymwneud â threftadaeth Rhyfel Cartref Sbaen.

Yn ddiweddar, teithiodd cynrychiolwyr o Gyngor Rhondda Cynon Taf i Gatalwnia i fod yn bresennol yn yr achlysur dadorchuddio, gan gynrychioli De Cymru wrth gofio yn y fan lle cafodd Harry ei anafu'n angheuol yn gwasanaethu gyda'r Brigadau Rhyngwladol yn ystod Brwydr Ebro ym 1938.

Mae'r gofeb yn rhan o bartneriaeth barhaus y Cyngor gyda Porta de la Història Cultural Association a Phrosiect Solidarity Park Association. Yn sgil y bartneriaeth yma mae cysylltiadau hanesyddol yn cael eu hatgyfnerthu rhwng Rhondda Cynon Taf, yr Ebro a Malgrat de Mar drwy gofio ar y cyd, addysg a chydsefyll rhyngwladol.

Roedd Harry Dobson yn löwr o Donypandy a deithiodd i Sbaen yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen i amddiffyn Gweriniaeth Sbaen oedd wedi'i hethol yn ddemocrataidd. Cafodd ei anafu'n angheuol ger Bryn 481 a bu farw o'i anafiadau fis Awst 1938. Roedd y dadorchuddio'n ennyd hynod ystyrlon o ran y prosiect; roedd aberth Harry'n cael ei gofio yn y fan lle mae ei stori wedi'i gwreiddio o hyd.

Mae'r gofeb yn Sbaen yn rhan ddiweddar o'r gwaith rhyngwladol ar y cyd; ymhlith y rhannau cynharach roedd gweithdai creadigol gyda disgyblion o Ysgol Gymuned y Porth. Cafodd eu gweithiau celf eu defnyddio'n uniongyrchol ar gyfer dylunio'r gofeb gafodd ei dadorchuddio yng Nghatalwnia. Cafodd arddangosfa gyhoeddus o ddyluniadau'r disgyblion ei chynnal ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda fis Mehefin, lle cafodd ei gyhoeddi bod y dyluniad ddaeth i'r brig yn gyfuniad o ddau gais o blith y rhai oedd wedi'u cyflwyno.

Mae cofeb Catalwnia'n rhan o gyfres ehangach o gofebau sy'n cysylltu â'i gilydd; mae cofeb arddull portwll yn cael ei dylunio yn Rhondda Cynon Taf fydd hefyd yn rhannu cysylltiad â'r rhain. Mae cynlluniau pellach ar waith gyda phartneriaid yn Malgrat de Mar hefyd. Gyda'i gilydd, byddan nhw'n creu cysylltiad parhaol rhwng Cymru, Catalwnia a Malgrat de Mar; bydd hyn yn fodd o ofalu bod stori Harry Dobson a chyfraniad ehangach y gwirfoddolwr Cymreig i'r Brigadau Rhyngwladol yn cael eu cofio o hyd gan genedlaethau'r dyfodol.

Yn ystod yr ymweliad, dangosodd cynrychiolwyr eu parch hefyd wrth Fryn 666, lle cafodd glöwr o Aberdâr, Tom Howell Jones, ei ladd. Cafodd yr achlysur cofio yma ei gynnal ar ran y Cyngor, y gymuned leol a theulu Tom, yn dilyn cyswllt diweddar gyda'i berthnasau – fe wnaethon nhw rannu ffotograffau, llythyron a straeon teuluol yn ymwneud a'i waith a'i wasanaeth.

Mae'r adegau yma'n atgyfnerthu arwyddocâd lleol, dwfn, y prosiect yma. Er i ddigwyddiadau Rhyfel Cartref Sbaen ddigwydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o Dde Cymru, mae straeon Harry Dobson, Tom Howell Jones, Huw Alun Menai Williams a nifer o bobl eraill yn dangos y cysylltiad rhwng Rhondda Cynon Taf ac un o frwydrau mwyaf yr 20fed ganrif. Roedd cannoedd o wirfoddolwyr o Gymru'n rhan ohoni, gan gynnwys glowyr, undebwyr llafur, nyrsys, gweithwyr cymorth cyntaf ac ymgyrchwyr; roedd sawl un o blith y bobl yma o'r farn bod y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen yn rhan o'r frwydr ehangach dros ddemocratiaeth, cydraddoldeb a rhyddid.

Mae Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i roi'r straeon yma ar gof a chadw a'u rhannu, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol er mwyn cysylltu archifau lleol, cofebau, hanesion teuluol a mannau cofio ledled Cymru a Sbaen.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Roedd sefyll yng Nghatalwnia ar gyfer dadorchuddio'r gofeb er cof am Harry Dobson yn ennyd hynod ystyrlon; roedd yn atgoffâd pwerus o'r modd y gall treftadaeth gysylltu pobl ar draws ffiniau, cenedlaethau a chymunedau.

