Skip to main content

Gwasanaeth bwrw bol / estyn cyngor i gynhalwyr

Dyma wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy'n cynnig cymorth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan gynghorwyr cymwys ac mae ef ar gael i gynhalwyr sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

Gall cynhalwyr fod yn rhieni, yn feibion neu'n ferched, yn bartneriaid, perthnasau, ffrindiau neu gymdogion, o bob oedran, sy'n cymryd cyfrifoldeb am ofal rhywun sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi neu ddod i ben â phethau adref heb gymorth.
 
Does dim diffiniad pendant ar gyfer cynhaliwr. Gall rhoi gofal fod yn weithgaredd tymor byr neu hirdymor sy'n parhau dros ychydig o wythnosau neu dros ddegawdau. Mae'r gofal mae cynhalwyr yn ei ddarparu yn hanfodol, a gall amrywio o wneud y siopa wythnosol i ofalu am berson 24 awr y dydd. Gall y tasgau mae cynhalwyr yn ymgymryd â nhw gynnwys gwaith tŷ, gofal personol, yn ogystal â darparu cwmni a chymorth emosiynol. Yn aml, mae gofalu yn waith anodd iawn a llawn straen.
 
Yn aml, mae cynhalwyr yn gwneud aberthau mawr wrth ofalu am berson. Gall gofalu am rywun arall gael effaith ar yrfa, materion ariannol, bywyd cymdeithasol, amser personol, rhyddid ac iechyd.
 
Mae'r cynghorwyr wedi’u hyfforddi i wrando, a byddan nhw'n gallu'ch helpu chi i ystyried yr opsiynau, a gweld problemau mewn ffordd arall. Byddan nhw hefyd yn eich helpu chi i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i reoli'ch bywyd mewn ffordd sy'n addas i chi. Y nod yw'ch helpu chi i ganfod eich atebion eich hunan i'r problemau a’r pryderon, gan eich parchu chi a'ch hawl i hunanbenderfyniaeth.

Cyhyd â'ch bod chi'n gynhaliwr yn Rhondda Cynon Taf, fe gewch chi drefnu apwyntiad gyda chynghorydd.
 
Yn y sesiwn gyntaf bydd y cynghorwr yn egluro beth i'w ddisgwyl yn y sesiynau. Gallwch chi benderfynu bryd hynny a fyddai'r gwasanaeth yma y peth gorau i chi. Os ydych chi o'r farn na fyddai hyn y peth gorau i chi, gall y cynghorydd awgrymu sefydliadau amgen a allai fod o gymorth.

I drefnu apwyntiad, ffoniwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr neu anfon e-bost i'r Gwasanaeth Estyn Cyngor yn uniongyrchol.

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr

E-bost cynnalycynhalwyr@rctcbc.gov.uk
Ffon: 01443 281463