Skip to main content

Cyhoeddi Dyluniad Cofeb Buddugol wrth i Gydweithrediad Treftadaeth Rhyfel Cartref Sbaen gyrraedd carreg filltir newydd

Spain Excavation - Artwork Exhibition RHP (4)

Mae dyluniad buddugol ar gyfer cofeb newydd ar gyfer Rhyfel Cartref Sbaen wedi cael ei gyhoeddi, gan nodi carreg filltir allweddol arall yng nghydweithrediad treftadaeth ryngwladol Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn arddangosfa gyhoeddus a gafodd ei chynnal ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ddydd Sadwrn, 13 Mehefin, lle cafodd gwaith celf a gafodd ei greu gan ddisgyblion ysgolion lleol ei arddangos yn rhan o'r prosiect. Mae'r fenter yn cysylltu Rhondda Cynon Taf ag afonydd Ebro a Malgrat de Mar yn Sbaen trwy gofio ar y cyd.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar gydweithrediad treftadaeth sefydledig gyda phartneriaid Cymdeithas Ddiwylliannol Porta de la Història a Chymdeithas Solidarity Park ac yn parhau i dynnu sylw at stori Harry Dobson – y glöwr a aned yn Nhonypandy a gafodd ei anafu'n angheuol ger Bryn 481 yn ystod Brwydr yr Ebro yn 1938 wrth wasanaethu gyda'r Brigadau Rhyngwladol.

Roedd yr arddangosfa'n cynnwys dyluniadau gan ddisgyblion o Ysgol Gymunedol y Porth. Cafodd y gwaith celf ei greu yn ystod cyfres o weithdai creadigol wedi'u harwain gan yr arlunydd a'r cerflunydd Rob MacDonald, sef sylfaenydd prosiect Solidarity Park yn Malgrat de Mar. Roedd gwaith celf gan ddisgyblion o ysgolion yn Lloegr, yr Iseldiroedd, Sbaen a Chatalwnia hefyd wedi cael ei arddangos.

Bydd y dyluniadau'n llywio disg goffa newydd yn arddull portwll, a fydd yn rhan o gyfres o gofebion cysylltiedig sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Rhondda Cynon Taf, Catalwnia a Malgrat de Mar.

Dechreuodd y diwrnod gydag areithiau a chyflwyniadau, ochr yn ochr â pherfformiadau gan Gôr Cochion Caerdydd, a'r uchafbwynt oedd y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden yn cyhoeddi'r dyluniad buddugol. Bydd y dyluniad buddugol yn cyfuno ceisiadau ar wahân gan y disgyblion Jay Cutler a Ruby Davies, gan ddod ag elfennau o'r ddau ynghyd i greu'r gwaith celf terfynol.

Gyda'i gilydd, mae'r ddau gais yn creu dyluniad sy'n adlewyrchu stori Harry Dobson, ei wreiddiau yng nghymunedau glofaol Rhondda Cynon Taf a delfrydau eang a gafodd eu cynrychioli gan y Brigadau Rhyngwladol.

Wedi hynny, cymerodd y mynychwyr ran mewn sesiwn ymarferol o waith maen lle cafodd aelodau o'r cyhoedd, disgyblion a'u teuluoedd eu gwahodd i roi cynnig ar gerfio'r garreg a fydd yn rhan o'r gofeb.

Drwy gynnwys pobl ifainc yn uniongyrchol yn y broses ddylunio, mae'r prosiect yn cysylltu cenhedlaeth newydd â lle Rhondda Cynon Taf mewn hanes rhyngwladol ehangach, gan gysylltu dysgu lleol â chymunedau yn Sbaen lle mae'r stori gyffredin yna'n dal i gael ei chofio heddiw.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r prosiect yma'n parhau i ddangos cryfder ein partneriaethau rhyngwladol a’n hymrwymiad i ddiogelu a rhannu lle Rhondda Cynon Taf mewn hanes rhyngwladol.

