Byddwn ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd i ofalu'ch bod chi'n dychwelyd adref yn ddiogel ac yn gyfforddus ar ôl i chi adael yr ysbyty. Enw'r broses ydy Gweithdrefnau ar gyfer Rhyddhau Cleifion o Ysbytai.
Pan fyddwch chi'n mynd i'r ysbyty byddwch yn derbyn person penodol fel prif gyswllt yn ystod eich arhosiad. Dyma eich nyrs benodol. Yn ogystal â'ch cwestiynau meddygol, bydd eich nyrs benodol (neu ei dirprwy) yn gofyn am eich sefyllfa gartref. Bydd hyn yn ein helpu i weld pa mor dda y byddwch chi'n ymdopi ac a oes angen gofal bellach unwaith i chi adael yr ysbyty.
Peidiwch â bod ofn dweud wrthon ni am unrhyw bryderon sydd gyda chi am ddychwelyd adref. Mae'r rhain yn gyffredin iawn ac yn hawdd eu datrys cyn i chi adael yr ysbyty.
Byddwn ni a'r staff iechyd yn cynllunio gyda chi am y ffordd orau i ymgartrefu eich hun eto ar ôl i chi aros mewn ysbyty. Gall fod yn drefniant dros dro nes i chi wella'n iawn, neu drefniant hir dymor. Bydd y cynllun gofal yn cynnwys aros mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio, os nad oedd mynd adref yn syth yn bosibl.
Bydd eich sefyllfa yn cael ei hadolygu'n gyson i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn yn effeithiol.
Cysylltu â ni
Os ydych chi o'r farn bod angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â:
Carfan Ymateb ar Unwaith
Tel: 01443 425003
Mae'r Gwasanaeth Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos. Ffôn: 01443 743665 / 01443 657225
Cymorth ychwanegol:
Mae Age Connects Morgannwg yn rhedeg Gwasanaeth Gadael yr Ysbyty sy'n cynnig cymorth gwirfoddol, amser byr i bobl hŷn (dros 60 oed) sy'n gadael yr ysbyty ac yn dychwelyd adref. Bwriad y gwasanaeth ydy helpu'r broses ailgartrefu a gallwch ei ddefnyddio yn ogystal â/neu yn lle unrhyw gymorth rydyn ni gallu ei ddarparu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Age Connects Morgannwg.