Rydyn ni'n darparu cymorth i bobl sy'n profi anawsterau gyda chamddefnyddio sylweddau megis:
- alcohol, sylweddau anweddol (fel aerosolau a glud)
- meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu dros y cownter
- cyffuriau anghyfreithlon
- cyffuriau gwella perfformiad a delwedd (fel steroidau)
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â phobl sydd â phrofiad yn y maes, Barod, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau cenedlaethol eraill, ac ystod o sefydliadau gwirfoddol, asiantaethau annibynnol a grwpiau cymunedol.
Mae camddefnyddio sylweddau'n gallu cael effaith ar bobl o bob oed, eu teuluoedd a'r cymunedau ble maen nhw’n byw. Mae cymorth ar gael ar gyfer plant a phobl ifainc dan 18 oed ac oedolion dros 18 oed. Mae'r cymorth yn cynnwys:
- Ymyriadau byr a chyngor
- Addysg ac ymwybyddiaeth
- Cymorth 1:1 wedi'i strwythuro
- Ymyriadau lleihau niwed
- Cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau
- Cymorth ar gyfer eraill sy'n pryderu
- Gwaith grŵp
- Mynediad at gyfleoedd ailsefydlu preswyl
- Cwnsela
- Cymorth arbenigol
- Dadwenwyno a thriniaeth alcohol
- Presgripsiwn am foddion yn lle opiadau
- Ymwybyddiaeth o beryglon gorddosio a hyfforddiant a chymorth o ran defnyddio prenoxad
- Gwasanaethau cymorth o ran camddefnyddio sylweddau ac allgymorth tai
- Sgrinio, atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer Feirysau a Gludir yn y Gwaed
- Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol
- Allgymorth
Cwm Taf Morgannwg (Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf)
Mae un pwynt mynediad ar gyfer cyngor, gwybodaeth a ffordd hawdd i ddefnyddio gwasanaethau i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad ar gyfer Alcohol a Chyffuriau (DASPA) yn cynnig mynediad haws i ddefnyddwyr y gwasanaeth, aelodau'r teulu, eraill sy'n pryderu a gweithwyr proffesiynol i dderbyn cyngor neu wneud atgyfeiriad i’r holl wasanaethau camddefnyddio sylweddau ledled Cwm Taf.
Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl ar gyfer Alcohol a Chyffuriau 'DASPA' (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm)
- Ffôn: 0300 333 0000 (am ddim o ffôn llinell tir, cost galwad lleol o ffôn symudol)
- Gwefan DASPA: https://daspa.org.uk/ er mwyn i weithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriadau ar-lein
- Mae gwasanaeth sgyrsio ar-lein 'Barod' ble mae modd gwneud atgyfeiriadau 'DASPA' https://barod.cymru
- Mae rhif ffôn gyda 'Barod' yn benodol fel bod modd i blant a phobl ifainc anfon neges destun neu WhatsApp, sef 07436315344. Bydd gweithiwr yn ymateb yn ystod oriau gwaith 9am–5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dan 24/7
Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, cynhalwyr, a'r rheiny sy'n weithwyr cymorth yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gafael ar wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.
I gael cymorth y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch Dan 24/7
- Ffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun at DAN: 81066
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) - cymorth iechyd meddwl
Ffoniwch 111 a dewiswch OPSIWN 2 ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys. Mae'r gwasanaeth yma ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar draws holl ardaloedd Cymru i sicrhau bod cymorth ar gael yn gyflym i'r rhai sydd ei angen y mwyaf