“Mae’n arbennig o ysbrydoledig gweld pobl ifainc yn chwarae rhan mor bwysig wrth lunio’r gofeb yma, gan sicrhau bod gwaddol y rhai a wasanaethodd – gan gynnwys Harry Dobson – yn cael ei gofio gan genedlaethau’r dyfodol mewn ffordd ystyrlon a pharhaol.”

Mae'r Cyngor hefyd yn tynnu sylw at ymweliad tywys am ddim ar y gweill sy'n cael ei gynnal yn Sbaen, yn ôl troed Harry Dobson: Taith Dywys Brwydr yr Ebro, sy'n digwydd o 24 i 26 Gorffennaf ac wedi'i drefnu gan Gymdeithas Ddiwylliannol Porta de la Història. Bydd yr ymweliad yn archwilio safleoedd allweddol sy'n gysylltiedig â stori Harry Dobson a Brwydr ehangach yr Ebro.

Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Porta de la Història yn uniongyrchol yn pdlhistoria@gmail.com neu drwy WhatsApp ar +34 638 438 766.

Byddwn ni'n rhannu rhagor o newyddion am y prosiect treftadaeth cyffrous ar y cyd yma wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden gyda'r prif gyfrifoldeb dros Gymunedau, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: “Roedd yn fraint mynychu’r arddangosfa a gweld â’m llygaid fy hun y creadigrwydd a’r ystyriaeth y mae pobl ifainc wedi’i gyfrannu at y prosiect yma. Roedd safon y gwaith celf yn anhygoel, ac mae'r penderfyniad i gyfuno dau ddyluniad ar gyfer y gofeb derfynol yn adlewyrchu cryfder y syniadau a gafodd eu harddangos. Roedd cymryd rhan yng ngwaith cerfio'r garreg fy hun wedi gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy pwerus.

“Yr hyn sy’n gwneud y prosiect yma'n arbennig o arwyddocaol yw ei fod yn cysylltu pobl ifainc leol â stori sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i Rondda Cynon Taf. Dyn cyffredin o Donypandy oedd Harry Dobson, ond daeth ei ddewrder yn rhan o frwydr ryngwladol ryfeddol yn erbyn ffasgiaeth ac anghyfiawnder.

“Trwy brosiectau fel hyn, rydyn ni'n helpu cenhedlaeth newydd i ddeall bod cymuned yn ymwneud â mwy na lle rydyn ni'n byw – mae hefyd yn ymwneud â’r gwerthoedd rydyn ni'n sefyll drostyn nhw, gan gynnwys undod, gobaith a sefyll dros eraill.”

Prosiect cymdeithasol-ddiwylliannol gan yr artist Rob MacDonald yw Solidarity Park. Cafodd ei lansio yn 2016 ar ôl iddo ddarllen am frigadydd o'r Alban â'r un enw ag ef, a foddodd gyda'r Ciudad de Barcelona, ochr yn ochr ag aelodau eraill y Brigadau Rhyngwladol.

Arweiniodd hyn at greu heneb fyw ar y traeth ym Malgrat de Mar yn 2022. Yn ystod gwyliau stryd a gweithdai cyhoeddus daeth dros 700 o bobl ynghyd i gerfio'r ffigyrau o garreg, gan helpu Rob i ddod â'r heneb i fodolaeth. Wedi'i osod gyferbyn â lle suddodd y Ciudad de Barcelona, mae'r safle'n cael ei ddefnyddio i gynnal gŵyl ryngwladol flynyddol sy'n ein hatgoffa o werthoedd y Brigadau Rhyngwladol – undod, rhyddid a chydraddoldeb – trwy gelf, addysg a chofio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Solidarity Park

Menter gydweithredol sydd wrthi'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd yw Cymdeithas Ddiwylliannol Porta de la Història. Dyma griw o unigolion sy'n byw yng Nghatalwnia, Sbaen a thramor sydd â diddordeb mawr yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936–1939) a'r brwydrau cymdeithasol a ddaeth cyn ac ar ei hôl.

Mae modd dysgu rhagor ar-lein yma:

I ddysgu rhagor am ein harddangosfeydd a'n casgliadau treftadaeth, ewch i: Rhondda Cynon Taf | Ein Treftadaeth

Wedi ei bostio ar 13/07/2026