“Roedd Harry'n löwr o Donypandy, â'i wreiddiau yng nghymoedd dosbarth gweithiol y de a oedd wedi'u siapio gan galedi, undebau llafur a chydsefyll. Fe deithiodd i Sbaen oherwydd roedd o'r farn bod democratiaeth a rhyddid werth eu hamddiffyn ac mae ei stori'n un sy'n taflu goleuni o hyd ar ddewrder, cydsefyll a gwneud safiad er mwyn eraill.

“Mae'r gofeb yn symbol pwerus o'r cyfeillgarwch rhwng Cymru a Chatalwnia. Mae'n anrhydeddu bywyd Harry, ond mae hefyd yn cydnabod cyfraniad ehangach pobl gyffredin a safodd yn erbyn anghyfiawnder yn ystod un o gyfnodau tywyllaf Ewrop.

"Rydw i'n falch bod gyda disgyblion o Ysgol Gymuned y Porth a'r gymuned leol ran mor bwysig i'w chwarae wrth siapio'r modd y bydd yr hanes yma’n cael ei chofio'n lleol, gan helpu i basio gwaddol Harry ymlaen i genhedlaeth newydd.

"Fe hoffwn i ddiolch i'n partneriaid yn Porta de la Història a Phrosiect Solidarity Park am eu hymrwymiad parhaus i'r cydweithrediad yma, ac am helpu i ofalu bod cyfraniad gwirfoddolwyr o Gymru'n parhau i gael ei gofio â chymaint o ofal a pharch."  

Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber (Medal yr Ymerodraeth Brydeinig): "Mae dadorchuddio'r gofeb yma'n Sbaen yn garreg filltir bwysig yn ein gwaith rhyngwladol ar y cyd yn ymwneud â threftadaeth, ac yn deyrnged bwerus i Harry Dobson, y glöwr o Donypandy y mae ei ddewrder yn parhau i fod yn berthnasol bron i nawdeg mlynedd yn ddiweddarach.

“Mae stori'n Harry'n ein hatgoffa ni bod pobl gyffredin o'n cymunedau wedi chwarae rhan eithriadol yn y frwydr yn erbyn ffasgiaeth ac anghyfiawnder. Fe adawodd Gwm Rhondda, nid er mwyn cael clod, ond oherwydd ei fod o'r farn bod democratiaeth a rhyddid werth eu hamddiffyn pryd bynnag yr oedden nhw dan fygythiad.

“Mae'r prosiect wedi helpu i gysylltu pobl ifainc, teuluoedd, haneswyr lleol, a, phartneriaid rhyngwladol, drwy gofio ar y cyd. Mae'n fodd o ofalu y bydd enw Harry Dobson, a'r gwerthoedd yr oedd yn sefyll drostyn nhw, yn parhau i gael eu cofio yng Nghymru a Chatalwnia fel ei gilydd.

“Rydw i hefyd yn falch bod pobl wedi bod yn talu teyrnged i löwr o Aberdâr, Tom Howell Jones, wrth Fryn 666. Mae ei stori, ynghyd â stori Harry a rhai'r gwirfoddolwyr Cymreig eraill, yn rhan o waddol pwysig, sy'n destun balchder, o ran cydsefyll; y mae rhaid i ni barhau i'w rhoi ar gof a chadw.”

Prosiect cymdeithasol-ddiwylliannol gan yr artist Rob MacDonald yw Solidarity Park. Cafodd ei lansio yn 2016 ar ôl iddo ddarllen am frigadydd o'r Alban â'r un enw ag ef, a foddodd gyda'r llong Ciudad de Barcelona, ochr yn ochr ag aelodau eraill y Brigadau Rhyngwladol.

Arweiniodd hyn at greu heneb fyw ar y traeth ym Malgrat de Mar yn 2022. Yn ystod gwyliau stryd a gweithdai cyhoeddus daeth dros 700 o bobl ynghyd i gerfio'r ffigyrau o garreg, gan helpu Rob i ddod â'r heneb i fodolaeth. Wedi'i osod gyferbyn â lle suddodd y Ciudad de Barcelona, mae'r safle'n cael ei ddefnyddio i gynnal gŵyl ryngwladol flynyddol sy'n ein hatgoffa o werthoedd y Brigadau Rhyngwladol – undod, rhyddid a chydraddoldeb –  trwy gelf, addysg a chofio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Solidarity Park

Menter gydweithredol sydd wrthi'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd yw Cymdeithas Ddiwylliannol Porta de la Història. Dyma griw o unigolion sy'n byw yng Nghatalwnia, Sbaen a thramor sydd â diddordeb mawr yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936–1939) a'r brwydrau cymdeithasol a ddaeth cyn ac ar ei ôl.

Mae modd dysgu rhagor ar-lein yma:

I gael rhagor o wybodaeth am ein harddangosfeydd a'n casgliadau treftadaeth, ewch i'r wefan ganlynol: Rhondda Cynon Taf | Ein Treftadaeth

Wedi ei bostio ar 16/09/2026