Ydych chi'n poeni ynghylch beth fyddai'n digwydd i'r sawl rydych chi'n rhoi gofal iddo petaech chi'n mynd yn sâl neu'n cael damwain?
Os YDYCH chi, efallai byddai Cerdyn Argyfwng Gwasanaeth Cymorth Rhondda Cynon Taf o gymorth i dawelu'ch meddwl chi.
Pobl sy'n rhoi gofal yn lleol ofynnodd am y gwasanaeth, oherwydd roedden nhw'n poeni ynghylch beth fyddai'n digwydd petaen nhw allan ar eu pennau'u hunain ac yn cael damwain neu'n mynd yn sâl. Roedden nhw eisiau gwasanaeth allai dawelu'u meddyliau a oedd ar gael drwy'r dydd, bob dydd. Roedden nhw hefyd eisiau gwasanaeth fyddai'n rhoi'r diogelwch gorau posibl i'r bobl roedden nhw'n rhoi gofal iddyn nhw.
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio
Byddwch chi'n gallu mynd â'r cerdyn, sydd yr un maint â cherdyn credyd, gyda chi ar bob adeg. Byddai'n cael ei ddefnyddio fel cerdyn adnabod pe baech chi mewn damwain neu'n mynd yn sâl yn sydyn.
Bydd Gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) y Cyngor yn cadw cofnod o'ch rhif cofrestru a'ch manylion chi fel bod modd iddo drefnu cymorth i'r ddau ohonoch, tra byddwch chi'n cael sylw. Drwy wneud galwad sydyn, bydd rhywun wrth law i ofalu am y person yn eich lle. Mae gweithwyr yn staffio’r Wifren Achub Bywyd 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn.
Cyflwynwch gais ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer Cerdyn Argyfwng i Gynhalwyr drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein neu ffonio 01443 425003