Skip to main content

Gosod Offer Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) a Theleofal (Telecare), a'u cynnal a'u cadw

Bydd gosod, a chynnal a chadw, offer Gwifren Achub Bywyd a Theleofal yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.

Gosod Gwifren Achub Bywyd a'i chynnal a'i chadw:

  • Bydd amser sy'n gyfleus i bawb yn cael ei drefnu i osod eich offer Gwifren Achub Bywyd.
  • Gwnewch yn siŵr bod gyda chi ffôn cartref gyda chyflenwad trydan gerllaw cyn i'r offer gael ei osod. Os nad oes cyflenwad trydan gyda chi, fe wnaiff cebl estyn y tro.
  • Mae gosod Gwifren Achub Bywyd yn syml iawn, a fydd y broses ddim yn achosi unrhyw aflonyddwch. Bydd yr uned yn cael ei phlygio i mewn i'ch llinell ffôn bresennol. Bydd ein gosodwr cyfeillgar wedyn yn dangos i chi sut mae'r system yn gweithio ac yn profi'r system cyn gadael.
  • Er eich diogelwch, gofynnwn yn garedig eich bod chi'n profi'r botwm ar y teclyn gwddf bob mis i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn.
  • Os bydd y batri yn dechrau rhedeg yn isel, bydd eich pendant yn anfon rhybudd batri isel i'r Ganolfan Fonitro, a bydd yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i alw a gosod batri newydd.

Gosod offer Teleofal a'i gynnal a'i gadw:

  • Bydd un o'n gosodwyr yn cysylltu â chi neu aelod o'r teulu i drafod eich gofynion Teleofal, a threfnu amser cyfleus i alw a gosod yr offer.
  • Bydd rhaid cysylltu offer Teleofal ag uned sylfaen Gwifren Achub Bywyd. Gwnewch yn siŵr bod gyda chi ffôn cartref, gyda chyflenwad trydan gerllaw cyn i'r offer gael ei osod. Os nad oes cyflenwad trydan gyda chi, fe wnaiff cebl estyn y tro.
  • Mae gosod uned sylfaen Gwifren Achub Bywyd yn syml iawn, a fydd y broses ddim yn achosi unrhyw aflonyddwch. Bydd yr uned yn cael ei phlygio i mewn i'ch llinell ffôn bresennol.
  • Mae synwyryddion Teleofal wedi'u pweru gan fatris ac maen nhw'n anfon rhybudd batri isel i'r Ganolfan Fonitro pan fydd angen eu newid. Bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i'r peiriannydd ddod i newid y batri.
  • Fydd gosod y rhan fwyaf o'r offer Teleofal ddim yn achosi unrhyw aflonyddwch. Serch hynny, bydd gosod rhai eitemau yn achosi aflonyddwch. Mae'r blwch isod yn esbonio rhagor. Os nad chi yw perchennog y tŷ, bydd rhaid i'ch Rheolwr Gofal gael caniatâd y landlord cyn gosod yr offer.

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?