Rydyn ni'n darparu cymorth i bobl sy'n profi anawsterau drwy gamddefnyddio sylweddau fel:
- alcohol, sylweddau anweddol (fel aerosol a nwyon)
- meddyginiaeth ar bresgripsiwn a dros y cownter
- cyffuriau anghyfreithlon
- cyffuriau gwella perfformiad a delwedd (steroidau)
Yn aml, rydyn ni’n gweithio ar y cyd â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau lleol neu genedlaethol eraill, sy’n cael eu cynnig gan ddarparwyr gofal iechyd, asiantaethau gwirfoddol ac annibynnol amrywiol, ac unedau cymunedol.
Gall camddefnyddio sylweddau effeithio ar bobl o bob oed, eu teuluoedd a’r cymunedau maen nhw’n byw ynddyn nhw.
Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
Mae un pwynt mynediad ar gyfer cyngor, gwybodaeth a gwasanaethau i’r rheiny sydd wedi'u heffeithio o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau yn ardal Cwm Taf (Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful). Mae'r Un Pwynt Mynediad ar gyfer y rheiny sy'n Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol (DASPA) yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gwasanaethau, aelodau o deuluoedd defnyddwyr y sylweddau yma, pobl eraill sydd â phryderon a gweithwyr proffesiynol gael cyngor neu gyfeirio unigolyn at yr holl wasanaethau camddefnyddio sylweddau yn ardal Cwm Taf.
DASPA – Un Pwynt Mynediad ar gyfer y rheiny sy'n Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol
- Ffôn: 0300 333 0000 (rhad ac am ddim o ffôn y tŷ, pris galwad leol o ffôn symudol)
Pen-y-bont ar Ogwr
Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Asesu Alcohol a Chyffuriau Abertawe (AADAS) yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n chwilio am gymorth neu gyngor ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Mae AADAS yn cynnig un pwynt mynediad ar gyfer asesiadau, gwybodaeth a chyngor am alcohol a chyffuriau i bobl sy'n poeni am eu defnydd o sylweddau a'r rheiny sy'n gofyn am gymorth a chyngor cyfrinachol oherwydd pryder mewn perthynas â ffrind neu aelod o'r teulu.
Dan 24/7
Bydd y llinell gymorth yn helpu unigolion, eu teuluoedd, cynhalwyr, a'r rheiny sy'n weithwyr cymorth yn y maes cyffuriau ac alcohol i gael gafael ar wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.
I gael cymorth y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch Dan 24/7
- Ffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges destun at DAN: 81066